Beth mae People Speak Up yn ei olygu i’w gyfranogwyr.


Gan Peter Wyn Mosey 
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan ym mhrosiectau People Speak Up, yn cynnwys Stori, rhannu, gofalu a Sadwrn Gair a Siarad. 

Mae People Speak Up yn achubiaeth i nifer o’r bobl sy’n ymwneud â’r grŵp. Mae’n le i gyfarfod â phobl sy’n meddwl yr un ffordd a chi ac i rannu straeon neu farddoniaeth - a cherddoriaeth nawr ac yn y man hefyd. Mae gan People Speak Up sawl platfform lle ma modd i bobl gymryd rhan, gan gynnwys Stori, rhannu, gofalu, Sadwrn Gair a Siarad, Ieuenctid People Speak Up a chymaint mwy. Mae hen ddigon o gyfle i chi gymryd rhan gan fod prosiectau newydd yn dechrau’n gyson a digon o gyfle felly i ddod yn rhan o gymuned sy’n tyfu.

Fe ges i air gyda rhai o’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn gyson er mwyn deall beth mae People Speak Up yn ei feddwl iddyn nhw.

DebS Byers

DebS Byers

Fe ddaeth DebS ar draws People Speak Up trwy sesiwn ioga heb y ioga. Trwy weld poster am y sesiwn, fe welodd brosiectau eraill gan People Speak Up, yn benodol, Sadwrn Gair a Siarad. 

Yn ddigon nerfus, fe aeth DebS i’w sesiwn Sadwrn Gair a Siarad cynta, ym Mharc Howard yn 2019. Ro’dd hi wedi meddwl eistedd yn y cefn, er mwyn gallu diflannu’n gyflym petai’r holl beth yn ormod iddi. Yn ffodus, teimlodd yn union i’r gwrthwyneb. Magodd hyder trwy wrando ar bobl eraill yn rhannu barddoniaeth, straeon, caneuon a cherddoriaeth. Darllenodd DebS dau ddarn o’i barddoniaeth ei hun wedyn, a chafodd ei chalonogi gan yr ymateb positif.

‘Sgrifennu Amdana I’ oedd y prosiect arall y gwnaeth DebS gymryd rhan ynddo. Dyma beth wnaeth gryfhau ei chysylltiad gyda PSU, cynyddu ei hyder a gwneud iddi deimlo fel aelod o deulu PSU.

Ro’dd hwn yn gyfres o sesiynau i ddatblygu sgrifennu stori bywyd y rhai ar y cwrs, ac Alun Gibbard yn arwain. Ro’dd DebS wedi penderfynu cyn hyn i sgrifennu am un rhan o’i bywyd, pan gafodd ysgariad, diode gan iselder ac ystyried cymryd ei bywyd. Ro’dd ei stori’n edrych ar sut yr oedd wedi newid o’r person a oedd yn teimlo fel yna i fod y person positif, opstimistaidd mae hi heddi. Mae’n dweud bod y sesiynau yma wedi bod yn help, yn hwyl, yn ddiddorol, addysgiadol, defnyddiol a mwy.

Ro’dd cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi golygu bod DebS wedi gallu cymryd rhan yn o sesiynau digidol Stori, rhannu, gofalu, gan nad oedd yn gallu bod yn rhan o’r sesiynau cyn hynny. Mae’n dweud: 

“Mae Stori, rhannu, gofalu wedi dod yn achubiaeth i fi pob bore dydd Mercher. I fi, mae’r ffaith ei fod arlein wedi rhoi mwy o hyder i fi i rhannu fy ngwaith, gan fy mod yn ddigon swil mewn grŵpiau yn y byd go iawn. Mae’r sgrîn yn cynnig rhyw fath o anhysbysrwydd. Mae’r sgrîn yn caniatau i fi i guddio’r rhan swil ohona i, a pob wythnos ma’r rhan swil yna’n mynd yn llai. Mae gen i deulu newydd nawr: teulu lle ma gofal, deall, empathi gan gyd-sgrifenwyr sydd ddim yn feirniadol. Dw i wrth fy modd â’r cymysgwch oedran, gallu, ffordd o feddwl, personoliaeth a’r ffaith bod pawb yn derbyn pawb, yn derbyn ein hymdrechion i rannu neu’n penderfyniad i beidio rhannu.” DebS Byers

When I Was Seen; When I Was Heard

When I was seen; when I was heard
At first my heart soar and sang
My head filled with elation
But a couple of alarm bells rang.

When I was seen; when I was heard
What if they think I’m dumb;
That my poems are crap and old-fashioned
Measured by their own rule of thumb?

When I was seen; when I was heard
I felt it was time to tell my story
So I sat and wrote a memoir and poems
But it’s not for the fame and the glory.

Now I am seen; now I am heard
I know what it’s like to shine
To be heard and seen in groups such as this
Is a feeling that’s oh so divine.

Now I am seen; now I am heard
My confidence has grown so great
And I want now to help others as well
To remind them, it’s never too late!

Hillary Wickers

Hillary Wickers

Daeth Hillary i wybod am Stori, rhannu, gofalu a People Speak Up wedi iddi weld taflen yn Ffwrnes mewn sesiwn Sadwrn Gair a Siarad rhyw ddwy flynedd yn ôl.

Roedd gŵr Hillary Newydd farw, ac ro’dd yn teimlo ar goll heb wybod beth i’w wneud â hi ei hunan. Dechreuodd fynd i sesiynau Stori, rhannu, gofalu yn y gobaith y byddai’n cael cwmni a chysur yno. Daeth o hyd i’r ddau a chymaint mwy. Mae People Speak Up wedi newid bywyd Hillary.

Mae Hillary’n dweud bod pob sesiwn yn hudolus: y cyfranwyr gwâdd a’r hyn ma nhw’n ei rannu a’r bobl ma hi nawr yn galw’n ffrindiau; rhannu’’r barddoniaeth a hapusrwydd ag empathi diflino Eleanor, cyfarwyddydd People Speak Up. 

“ Dw i’n credu mai’r hyn sydd wedi fy helpu fwya yw’r cyfeillgarwch. Ymddiried a gonestrwydd nifer o bobl arbennig. Gallu rhannu fy nheimladau mwya dwfn trwy farddoniaeth a straeon; yr anrhydedd o wrando a chael caniatad i rannu gydag eraill. Hillary Wickers

Wrth sôn am sut ma’r cyfnod clo wedi effeithio arni, mae’n dweud:

“Dw i wedi bod yn unig trwy’r cyfnod clo. Gan fy mod yn ynysu ar ben fy hun, sesiynau Zoom PSU oedd yr unig gysylltiad ‘da’r byd tu fas am fisoedd. Ro’dd y sesiynau ddwywaith yr wythnos yn achubiaeth.

Roedd sesiwn cynta PSU yr aeth Hillary iddi wedi newid ei bywyd. Dan arweiniad Mel Perry a Dominic Williams, gofynnwyd i’r grŵp i sgrifennu rhywbeth am eu teimladau, mewn ychydig funudau’n unig. Dyma’r darn sgrifennodd Hillary:

Words.
it was something I said often.
Without thinking.
Over the phone,
at the door as you left for work
or went off to the rugby.
I love you.
Take care, be safe.
And you always replied
I love you too.
But now my words hang...
suspended in the silent air.
A constant, painful reminder
that you're no longer here.

Dewch yn rhan o People Speak Up.

Mae Stori, rhannu, gofalu ar Zoom ddwywaith yr wythnos – bore Mercher nos Wener. Mae Sadwrn Gair a Siarad ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis. 

Os ydych chi am gymryd rhan yn unrhyw un o brosiectau People Speak Us, neu os ydych am wybod mwy, cysylltwch nawr


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: