Deall Trawma Geni: Cyfweliad gyda Caryl Jones-Pugh


Gan Peter Wyn Mosey 
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

I nifer o bobl, dyw’r profiad o eni babi ddim mor hapus a ro’n nhw’n disgwyl. Gall trawma yn ystod genedigaeth arwain at deimlo’n isel, gor-bryder a ôl-fflachiau. Gall arwain at drafferthion i fondio gyda’r babi.

Mae Caryl Jones-Pugh yn cynnig cyngor Datrys Trawma Geni yn Ne Cymru ac mae’n rhedeg Rebirth Wales. Mae’n gweithio gyda pobl sydd wedi profi trawma yn ystod y geni neu’r cyfnod o fod yn feichiog. Ei nôd yw eu helpu i symud ymlaen o’r trawma.

Fe wnaeth Caryl hyfforddiant Datrys Trawma Geni wedi genedigaeth ei hail blentyn. Profodd enedigaeth trawmatig gyda’i phlentyn cynta a rhai misoedd annodd wedi hynny. Chwiliodd am help a derbyniodd therapi.

Fe wnaeth hyn wahaniaeth mawr i’w theimladau ynglŷn â’r enedigaeth a llwyddodd i wynebu ei hail enedigaeth yn fwy hyderus. Ro’dd geni ei hail blentyn yn brofiad tipyn mwy positif a rhoddodd hynny’n nerth i Caryl i rannu ei phrofiad gydag eraill. 

Mae gan Caryl gefndir mewn seicoloeg ac ymchwil ac mae ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd cyhoeddus, ochr yn ochr â’i phractis preifat.

Cawson ni air ‘da Caryl i glywed mwy am trawma geni a sut mae Datrys Trawma Geni yn gallu helpu.

Beth yw trawma geni a pryd mae e’n digwydd?

Mae trawma’n ymateb normal i sefyllfa annormal. Gall trawma geni ddigwydd am sawl rheswm gwahanol, nid dim ond pan ma bywyd dan fygythiad. Gall rhai pobl brofi genedigaeh digon ‘normal’ heb unrhyw drawma amlwg ond eto i gyd, teimlo pryder wedi hynny. Gall teimlo bod pethe ddim o dan reolaeth, bod neb yn gwrando neu’n gofalu amdanoch chi’n iawn, arwain at drawma, fel gall bod mewn poen eithafol neu teimlo bod eich bywyd chi neu bywyd eich plentyn mewn perygl.

Gall camesgoriadau, sawl ymgais IVF a marw-enedigaeth arwain at drawma hefyd.

Gall y sawl sydd wedi gweld, neu helpu gyda, genedigaeth trawmatig ddangos symptomau trawma hefyd. Mae partneriaid geni neu weithwyr iechyd yn gallu teimlo trawma neu bryder ar ôl profiad annisgwyl neu frawychus.

Beth yw arwyddion neu smyptomau trawma a pryd dyle rhywun ystyried dod i dy weld?

Mae symptomau cyffredin trawma yn cynnwys:

  • Ôl-fflachiau a hunllefau, lle ma’r person yn credu ei bod yn ail fyw’r digwyddiad.
  • Osgoi unrhywbeth sy’n gysylltiedig â’r trawma, er enghraifft, ma rhai pobol yn osgoi ysbytai neu weithwyr iechyd wedi profiad genedigaeth trawmatig.
  • Gor-wyliadwraeth neu or-bryder dwys. Gall hyn gael ei ffocysi ar y babi, pryderi drwy’r amser y bydd rhywbeth drwg yn digwydd neu bydd y babi’n mynd yn dost. Gall fod yn fwy cyffredinol hefyd; pryderi neu fecso rhan fwyaf o’r amser ynglŷn â sawl peth gwahanol.
  • Teimlo’n isel neu’n anhapus. Ma rhai yn teimlo’n euog ac yn beio eu hunain am yr hyn ddigwyddodd. Ma rhai yn cael trafferth cofio rhannau o’r profiad.

Os oes unrhyw un yn teimlo unrhyw un o’r pethau yma, neu os ydyn nhw’n teimlo’n drist neu’n bryderus pan yn meddwl am ei profiad genedigaeth gall fod yn help i siarad gda therapydd sydd â phrofiad o ddatrys trawma.

Pa mor gyffredin ma’ trawma geni? 

Mae hyd at 45% o fenywod yn profi genedigaeth trawmatig, a tua 4-6% yn cael PTSD. Mae llawer mwy o fenywod yn profi symptomau trawma sydd ddim yn cael diagnosis neu’n cael cam-ddiagnosis o PND. 

Mae rhai o symptomau PTSD a PND yn gallu bod yr un peth a gall hynny ddrysu pethe. Ond y gwahaniaeth mwya yw bod rhai sydd â PTSD fel arfer yn profi ôl-fflachiau a hunllefau ynglŷn â’r trawma, neu feddyliau sy’n gwthio eu hunain i’r amlwg, atgofion neu ddelweddau. Dyw rhain ddim yn nodweddiadol o PND.

Pa help sydd ar gael i trawma geni?

Os yw rhywun yn cael trafferthion ar ôl rhoi genedigaeth, mae’n syniad i gael sgwrs gyda’r fydwraig, ymwelydd iechyd neu’r GP. Fel arall, gallen nhw gael help preifat gan gwnselydd neu therapydd sydd wedi eu hyfforddi i weithio gyda rhai sydd wedi profi trawma.

Dw i wedi cael hyfforddiant Datrys Trawma Geni, sydd yn ffordd tyner ac effeithiol o ddatrys y gor-bryder sy’ ynghlwm ag atgofion poenus adeg genedigaeth, neu faterion cysylltiedig. Mae’n addas i’r rhai sydd wedi profi trawma geni yn uniongyrchol ac i’r rhai sydd wedi gweld trawma geni rhywun arall. (cyfaill geni, gweithwyr iechyd)

Mae Datrys Trawma Geni yn annog y cleient i ystyried a phrosesu’r atgofion poenus, a hynny mewn man diogel gan ddefnyddio technegau therapi tyner.

Mae pwyslais ar ymlacio a diogelwch drwy gydol pob sesiwn.

Beth yw rhai o’r rhesymau ma pobol yn cysylltu â ti yn Rebirth Wales?

Dw i fel arfer yn gweithio gyda pobol sydd wedi profi genedigaeth trawmatig. Ma lot o bobol yn methu symud mla’n o ddigwyddiadau’r geni ond dyw nhw ddim yn siŵr pam. Ma nhw’n aml yn teimlo’n drist pan yn meddwl am yr enedigaeth a ma rhai yn rhy ofnus i gael plentyn arall. Ma rhai o’r menywod dw i’n gweld yn feichiog ac yn nerfus o roi genedigaeth eto a chael profiad negyddol arall.

Beth gall y rhai sy’n dod i dy sesiynau ddisgwyl?

Dw i’n cwrdda cleientiaid yn unigol yn Llanelli neu Abertawe. Fel arfer, ma’r sesiynau ychydig yn llai na awr, ond ma’r sesiwn gynta ychydig yn hirach er mwyn i’r cleient ddod i fy nabod i a’r ffordd dw i’n gweithio. Ni’n siarad trwy’r hyn ma nhw wedi ei brofi a siwd ma nhw’n teimlo. Dw i’n gofyn iddyn nhw ddweud wrtha’i am eu trawma os ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny ac yna fe newn ni benderfynu ar gynllun ar gyfer y sesiynau nesa. Dw i’n eu hannog i ddefnyddio technegau ymlacio i’w helpu i feithrin teimlo’n ddiogel yn ystod ein hamser gyda’n gilydd.

Dw i’n gweithio mewn modd sy’n wybodus am drawma, a’r cleient yn arwain. Dw i’n credu bod y llwybr at iachad y tu fewn i bob un ohona ni. Fe wnai gerdded ochr yn ochr a’r cleient ar ei thaith ac ar brydiau defnyddio fy arbenigedd i’w harwain. Dw i ddim yn credu bod rhai sydd wedi mynd trwy trawma yn bobol sydd wedi torri a nid fy ngwaith i yw rhoi pobol nôl at ei gilydd. Dw i’n cynnig lle diogel i bobol ystyried eu trawma a’i harwain at ffordd i’w ddatrys.

Beth yw’r sialensau mwya sy’n wynebu menywod wrth roi genedigaeth heddi?

Dros y ddwy flynedd ddiwetha, ni wedi gweld newidiadau aruthrol i ofal mamolaeth oherwydd pandemig COVID-19. Dw i wedi gweld sawl mam sydd wedi profi trawma am nad oedden nhw wedi gallu cael rhywun gyda nhw yn yr apwyntiadau, drwy cyfnod yr esgor a rhai hyd yn oed wedi methu a mynd i’r enedigaeth ei hunan. Ma rhai canolfannau bydwragedd wedi cau, genedigaeth cartre wedi cael eu stopio dros dro a ma hyn i rhai menywod wedi codi pryder ynglŷn ag amgylchiadau’r geni. O ganlyniad i ynysu ma rhai wedi cael trafferth cael gafael ar gefnogaeth wedi’r enedigaeth, yn nyddiau cynta ei babi newydd. Ma hyn wedi arwain at drafferthion gyda bwydo o’r fron er enghraifft, a rhieni newydd yn teimlo heb gefnogaeth ac yn unig o ganlyniad i ddiffyg cysylltiad gyda theulu a ffriindiau.

Yn anffodus, dyw gwasanaethau’r GIG ddim wastad yn gallu cydnabod neu chefnogi pobol sydd wedi profi trawma geni, felly bydd lot o bobol yn mynd heb help.

Y pwynt mawr arall yw bod pobol ddim wastad yn barod i siarad yn agored ynglŷn â genedigaeth, heblaw am y cwestiynau arferol ynglŷn â’r babi ei hun. Bydde lot o famau yn croesawi’r cyfle i siarad yn agored am enedigaeth, pa bynnag fath o brofiad gawson nhw. Yn anffodus, does dim arena ar gyfer hyn. Ma mwy yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd yn hyfryd i weld. 

Fe wnaeth Caryl gymryd rhan yn ein prosiect Caffi Geni, dan arweiniad Tracy Breathnach– amser a lle i famau ddod at ei gilydd i rannu straeon geni.

Mae Caryl yn gweithio gyda phobol sydd wedi profi trawma geni, colli babi, materion IVF a gyda partneriaid/cymdeithion geni, staff gofal iechyd a menywod beichiog sy’n pryderi am enedigaeth. Mae’n gweld cleientiaid yn Llanelli ac Abertawe ac mae’n gwirfoddoli gyda Rhaglen Bydwragedd Prifysgol Abertawe. 

Am fwy o wybodaeth ewch at Rebirth Wales, ebost rebirthwales@gmail.com, neu galwch 07309072677.


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: