The Gods Are All Here – cyfweliad gyda Phil Okwedy


Gan Peter Wyn Mosey 
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae Phil Okwedy wedi bod yn gysylltiedig â PSU ers amser hir, fel adroddwr straeon a hwylysydd. Mae ar fin dechrau ar daith gyda’i sioe dweud stori un person ‘The Gods Are All Here’, sy’n dweud stori perthynas ei rieni trwy gyfres o lythyron roedd ei dad wedi anfon o Nigeria at ei fam yng Nghymru.

Mae The Gods Are All Here yn seiliedig ar straeon Phil am ei blentyndod gyda rhieni maeth yn Ne Cymru, yn ogystal â thrafod hiliaeth, rhyddid a chysylltiadau teuluol, tra’n sôn am chwedloniaeth hefyd.

Ces i air ‘da Phil, a’i gynhyrchydd Naomi Wilds o gwmni Adverse Camber. Nes i glywed am yr ysbrydoliaeth i greu cynhyrchiad The Gods Are All Here, a’i ddatblygiad wedi hynny.

Pryd nes di ddechre adrodd stori perthynas dy rhieni? Beth na’th dy ysbrydoli i wneud hynny?

Phil – Mae The Gods Are All Here yn olrhain perthynas gythryblus fy rhieni. Cafodd ei ddatblygu yn ystod y cyfnod clo gyda chefnogaeth ariannol grant cynaliadwyedd Cyngor Celfyddydau Cymru. Wrth weithio gyda’r storïwr Michael Harvey, fel cyfarwyddwr, y syniad gwreiddiol oedd darn ar gyfer perfformiad arlein

Phil – Nes i ddim tyfu lan gyda unrhyw un o fy rhieni. Yn hytrach cefais fy magu gan fam mamaeth hir dymor.  Ond ro’n i’n nabod fy mam geni. Pan fuodd hi farw fe n’es i ddod ar draws cyfres o lythron a ysgrifennwyd gan fy nhad at fy mam. Y llythyrau yna sy’n sail i’r sioe.

I ba raddau mae’r stori wedi datblygu wrth ei berfformio?

Phil -  Rhan allweddol o greu’r sioe oedd ei berfformio arlein i gynulleidfa oedd wedi cael eu gwahodd. Dw i’n ddiolchgar dros ben am yr ymateb gawson ni, am i hynny gael dylanwad mawr ar greu’r darn gorffenedig. Yna, fe ddaethon ni mas o’r cyfnod clo ac ro’dd perfformio ar leoliad yn bosib unwaith eto. O ganlyniad, dw i nawr yn gweithio gyda chwmni cynhyrchu Adverse Camber a Michael Harvey er mwyn paratoi’r sioe i’w berfformio trwy Gymru. Mae gallu bod mewn gofod ffisegol, er mwyn perfformio i gynulleidfa byw, wedi cael dylanwad sylweddol ar ddatblygiad y darn, a dydyn ni ddim yn gallu aros i’w berfformio. 

Yd ymateb y cynulleidfaoedd wedi newid dy ddehongliad o berthynas dy rhieni? 

Phil – Odi, ma’r ymateb, sylwadau a chwestiynau y cynulleidfaoedd wedi fy ngwthio i ddiffinio ac ail ddehongli y ffordd dw i’n deall fy rhieni a’u perthynas.   

Beth nes di ddysgu am dy bersonoliaeth dy hunan wrth roi’r stori ‘ma at ei gilydd?

Ma hwnna’n gwestiwn da iawn a dyw e ddim yn rhwydd i’w ateb. Ond os ydw i wedi dysgu unrhywbeth, yna hynny yw y dylen i edrych ar y byd gyda mwy o gydymdeimlad. Ro’n i’n meddwl mo’d i’n gwybod sut roedden i’n teimlo am fy rhieni. Ro’dd syniadau pendant gyda fi. Dw i wedi dod i ddeall pa mor hanfodol ro’dd eu gwendidau i’w dynoliaeth. 

Beth oedd ynghlwm a chynhyrchu The Gods Are All Here?

NAOMI – Yn sylfaen i’n rôl fel cynhyrchwyr y sioe, ma ‘na gred gref yn ansawdd ag apêl y sioe mae Phil wedi ei greu, sy’n adrodd stori dynol a theuluol y gallwn ni gyd deall, beth bynnag yw’n perthynas ni gyda’n rhieni a sut ma’ hynny’n dylanwadu ar ein hunanieth a’n stori bersonol. Mae hyn yn cysylltu’n hyfryd gyda’r straeon mae’n eu hadrodd am y duwiau’ a’r straeon hanesyddol sy’n cynnig golau gwahanol i’r brif stori a’r ffordd arall rownd hefyd. Mae’n ddarn sydd wedi cael ei greu yn grefftus, yn llawn calon a gorfoledd a rydyn ni’n gwybod y bydd pawb a ddaw i’w weld yn mynd i’w fwynhau a chael ei cyffwrdd ganddo – a dyna pam ry’n ni mor frwdfrydig i weithio gyda Phil, gan wybod y gallwn ei rannu gyda cymaint o bobl â phosib! 

Ein cam cynta yn y broses cynhyrchu oedd siarad gyda Phil ynglŷn â’r hyn ro’dd e am gyflawni’n greadigol gyda’r sioe. Yna, cyfuno hynny gyda gwybodaeth Adverse Camber o rhwydweithiau lleoliadau a chynulleidfaoedd ar gyfer adrodd straeon yng Nghymru, hynny ynghyd â’r posibilrwydd o ehangu dylanwad Phil trwy ei berfformiadau ar daith. Ro’dd hynny’n ychwanegol i sgyrsiau pellach ynglŷn â sut ro’dd troi’r perfformiad o Zoom i theatrau a gofod cymunedol.

Fe wnaethon ni drafod sut ro’dd cefnogi’r gwaith ar daith, a sut ro’dd cryfhau adrodd straeon yng Nghymru ynghŷd â recriwtio Jasmine Okai, cynhyrchydd cynorthwyol, i weithio ar y prosiect gyda ni yng Nghymru. Ro’dd y syniadau yma wedi cael cefnogaeth anhygoel gan dîm Theatrau Sir Gâr a oedd wedi darparu’r stiwdio a’r prif theatr ar ein cyfer am dair wythnos yn Ebrill a Mai er mwyn i ni ddod a’r synadau i gyd yn fyw. Ac yn ola, ni fydden hyn oll yn bosib oni bai am gefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Sut ro’dd Adverse Camber wedi helpu yn natblygiad y cynhyrchiad?

NAOMI – Ein rôl, yn syml, yw dal gafael ar y broses greadigol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn yr oedden ni am ei gyflawni, sef rhoi’r gofod creadigol i archwilio’r dyheadau artistig, ystyried y rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, arianwyr ac ati.

Roedden ni’n rhan o greu’r tîm creadigol a Phil yn rhan o bob penderfyniad. Ro’dd Michael Harvey yn ddewis naturiol ar gyfer rôl y Cyfarwyddwr, gan iddo weithio gyda Phil o’r blaen. Ma’r cynllunydd Molara Adesiigbin wedi cynnig ei llygad creadigol i olwg y cynllun. Mae’r cynllunydd goleuo, Elanor Higgins, wedi creu golwg a theimlad sy’n ychwanegu at sut ma Phil yn gweu eu straeon gwahanol at ei gilydd. Mae tchnegydd Sound Hire Wales, Gethin Stacey, ynghŷd â Simon Davies o Theatr Ffwrnes, wedi gwneud i bopeth weithio’n ymarferol yn y gofod perfformio.

Mae’r broses rihersio wedi bod yn un creadigol tu hwnt, yn ymrafael a’r straeon, perfformiad Phil a golwg a theimlad y lleoliadau perfformio er mwyn sicrhau eu bod yn hyrwyddo’r syniadau yn y straeon. Rydyn ni hefyd wedi ymroi i gynllun marchnata sydd am ddangos apêl y cynllun i gynulleidfa eang. Byddwn yn ffilmio fideo yr wythnos nesa, yng Nghaerdydd a Llanelli, Mae ein Rheolwr Marchnata Jenny Babenko wedi comisynu lluniau a dylunio posteri y gallwch eu gweld ymhob man yn Llanelli ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae wedi bod yn gweithio gyda’r arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus Suzanne Carter i ledaenu’r neges. Mae Jenny hefyd wedi bod yn cysylltu ‘da lleoliadau er mwyn dweud wrthyn nhw am y sioe a threfnu perfformiadau ar gyfer y flwyddyn nesa.

Adverse Camber sy’n cynhyrchu’r daith, sy’n golygu ein bod yn cefnogi’r prosiect trwy’r broses greadigol ac yna rheoli’r daith ei hunan. Ni’n gwbod y bydd yn antur anhygoel i Phil a’r gynulleidfa a ddaw i fod yn rhan o’r noson anhygoel yma o ddarganfod straeon gwefreiddiol. Dy’n ni ddim yn gallu aros i’r sioe gynta!

Gallwch weld The Gods Are All Here yn Ffwrnes Lanelli ar Ddydd Iau 26 Mai am 8pm. Yn Athrofa Glowyr Y Coed Duon ar Ddydd Gwener 10 Mehefin am 7.30pm ac yn y Riverfront, Casnewydd ar Sadwrn 11 Mehefin am 7.00pm.

 

NAOMI - Underneath our role as a producer is a huge belief in the quality and appeal of the show Phil has made, which tells a very human and family story which we can all relate to, whatever the circumstances of our own relationships with our parents, and how that influences our sense of identity and our personal stories. This links in beautifully with the mythic stories of the ‘Gods’ that he tells, together with historical stories which throw a different light onto the central story and vice versa. It's a really skilfully woven piece with a lot of heart and joy within it, and we know everyone who comes to see it is going to enjoy it and feel moved by it – hence our enthusiasm to work with Phil on how we can share it with as many people as possible!   


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: