15 ffordd i goncro’r bloc sgrifennu


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Os ydych chi wedi wynebu bloc sgrifennu chi’n gwybod nad yw e’n llawer o sbort! Gall eich rhwystro rhag sgrifennu’r un gair am ddiwrnodau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd. Ond dyw’r ffaith i chi daro yn erbyn wal frics ddim yn golygu bod yn rhaid i chi rhoi lan!

Mae sawl ffordd syml ac ymarferol y gallwch ddod dros y bloc sgrifennu – ac ma nifer ohonyn nhw’n ddigon syml.

Felly, beth gallwch chi wneud i ail gynneu’r fflam creadigol? Gofynnais i ambell un sy’n sgrifennu sut ro’n nhw’n gwneud hynny. Ro’dd yr atebion yn ddefnyddiol dros ben.

Yn yr erthygl ‘ma, edrychwn ar bymtheg ffordd gwahanol i ail-gynneu’r creadigrwydd ac i ddod dros y rhwystrau meddyliol sy’n rhoi stop ar y sgrifennu.

Beth yw bloc sgrifennu?

Bloc sgrifennu yw unrhywbeth sy’n eich rhwystro rhag sgrifennu. Gall fod dros gyfnod byr neu dros gyfnod hir.

Gall olygu eich bod yn feirniadol iawn o chi’ch hunan, yn cymharu eich hunan gyda pobl eraill sy’n sgrifennu neu gall ddod o ddiffyg awydd i sgrifennu. Mae’n bosib y daw, yn syml, o ddiffyg amser i eistedd lawr i ddechrau sgrifennu.

Daw’r bloc sgrifennu’n aml o deimlo’n anfodlon ‘da’r broses sgrifennu. Diolch byth, dyw e ddim yn gyflwr parhaol. Nawr, beth am edrych ar y tips ‘na i goncro’r bloc?

1. Ewch am dro

Yn edrych ar y dudalen wag ‘na am amser hir? Falle ei fod yn amser rhoi’r gorau i’r ymdrechu i sgrifennu a mynd mas am dro.

Mae cerdded yn helpu creu’r endorffins sy’n brwydro stress. Byddwch yn teimlo wedi ymlacio ar ôl dod nôl. Yna, nôl wrth y ddesg sgrifennu, falle y byddwch wedi cael gwared o’r pethau a oedd yn llanw’ch meddwl a’ch rhwystro rhag sgrifennu.

Mae’n ddigon posib y bydd bod yng nghanol byd natur yn eich ysbrydoli hefyd. Yn aml, awyr iach  chyfnod bant o’r sgrîn yw’r union beth sydd eishe i’ch rhoi mewn gwell agwedd meddwl.

2. Sgrifennwch Unrhywbeth

Ambell waith y ffordd orau i goncro’r bloc sgrifennu yw sgrifennu unrhywbeth! Hyd yn oed os mai sgrifennu sbwriel wnewch chi, o leia y byddwch yn rhoi’r rhan o’ch ymennydd sy’n styc ar waith!

Hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo’n greadigol, falle y gwelwch mai gorfodi’ch hunan i sgrifennu rhywbeth yw’r ffordd at fan cychwyn i wneud rhywbeth gwell.

Sgrifennwch unrhywbeth o gwbl, yna’r diwrnod wedyn dewch nôl ato’n ffres er mwyn gweld os oes unrhywbeth o ddefnydd yn y gwaith.

3. Peidiwch golygu unrhywbeth tan y diwedd.

Os gwnewch chi wario’ch amser i gyd yn ail-ddarllen beth i chi wedi sgrifennu, byddwch yn aros yn yr un-fan a throi’n hunan-feirniadol. Byddwch yn ofalus ‘da’r broblem ‘ma gan y bydd yn arwain at floc sgrifennu.

Peidiwch a golygu wrth i chi sgrifennu. Yn hytrach, arhoswch nes i chi orffen y gwaith i gyd ac yna ewch nôl i’w olygu.

Mae golygu a sgrifennu’n ddwy ffordd gwahanol o feddwl. Drwy newid nôl a mla’n rhwng y ddau byddwch yn newid eich ffordd o feddwl. Dyw bod yn or-feirniadol a dadansoddi popeth wrth sgrifennu ddim yn help i fod yn greadigol.

4. Cysgwch arno fe!

Gall sgrifennu rhywbeth sydd ddim yn teimlo’n iawn fod yn dorcalonus.  Gallwch edrych drosto am amser hir a cheisio dod o hyd i ffyrdd o’i wneud yn iawn, ond yn aml, does dim modd gweld heibio’r dryswch.

Rhowch y biro lawr, neu caewch y laptop, a cysgwch ar yr hyn chi wedi sgrifennu. Pan ddowch nôl ato gyda meddwl ffres, falle newch chi weld rhywbeth newydd yn y gwaith.

Pan yn ail-ddarllen eich gwaith eich hunan, trïwch ei ddarllen fel petai rhywun arall wedi ei sgrifennu. Wrth wneud hyn, bydd eich cysylltiad emosiynol â’r gwaith yn wahanol.

5. Triwch sgrifennu rhydd.

Mae sgrifennu rhydd yn ffordd grêt i dawelu’r sensor mewnol. Y syniad ‘da sgrifennu rhydd yw eich bod yn rhoi eich meddyliau ar babur fel ma nhw’n codi. Dyle chi wneud hwn heb feddwl am y ffordd ry’ch chi’n sgrifennu na chwaith am safon y gramadeg.

Gall sgrifennu llif yr ymwybod fynd a chi’r ochr arall i’r bloc.

6. Defnyddiwch promtiau sgrifennu.

Ysbrydoliaeth ddim yn dod? Pam na ddefnyddiwch chi promtiau sgrifennu i’ch arwain at yr ysbrydoliaeth sydd ei angen? Bydd dod o hyd i fan cychwyn yn help i’ch ysbrydoliaeth.

7. Gwrandewch ar gerddoriaeth

Dywedodd Tolstoy mai cerddoriaeth yw llaw fer emosiwn. Dewch o hyd i law fer eich emosiynau sgrifennu trwy wrando ar eich hoff gerddoriaeth. Gall clywed eich hoff gerddoriaeth ddeffro’r rhanau o’ch ymennydd sydd eu hangen er mwyn meddwl yn greadigol.

8. Crëwch arfer.

Ewch ati i sgrifennu yr un amser pob dydd a bydd hyn yn help i chi gael eich cyhyrau sgrifennu i weithio’n iawn. Bydd dod i arfer fel hyn yn help i chi datblygu ffordd o feddwl i sgrifennu.

Gosodwch darged sgrifennu penodol. Sgrifennwch am yr un cyfnod o amser bob tro neu yr un cyfanswm geiriau. Bydd sefydlu patrwm o’r fath yn help i chi gadw momentwm.

9. Defnyddiwch bwyntiau bwled.  

Yn aml, pan fyddwch yn gwybod bod llawer gyda chi i’w ddweud, gall meddwl am ddechrau sgrifennu fod yn ormod. Cewch eich parlysu cyn dechrau.

Defnyddiwch bwyntiau bwled i roi trefn ar yr hyn ry’ch chi eishe dweud. Trwy wneud hyn, gallwch ddechrau datblygu’ch pwyntiau’n rhesymegol.

10. Sgrifennwch dri syniad pob dydd.

Dechreuwch fanc syniadau pan dy’ch chi ddim yn cael trefferth bod yn greadigol. Yna, pan fyddwch yn ei chael yn annodd ac ysbrydoliaeth yn bell i ffwrdd, bydd digon o ddewis syniadau gyda chi i droi atyn nhw

11. Defnyddiwch Apiau

Mae hen ddigon o apiau sgrifennu mas ‘na i’ch helpu goncro’r bloc sgrifennu. Un enghraifft yw Squibler. Ma’r Ap yma’n gosod promtiau ac yn mynnu i chi barhau i sgrifennu nes bod y mesurydd amser yn dod i stop.

Byddwch yn cael eich gorfodi i lenwi’r tudalen ‘da geiriau. Dy’ch chi byth yn gwbod, falle y byddwch yn sgrifennu rhywbeth sydd o werth.

12. Trowch at therapiau amgen.

Os ydych chi’n wynebu’r bloc sgrifennu am gyfnod hir, falle bydd yn help i ystyried beth sy’n achosi’r bloc. Mae sawl therapi amgen ar gael i wneud hynny.

Edrychwch ar yr Energy Alignment Method i’ch helpu.

Ffordd arall yw sgrifennu gyda’r llaw chi ddim yn arfer sgrifennu gyda’i. Yna, gofynnwch i chi’ch hunan pam ma’r blociau yma’n digwydd a gadewch i’ch biro wneud y sgrifennu.

13. Trïwch wylio pobl

Does dim byd yn ysbrydoli mwy na bywyd go iawn. Os y’ch chi’n chwilio am syniadau, beth am wylio pobl? Eisteddwch ar fws neu mewn caffi a dychmygwch fywyd neu sefyllfa rhywun sydd wrth eich ymyl ac mae’n siŵr y dewch o hyd i sail stori.

14. Trïwch Sgrifennu-meta

Sgrifennu am sgrifennu yw sgrifennu-meta. Os na y’ch chi’n gwbod beth i sgrifennu, beth am sgrifennu ynglŷn â’r hyn ry’chi am sgrifennu?

Mae sgrifennu-meta’n fordd wych i sianelu’ch meddyliau a’u troi’n rhywbeth mwy cadarn.

15. Ymunwch a Grŵp Sgrifennu.

Ma ‘na nifer o fanteision da iawn i ymuno â grŵp sgrifennu ac ma pawb yn ymuno ag un am resymau gwahanol. Falle y byddwch yn cael mantais o’r gweithgareddau ma’ nhw’n cynnig, neu falle mai’r awyrgylch cefnogol, creadigol fydd yn help i chi ddatblygu’ch sgrifennu chi. 

Ma bod gyda pobl sy’n meddwl yr un ffordd â chi yn aml yn help mawr i goncro’r bloc sgrifennu. Falle y cewch help a chefnogaeth gan eich cyd-sgrifennwyr a fydd yn amhrisiadwy.

16. Ymunwch ag un o brosiectau People Speak Up.

Mae Stori, Rhanu, Gofalu yn cael ei gynnal ar Zoom ar hyn o bryd, ar fore Mercher a nos Wener. Mae Sadwrn Siarad y Gair ar ail ddydd Sadwrn o bob mis.

Os ydych chi am gymryd rhan yn un o brosiectau People Speak Up, neu am wybod mwy, cysylltwch heddi.

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: