Adnabod Awtistiaeth: 7 Peth Y Dylen Ni Gyd Wybod


Gan Peter Wyn Mosey 
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae nifer o gamargraffiadau ynglŷn â Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASA) sy’n arwain at bobl yn cael eu stigmateiddio a’u hynysu.

Cafodd Awtistiaeth ei ddisgrifio am y tro cynta gan Leo Kanner yn 1943. Mae’n dealltwriaeth ohono wedi dyfnhau dros y blynyddoedd ac mae’r criteria diagnostig wedi datblygu. Ond beth yn union yw awtistiaeth, a beth yw’r her mae rhywun sydd â ASA yn ei wynebu?

Gan fod Ebrill yn fis ymwybyddiaeth awtistiaeth, gadewch i ni edrych ar 7 peth y gallwn ni  gyd ddysgu am awtistiaeth.

1. Mae Awtistiaeth Yn Gyflwr Gydol Bywyd

Mae awtistiaeth yn gyflwr gydol bywyd sy’n effeithio ar sut ma pobl yn ymwneud â’i gilydd ac yn cyfathrebu. Yn ôl y British Medical Association, mae ASA yn effeithio ar un plentyn o bob 100 ac mae 700,000 o bobl ym Mhrydain wedi cael diagnosis awtistiaeth.

I rai, mae’r her mae awtistiaeth yn ei gyflwyno yn galw am gefnogaeth parhaol, tra bod eraill yn gwbl annibynnol ac yn gallu datblygu sgiliau ymdopi effeithiol. Does dim gwellhad.

2. Mae Diagnosis Awtistiaeth Wedi Cynyddu’n Ddramatig Yn Y Blynyddoedd Diwetha.

Mae astudiaeth a gyhoeddwyd yn Journal of Child Psychology and Psychiatry yn dangos  cynnydd syfrdanol o 787% yn y nifer o bobl a gafodd ddiagnosis awtistiaeth rhwng 1998 a 2018. Yn ôl pob tebyg, y rheswm dros y fath gynnydd sylweddol yw gwell ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

Daw’r diagnosis yn aml yn ystod plentyndod, ond mae’r broses o adnabod y cyflwr yn ffurfiol yn gallu bod yn un hir ac mae nifer yn mynd trwy eu bywyd heb ddiagnosis.

3. Yn Aml, Mae’n Haws Gweld Awtistiaeth Mewn Bechgyn

Cymhareb dynion a menywod sydd wedi cael diagnosis yw 3.1. Mae nifer yn dweud bod hyn o ganlyniad i’r diffyg dealltwriaeth o sut mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched. 

Mae damcaniaethau ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng dynion a menywod yn sôn am y posibilrwydd o ffenoteip awtistiaeth fenywaidd – sef bod gan fenywod awtistaidd briodoleddau sydd ddim yn unol a’r rhai nodweddiadol. Credir hefyd bod merched yn dysgu cuddio ei arferion awtistaidd, a thryw hynny, lleihau’r posibilrwydd o’r sumtomau’n cael eu hadnabod gan rieni, athrawon a doctoriaid.

4. Mae Awtistiaeth yn Effeithio Pobl Mewn Gwahanol Ffyrdd.

Gall awtistiaeth effeithio ar y ffordd mae rhywun yn ymgysylltu gyda’r byd o’i gwmpas neu gyfathrebu gydag eraill. Gall ASA wneud rhywun yn fwy neu llai sensitive i sain, golau, cyffyrddiad a blas. Gall effeithio ar falans hefyd. Gall hyn olygu bod popeth yn mynd yn ormod trwy ‘gorlwytho synhwyraidd’ ar ôl gormod o stimiwleiddio, neu fel arall, yr angen i gynyddu’r stimiwleiddio.

I rai, mae ‘darllen’ neu deall emosiynau pobl eraill yn annodd i’w wneud. I eraill, gall ymadroddion cynnil, ffigurol gael eu cam ddeall. Mae nifer sydd ag awtistiaeth yn cymryd pethau’n llythrennol. 

Gall prosesu niwrolegol a gwneud penderfyniadau fod yn her. Wrth wynebu nifer o opsiynau, gall rhywun ag ASA gael ei llethu a methu gwneud penderfyniad.

Mae delio gyda newid yn gallu bod yn annodd. Mae nifer yn datblygu arferion cyson ac mae unrhyw newid i’r rhain yn gallu creu gorbryder ac ansicrwydd.

Mewn ambell achos, ond nid bob tro, gall rhywun gydag ASA fagu diddordeb dwys mewn rhyw hobi a falle gor-ffocysu ar y pethau mae’n nhw’n angerddol amdanynt. Gall hyn arwain at berfformiadau eithriadol yn y byd academaidd a gwaith.

5. Mae Awtistiaeth Yn Sbectrwm

Mae sumtomau awtistiaeth yn amrywio’n sylweddol ac mae’r ffordd mae’r cyflwr yn cyflwyno ei hun yn amrywio o berson i berson. Mae gan rhai nodweddion mwy amlwwg nag eraill. Mae hyn yn wir am fod awtistiaeth yn sbectrwm. 

Ond oherwydd rhychwant y gwahaniaethau yn y sumtomau, nid sbectrwm llinol yw awtistiaeth. Mae’n dipyn fwy cymhleth a chynnil na hynny.

Un camargraff cyffredin yw ‘ma pawb ar y sbectrwm’. Falle bod nifer o bobl yn gallu uniaethu gyda rhai o nodweddion awtistiaeth, mae’r diagnosis yn un cymheth sy’n galw am dystiolaeth ar draws ystod eang o sumtomau.

6. Dyw’r Term ‘Asperger’s’ Ddim Yn Cael Ei Ddefnyddio Mwyach.

Roedd Syndrom Asperger’s yn arfer bod yn ddiagnosis cyffredin i bob lar ochr cyrhaeddiad uwch y sbectrwm. Daeth y syndrome i’r amlwg am y tro cynta yn yr 1980au cynnar a cafodd ei gydnabdo yn swyddogol ym mhedwaredd argraffiad o’r Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-IV) yn 1994.

Yn dilyn ail-asesiad diweddarach, tynnwyd Syndrom Asperger’s oddi ar y Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-IV) erbyn y bumed argraffiad yn 2013.

Ffisegydd o’r Awstria, Hans Asperger, oedd y dyn rhoddodd ei enw i’r syndrom. Gwnaeth ymchwil cynnar ar awtistiaeth yn ystod dyddiau’r Natsiaid. Cyfeiriodd at ASA fel ‘autistic psychopathy’ a credir bod cysylltiadau agos gyda cynllun ewthanasia’r Natsiaid a fu’n gyfrifol am lofruddio plant anabl.

Erbyn hyn, mae’r rhai a fyddai wedi derbyn diagnosis aspergers yn cael diagnosis o fod ar y sbectrwm.

7. Mae Cyflogi Pobl Ag Awtistiaeth Dal yn Beth Prin

Dangosodd astudiaeth Cymdeithas Cenedlaethol Awtistiaeth, yn 2016, mai dim ond 16% allan o 2000 o bobl ag awtistiaeth oedd yn cael eu cyflogi amser llawn. Roedd hyn er gwaetha’r ffaith bod 77% o’r rhai a holwyd, ac a oedd yn ddi-waith, eisiau gweithio.

Er nad yw’r gynrychiolaeth yn gwbl gytbwys, mae’r erthygl yma yn yr Harvard Business Review yn dangos bod y gweithlu niwroamrywiol yn bwll talent sydd heb ei gyffwrdd. Gyda’r gallu i ganolbwyntio’n fanwl ar unrhyw bwnc neu dasg o ddiddordeb iddyn nhw, gall y potensial i arloesi gynnig mantais cystadleuol i gwmniau sy’n barod i fuddsoddi yn y addasiadau cywir.

  • Cymryd cyrsiau ymwybyddiaeth o awtistiaeth
  • Darparu mannau tawel yn y gwethle
  • Sicrhau bod y gweithle wedi ei strwythuro’n gywir
  • Cynnig adborth uniongyrchol ond sensitif, yn aml
  • Paratoi aelodau’r tîm ar gyfer newidiadau

Manteision Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth

Yn ddiweddar fe wnaeth nifer o dîm People Speak Up fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o awtistiaeth gyda Ringway Training. Fe wnaethon ni ddysgu cryn dipyn ynglŷn ag ASA a sut y gallwn ni addasu ein sesiynau i gefnogi’r pobl niwroamrywiol sydd ynddyn nhw.

Dywedodd Kris Grogan o PSU: ‘ Ro’dd deall awtistiaeth yn well a nabod yr arwyddion o fod ar y sbectrwm yn ddefnyddiol iawn i fi a bydd y gwybodaeth yna’n help i fi wella fy addysg yn y rhan yma o’n Gwaith.’ Roedd gan Kris ddiddordeb hefyd yn y cysylltiad rhwng ASA a chyflyrau eraill fel ADHD.

Dywedodd Mark Mallander o Ringway Training: ‘Er bod ymwybyddiaeth o awtistiaeth wedi gwella, ma dal cryn dioyn o gamddeall ynglŷn â’r cyflwr felly y mwya gallwn ni wneud i helpu pobl ddeall y cyflwr ac i adnabod y cadarnhaol, yna gall mwy a mwy o bobl ar y sbectrwm gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, addysgiadol ac yn y gwaith. 

I nifer ar y sbectrwm mae gwybod bod gan eraill rhyw ymwybyddiaeth o’r cyflwr ac yn gallu gwerthfawrogi’r her mae’n nhw’n ei wynebu, yn beth calonogol tu hwnt ac yn ffordd i leihau gorbryder a stress.

Trwy ddysgu mwy am amrywiaeth awtistiaeth gall sefyllfaoedd cymdeithasol, addysg a gwaith greu awyrgylch sy’n fwy ymwybodol o awtistiaeth, a’i wneud yn haws i bobl sydd â’r cyflwr i gymryd rhan mewn rhychwant o gyfleoedd, cyflawni ei dyheadau a ffynnu mewn bywyd.’

Ymwybyddiaeth Yn Arwain At Dderbyniad

Mae gwell dealltwriaeth o awtistiaeth yn arwain at fwy a mwy yn cael eu derbyn i bob rhan o gymdeithas. Rhowch wybod i ni, trwy’r sylwadau isod, bet hi chi’n credu sydd eisiau gwneud i wella ymwybyddiaeth a derbyniad.

 

 

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: