Iechyd Meddwl Dynion: Chwalu’r stigma a siarad lan!


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Yn ôl ymchwil yn 2014, mae gan un dyn o bob wyth broblemau iechyd meddwl ond dyw dynion ddim yn barod iawn i siarad am eu problemau.

Mae mwy a mwy o ddynion yn cymryd eu bywydau eu hunain. Yn ôl y Samariaid, dynion rhwng 45 a 49 sy’n cymryd eu bywydau yn fwy na dynion mewn unrhyw gategori oedran arall. Ond pam?

Mae’r ffigyrau’n ddigon clir. Mae dynion yn gyfrifol am 76% o gyfanswm yr hunan-laddiadau yn y DU bob blwyddyn. (Office of National Statistics) Hunan-ladd yw achos mwya cyffredin o farwolaethau dynion dan 35 oed. (ONS). Mae gan 12.5% o ddynion y DU un salwch meddwl cydnabyddedig. (Men’s Health Forum). Mae dynion tair gwaith yn fwy tebygol o gael problem alcohol ag y mae menywod. (Health and Social Care Information Centre). Mae dynion yn fwy tebygol o ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, ac yn fwy tebygol o farw o’u herwydd. (Men’s Health Forum)

Fel un o’r ‘un dyn o bob wyth’, dw i am ystyried y materion iechyd meddwl mae dynion yn eu gwynebu. Byddaf yn sgwrsio gyda un sydd wedi dod dros cyflwr iechyd meddwl a bydd y ddau ohona ni’n rhannu ein straeon personnol ac yn trafod beth gall dynion wneud i helpu eu hunain a’i gilydd.

Stori Kris

Dechreuodd brwydrau iechyd meddwl Kris pan ro’dd yn ei ugeiniau, yn dilyn marwolaeth ei dad. Gan nad oedd yn gallu prosesu’r galar yr oedd yn ei brofi, a gan nad o’dd yn deall yr iselder a ddaeth gydag e, trodd i fod yn hunan-ddinistriol. Symudodd o’r Drenewydd i Abertawe er mwyn ceisio ffoi rhag yr atgofion annodd ac i geisio dod i delerau â’i golled.

Mae wynebu materion iechyd meddwl yn gallu bod yn eitha her. Mae Kris yn dweud bod ei fethiant i ddelio gyda’i dorri lawr emosiynol cynta yn dod o’r ffaith nad o’dd e’n fodlon derbyn ei fod yn dost. Mae cymdeithas yn troi materion iechyd meddwl yn stigma a hynny’n eu gwneud yn tabŵ.

Er nad o’dd Kris yn deall bod iselder arno, ro’dd yn ffodus bod ganddo deulu agos a o’dd yn gallu gweld ei sefyllfa a rhoi cefnogaeth iddo trwy’r cyfan.

Gwellodd bywyd Kris am gyfnod ac aeth yn ôl i fyw yn y Drenewydd. Rhai blynyddoedd wedyn, ro’dd mewn gwaith a o’dd yn ei rhoi dan cryn dipyn o bwysau a dechreuodd ei broblemau iechyd meddwl godi eto. Ro’dd wedi ystyried dod â’i fywyd i ben a phan ddaeth i’r cyflwr yna, trodd am help.

Gyda’r ail dostrwydd yma, symudodd o’r Drenewydd i Lanelli, i gael dechrau newydd gyda’i deulu. Mewn amser, newidiodd ei ffordd o fyw a dechreuodd fyw bywyd mwy positif. Ro’dd hyn yn cynnwys ymuno a chôr a dod ar draws People Speak Up.

Daeth newid mawr i fywyd Kris pan ro’dd y côr yr o’dd yn perthyn iddo wedi cymryd rhan mewn gweithdy gyda People Speak Up, Sing My Story, Tell my Story. Rhannodd Kris y profiad o golli ei dad am y tro cynta ac ro’dd y profiad yn help mawr. Rhannodd o flaen cynulleidfa ac ro’dd hyn yn help aruthrol iddo i rhyddhau teimladau, rhai a o’dd wedi bod yn eu cuddio am gyfnod hir ers marw ei dad.

O’r cyfarfod cynta yma gyda People Speak Up, mae Kris wedi dod o hyd i bwrpas newydd. Gwelodd faint o les yr oedd bod yn rhan o’r grŵp iddo fe ac fe benderfynnodd wirfoddoli gyda People Speak Up.

Mae teulu’n bwysig i Kris. Mae’n credu bod y cefnogaeth mae wedi cael gan ei deulu wedi bod yn holl bwysig iddo fe. Er nad o’dd e’n gallu deall na mynegu eu deimladau, mae’n credu iddo fod yn lwcus iawn i gael y cefnogaeth gafodd.

Cyngor Kris i unrhyw un sydd a phroblemau iechyd meddwl yw gofyn am help gan y rhai sydd o’ch cwmpas. Naw gwaith allan o ddeg fe gewch yr help a’r cefnogaeth sydd eishe arnoch chi, pan fyddwch ei eishe fwya.

Mae hefyd yn credu bod rhoi strwythur i’ch bywyd a dod o hyd i rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i chi ac y gallwch edrych mla’n ato, yn help mawr wrth geisio rheoli materion iechyd meddwl. 

Fy Stori i.

Dw i yn un sydd wedi brwydro gyda fy iechyd meddwl. Dw i wedi cael iselder mewn un ffordd neu’r llall, am y rhan fwyaf o’m bywyd. Dw i’n berson hyderus sydd o hyd yn barod i siarad â phobol eraill, ond dw i’n ei gael yn arbennig o annodd i ddweud siwd dw i’n teimlo go iawn, hyd nes i bethau fynd yn ormod i fi.

Falle bod hyn oherwydd y fath o gymdeithas y ces ei godi ynddi, neu efallai, do’dd neb wedi dangos i fi siwd ma siarad am bethau sy’n fy effeithio. Dw i’n aml yn teimlo mai dim ond pan ma’r poen yn anioddefol dw i’n gallu siarad amdano.

Dw i wedi chwilio am help sawl gwaith, ond yn aml iawn dw o ddim wedi dod o hyd i’r help sydd eishe. Ro’dd torri lawr yn llwyr yn 2012 wedi golygu i fi gael fy rhoi ar dabledi gwrth-isleder ac yn eto yn 2019 ro’n i nôl arnyn nhw. Ro’dd hyn i gyd heb diagnosis. Yn aml iawn, ro’dd y tabledi yn fy ngwneud yn waeth.

Yn ystod y cyfnod clo cynta eleni, gwaethygodd fy mhroblemau iechyd meddwl. Ro’ nhw’n waeth na ma nhw wedi bod ers amser hir. Ro’dd fy hwyliau yn newid rownd a rownd a phan ro’dd fy mhryder ar ei waetha, ro’ ni’n aml yn ystyried cymryd fy mywyd.

Nes i gysylltu ‘da’r doctor teulu a naethon nhw fy nghyfeirio at y tîm argyfwng. Wedi sawl apwyntiad, dywedon nhw bod gen i Cyclothymia. Do’n i erioed wedi clywed am hwnna. Nes i ddysgu ei fod yn anhwylder hwyliau tebyg i bi-polar, ond gyda newidiadau mwy cyflym rhwng teimlo’n uchel a theimlo’n isel.

Dw i nawr ar feddygyniaeth i reoli’r newidadau hwyliau. Mae dal angen i fi fod yn ymwybodol o beth sy’n gallu achosi’r newid hwyl a sut dw i’n teimlo, a dw i’n gobeithio cael help pellach yn y dyfodol.

Mae cael help yn holl bwysig. Os ydych chi’n mynd trwy broblemau iechyd meddwl ond ddim yn gwybod at bwy ma troi, mae’n holl bwysig i chi fynd i’r doctor neu elusen fel MIND.

I fi, mae cael rhywle lle gallai siarad am fy mhroblemau iechyd meddwl wedi bod yn holl bwysig.

Mae People Speak Up wedi cynnig cyfle i fi fynegu a prosesu materion iechyd meddwl mewn ffordd creadigol ac adeiladol. Mae’r grwpiau dan ymbarel People Speak Up i gyd yn fannau diogel i gysylltu gyda phobl eraill. Mae adeiladu cysylltiadau yn hanfodol i geisio chwalu stigma materion iechyd meddwl.

Grŵp Dynion People Speak Up

Mae grŵp dynion People Speak Up, Dynion yn Siarad, yn fan diogel i ddynion o bob oedran i ddod i siarad â’i gilydd. Pan dechreuodd y grŵp, ro’dd pawb yn awyddus i wneud yn siŵr bod popeth a o’dd yn cael ei ddweud yn y cyfarfod yn aros gyda’r grŵp. Nid grŵp-cefnogi yw hwn, na grŵp hunan-help chwaith. Mae’n fan lle mae dynion yn gallu cysylltu â’i gilydd heb orfod becso am beth ma gweddill cymdeithas yn ei feddwl.

Dechreuodd y grŵp ar gyngor Phil Ralph a oedd wedi dechrau grŵp dynion o’r blaen. Pan ofynnodd People Speak Up i Phil rhannu ei brofiadau am y tro cynta, ro’dd yn teimlo’n ofnus a bregus. Do’dd e ddim yn teimlo’n gyfforddus ond ro’dd yn gwybod ei fod wastad yn help i rhannu. Mae Phil yn dweud ‘y mwy gallwn ni rannu pa mor fregus ydyn ni, fe ddaw y fwy fwy normal, byddwn yn sylweddoli fwy fwy nad ydyn ni ar ben ein hunain a byddwn yn gallu rhoi mwy o gefnogaeth i’n gilydd.’.

‘Mae eishe i ddynion siarad. Yn benodol, ma eishe i ddynion siarad…â’i gilydd…ynglŷn â bod yn ddynion.’”Phil Ralph

Stori Phil

Tua deng mlynedd yn ôl, ro’dd Phil yn falch iawn i fod yn ‘ddyn cryf’. Ro’dd yn cwrso dyddiadau cau, rhedeg marathonau a byth yn cymryd amser bant o’r gwath – do’dd erioed wedi cymryd seibiant i ystyried siwd o’dd e’n teimlo – ac yna profodd dorri lawr emosiynol llwyr. Rhai wythnosau ar ôl ei benblwydd yn 40, cafodd ei gario o’i dŷ ar gurney, ac i’r Ysbyty. Ro’dd afiechyd awto-imiwn ganddo. Ro’dd ei sustem imiwn ei hun yn ymosod arno ac yn ceisio ei orfodi i wneud pethe’n wahanol. Ro’dd yn neges glir bod angen iddo ail-ystyried cyfeiriad ei fywyd. Mae Phil yn dweud ‘Bydden i’n hoffi dweud i fi glywed y neges a gwneud pethe’n wahanol…ond fe nes i barhau i daro fy mhen yn erbyn y wal frics am rai blynyddoedd eto, a daeth sawl cyfnod o dorri lawr arall cyn i fi wrando ar y neges.’

Fel nifer o ddynion, ro’dd Phil yn credu mai dangos cryfder, peidio dangos gwendid a pheidio gofyn am help o’dd bod yn ddyn go iawn. ‘Ma nifer y dynion sy’n lladd eu hunain yn y wlad ‘ma, a thrwy’r byd yn epidemig. Trwy ddal gafael ar ffordd hen ffasiwn o feddwl beth yw bod yn ddyn, mae dynion yn gwneud niwed mawr iddyn nhw’i hunain. Rhaid i ddynion ddysgu newid. Ond gallwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Rhaid i ni siarad â’n gilydd, dysgu oddi wrth ein gilydd a chefnogi’n gilydd.’

Penderfynnodd Phil dechrau grŵp dynion. Ro’dd wedi darllen sawl llyfr a ro’dd pob un wedi sôn am y syniad o grwpiau o ddynion yn dod at ei gilydd i rannu straeon o fethu, bod yn fregus a llawn amheuon. Falle bod hwn yn swnio’n grêt mewn theori, ond byddai’n golygu bod mewn stafell gyda dynion yn unig. Do’dd Phil byth wedi bod yn gyfforddus ‘da hynny, ro’dd yn teimlo’n ddigon bregus ac yn credu na fyddai’n dda iawn mewn sefyllfa o fod mewn grŵp gyda dynion yn unig. Ond fe wnaeth gadw ati. Cafodd ambell sgwrs dawel gyda rhai dynion ro’dd yn eu hadnabod. Dechreuodd y grŵp gyfarfod ac mae’n dal i fynd, er mwyn i’r dynion gyfarfod a siarad. Ma nhw yno er mwyn ei gilydd. Ac mae’n helpu.

Mae angen i Ddynion Siarad Lan

Ar hyn o bryd, mae grŵp dynion People Spek Up, Dynion yn Siarad, yn cyfarfod pob pythefnos ar Zoom. Cysylltwch â People Speak Up os ydych chi am wybod mwy am y grŵp.

‘Mae eishe i ddynion siarad. Yn wir, gallwch chi ddweud bod eishe i ni siarad lan. Pam? Am fod yn rhaid i ni gyd fod yn ddynion gwell – er mwyn ein hunain, y rhai ni’n eu caru, ac er mwyn y byd.’Phil Ralph

Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: