Dod a pobl at ei gilydd: Taith Cyfnod Clo People Speak Up


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Ar 23 Mawrth, caeodd PSU y drysau yn Ffwrnes Fach ac ymuno a phawb arall wrth weithredu cyfyngiadau’r cyfnod clo. Roedd yr hwb cymundol hanfodol yma wedi bod yn cynnal sawl prosiect, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu, Sadwrn Siarad y Gair, Caffi Canser yn ogystal a phrosiect yng Nghlwb Ieuenctid Bwlch. Yn anffodus, roedd cyfyngiadau a achoswyd gan COVID-19 wedi gorfod dod a rhain i ben, dros dro o leia.

Dyma stori sut mae People Speak Up wedi parhau i ddatblygu a thyfu, hyd yn oed yng ngwyneb y digwyddiad sydd wedi newid bywydau pobol drwy’r byd fwya yn y cyfnod modern.

Cyfarfod heb gyfarfod.

Yn gynnar yn y cyfnod clo, crewyd mash-up fideo Sadwrn siarad y gair i’w rannu ar YouTube PSU. Ro’dd y casgliad wedi cydio yn nheimladau’r rhai o’dd wedi cymryd rhan, wrth i ni gyd fentro i fyd newydd, rhyfedd.

Yn wahanol i’r Sadwrn Siarad y Gair arferol, ro’dd nifer o’r fideos yma’n dangos pobl yn eu cartrefi, neu hoff fan. Daeth hwn a lefel newydd o rannu personol i’r cyfraniadau.

(Sadwrn siarad y gair, Ebrill 11,2020)

Stori, Rhannu, Gofalu

Ro’dd Stori, Rhannu, Gofalu yn arfer cael ei gynnal yn Ffwrnes Fach, ac ro’dd yr angen i bobl ddod at ei gilydd i gysylltu’n greadigol yn ystod y cyfnod annodd yma yn ddigon amlwg. Wedi’r diddordeb mawr yn y Sadwrn Siarad y Gair cynta, a oedd yn gyfarfod heb gyfarfod, penderfynwyd trio cynnal sesiwn o Stori, Rhannu, Gofalu arlein hefyd.

Yn yr wythnos gynta, daeth llond dwrn o bob i sesiwn Zoom Stori, Rhannu, Gofalu, ond erbyn yr ail wythnos ro’dd 16 o bobl wedi ymuno.

Story Care and Share

Ond nid y rhif yn unig o’dd yn galonogol, ond hefyd y rhychwant eang o bobl a oedd yn gwneud defnydd o’r dechnoleg.

Yn ddigon clou, ro’dd y grŵp yn edrych fel rhaglen o gyfres Celebrity Squares, a phan ro’dd yn parhau i dyfu, trefnwyd ail sesiwn.

I rhai, gallai cysylltu gyda cymaint o bobl trwy fideo fod yn ormod. Felly trefnwyd yr ail sesiwn ar gyfer nifer llai o bobl.

Helpu’n gilydd trwy’r ynysu.

Ma’r cyfnod clo wedi bod yn her i gymaint o bobl. Beth bynnag o’dd ein ffordd o fyw, mae effaith ynysu wedi bod yn sylweddol hyd yn oed i’r rhai mwya hyderus. Gyda’r ofnau a’r pryderon ro’dd pawb yn eu teimlo, ro’dd pob sesiwn yn dechrau ac yn cwpla drwy holi am iechyd meddwl y rhai o’dd yn cymryd rhan, a hynny’n ddi-enw.

Ro’dd pawb yn ticio bocs i nodi lefel y gofid o’dd arnyn nhw yng nghanol y cyfnod clo, a ro’dd modd nodi pa mor ddefnyddiol ro’dd y sesiwn. Ro’dd pob sesiwn yn dechrau trwy mewn gofnodi ac yn gorffen trwy gofnodi allan.

Ro’dd sesiynau mwy diweddar wedi cynnwys cyfnod tirio a myfyrio, gan Debs Byers, i helpu ymlacio a chanolbwyntio.

Ieuenctid People Speak Up

Fel gyda Stori rhannu, gofalu, mae Ieuenctid PSU wedi mynd arlein hefyd. Eto, ma hwn trwy Zoom, ac yn dilyn patrwm tebyg i Stori, Rhannu, Gofalu.

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo leihau, mae ieuenctid People Speak Up wedi dechrau cyfarfod wyneb yn wyneb eto, gyda’r pellhau cymdeithasol sydd ei angen.

(Ieuenctid People Speak Up, 30 Gorffennaf 2020)

Caffi Geni

Yn agored i fenywod a phobl di-ddeuaidd, mae’r Caffi Geni yn fan diogel i rannu straon geni. Mae hwn hefyd wedi cael ei gynnal ar Zoom yn y cyfnod clo.

Mae rhai sydd wedi dod i’r Caffi Geni yn y gorffennol wedi dweud: ‘mae’n dda cael cyfle i rannu – ma cymaint o agweddau gwahanol i’r profiad’ a ‘mae’n dda i glywed profiadau pobl eraill – ma pawb yn wahanol, felly ni’n do di ddeall ein gilydd tamed bach yn well.’

Dweud straeon ar draws y cenhedlaethau trwy Zoom.

Un o’r pethau prydfertha i’w weld yw’r cysylltiadau sydd wedi blodeuo drwy’r cyfnod clo. Mae prosiect rhwng Ysgol Coedcae a Chartre Gofal Cilymaenllwyd wedi cysylltiu pobl ifanc a phobl hŷn drwy adrodd stareon. Ma hwn hefyd wedi digwydd trwy Zoom.

Pob wythnos, byddai 4-6 o bobl o’r Cartre Gofal yn ymuno a nifer o ddisgyblion i rannu stori a chael sgwrs. Byddai’r bobl ifanc yn holi’r bobl o’r Cartre am eu hoffderau a’i atgofion. Daeth pobl y Cartre un gyfarwydd â’r dechnoleg yn ddigon clou!

Intergenerational Storytelling via Zoom

Rhoi Stori trwy’r Ffôn

Mae People Speak Up wedi bod yn cynnig rhodd o stori gan lefarwyr stori proffesiynol. Mae hwn wedi cael ei gynnig mewn partneriaeth â’r Gwŷl Rhyngwladol Adrodd Stori Beyond the Border.

Fel arfer, byddai’r adroddwyr stori yn mynd i gartrefi pobl i ddweud stori yno; ond yn ystod y cyfnod clo, mae’r straeon wedi cael eu rhannu dros y ffôn neu arlein.

Gyda’n gilydd arwahân

Er fod People Speak Up wedi methu cynnal sesiynau wyneb yn wyneb trwy gydol y cyfnod clo, a wedi i’r cyfyngiadau leihau rhywfaint, rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd tra arwahân. Mae cysylltu o gyfforddusrwydd y cartre wedi golygu llawer i gymaint o’r bobl sydd wedi cymryd rhan yn ein prosiectau. Mae sawl cyfeillgarwch newydd wedi gallu dechrau pan mae cysylltiadau gyda pobl eraill wedi bod yn brin

Story Care and Share Via Zoom

Drwy’r holl broses o ddod a People Speak Up at sawl platfform digidol, mae sawl sialens technegol wedi ein gwynebu. Mae’r ffaith bod pawb wedi gallu cysylltu trwy eu teclynau personol amrywiol wedi golygu bod pawb wedi gallu cadw mewn cysylltiad. Ond dyw e ddim yn hawdd i reoli grwpiau mawr o bobl ar gyfer sgyrsiau fideo. Ro’dd angen dod o hyd i’r technegau cywir er mwyn i bawb gael y cyfle i siarad ac i wrando. Ro’dd hwn yn golygu creu sustem nomineiddio. Er mwyn osgoi sŵn cefndir yn byddaru pawb, ro’dd pawb ar ‘mute’ pan nad oedden nhw’n cyfrannu. O’r arfer ‘ma, daeth chwifio yn lle curo dwylo, y dwylo jazz! Mae hwn nawr yn sumbol o brofiad cyfnod clo People Speak Up.

Bywyd wedi’r Cyfnod Clo i People Speak Up

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi’n raddol, a daw’r byd nôl i normal. Mae People Speak Up yn meddwl am y dyfodol.

Bydd drysau Ffrwnes Fach yn agor eto rhywbryd, Ond oherwydd y gwersi rydyn ni wedi dysgu yn ystod y cyfnod clo, bydd prosiectau byw People Speak Up hefyd ar gael yn ddigidol. Bydd nifer ddim yn gallu dod i’r sesiynau yn Ffwrnes, a bydd cael yr opsiwn o allu cadw mewn cysylltiad o’r cartre yn help mawr i greu cysylltiadau cymunedol gwerthfawr.

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: