Pobl People Speak Up


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae People Speak Up yn cynnig nifer o brosiectau celfyddydol yn Llanelli i bobl o bob cefndir ac oedran. Ma nhw’n cynnig cyfle i bobl ymwneud â’i gilydd yn y gymuned, ar sawl platfform, gan gynnwys Stori, Rhannu Gofalu, Sadwrn Siarad y Gair a llawer mwy.

I ddysgu mwy am y bobl sy’n cymryd rhan ac yn gwirfoddoli ym mhrosiectau PSU, dw i wedi bod yn siarad gyda rhai sy’n rhan o grwpiau amrywiol.

Karen Lacey-Freeman 

Clywodd Karen am PSU tra roedd hi’n astudio drama ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cafodd wahoddiad i gymryd rhan mewn gweithdy dydd yn Ffwrnes Fach gan fod PCYDDS yn gweithio mewn partneriaeth gyda PSU. Yn y gweithdy, creodd linell bywyd celf a chrefft.

Ro’dd hi wedi mwynhau’r diwrnod cymaint, gofynnodd i Eleanor os oedd cyfle i wirfoddoli gyda People Speak Up.

Cyn hir, ro’dd hi’n gwirfoddoli ar brosiect rhyng-genhedlaeth yng nghartre gofal Hollies ym Mhontarddulais ac yn yr Ysgol Gyfun yn y dre.

Ers hynny, mae Karen wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect PSU ac mae’n cyfrannu’n gyson i Stori Rhannu Gofalu. Mae wedi mwynhau nifer o’r sesiynau ac mae’n ei chael yn annodd i ddewis ffefryn. Mae’n dweud bod sesiwn Clare Murphy wedi ei ysbrydoli, sesiwn Dominic Williams oedd yr un mwya doniol a bod sesiwn Tracy Breathnach wedi gwneud iddi ymdawelu.

Mae gwirfoddoli gyda People Speak Up wedi rhoi hyder i Karen i gymysgu gyda pobl o oedrannau gwahanol. Mae erioed wedi bod yn ofnus o gartrefi gofal ond trwy fod yn rhan o’r prosiect rhyng-genhedlaeth, mae wedi concro’r ofn hwnnw.

Trwy’r cyfnod clo, pan ro’dd Stori Rhannu Gofalu ar Zoom, mae Karen wedi magu hyder i siarad yn y sesiynau hynny. Mae’r hyder yma wedi tyfu’n sylweddol ac mae hi erbyn hyn wedi arwain sesiwn llwyddianus iawn ar gardiau post.

Mae Karen wedi giwrfoddoli yn rhai o brosiectau eraill PSU hefyd ac mae rhain wedi ei hysbrydoli i greu gweithdai.

Bydden i byth wedi gallu camu i’r blaen a chynnig gwneud y pethau yma i gyd oni bai am y gweithdy cynta’n deg gyda Eleanor (Cyfarwyddydd Artistig People Speak Up) Ro’dd hwnna wedi rhoi’r hyder i fi i ofyn os gallwn i fod yn rhan o PSU. Cyn hyn, ro’n ni’n eitha ansicr ynglŷn â beth i wneud ar ôl gadael y Brifysgol. Mae bod yn rhan o People Speak Up wedi rhoi cyfeiriad a sgiliau amrywiol i fi, er mwyn i fi allu ymwneud gyda phobl yn y gymuned.”

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn annodd i Karen. Bu farw ei mam yn y cyfnod clo a doedd Karen ddim wedi gallu ei gweld am ddau fis cyn iddi farw. Llwyddodd i gwblhau ei gradd yn y cyfnod clo hefyd. Ro’dd yn sialens i wneud hynny, ond ro’dd yn rhoi rhywbeth iddi ganolbwyntio arno.

Here is a piece written by Karen: 

The Tail

The flick of the rusty red darts into the unknowing.
The leaves swirl around the space it has just left.
Uncovering the army of small ants, moving into, under new spaces.
The overhead call of a cuckoo as it has just invaded another bird’s space.
It fills the air with all the pompousness that it feels it deserves.
The flick of the rusty red darts into the unknowing.
Holes that gather creatures of the night lay silent,
Waiting for the footsteps to lessen and the moon to rise.
The stripe, the claws, the fierce gaze lingers, smelling the earth’s floor.
awaiting the silence.
Tiny fur balls dart across the rich dense floor of mud and debris.
A hoot from above makes the pathway a meal for one, until
tiny creatures move faster to another space.
Dry grasses hiss and the whirrrrr of a fern,
and seeds from a fairy fill the air with a special time.
A space for nature, a break from the flow of daytime,
that brings life to the forest floor.

Lynne Bebb

Daeth Lynne ar draws People Speak Up pan ro’dd hi’n chwilio am bethau i’w gwneud wedi marwolaeth ei mam. Ei phrofiad cyntaf o PSU oedd un o weithdai adrodd stori Eleanor. Ei atgof cynta o weithio gyda PSU oedd rhannu stori bersonnol iawn yn ystod gweithdy ac yna mewn digwyddiad cyhoeddus arall.

Mae Lynne yn mynd i sesiynau Stori Rhannu Gofalu. Mae pob awdur sydd wedi cyfrannu i’r sesiynau yma wedi ysbrydoli Lynne i fod yn greadigol. Dyma’n union beth ro’dd hi ei angen yn ystod y cyfnod clo.

Mae Stori Rhannu Gofalu wedi rhoi cyfle i Lynne i gyfarfod a dod i nabod pobl eraill yn y sesiynau hefyd, ac mae wrth ei bodd i wrando ar eu gwaith nhw.

Mae People Speak Up wedi helpu Lynne i ddod o hyd i gyfeiriad newydd yn ei bywyd ac wedi rhoi hwb iddi fod yn greadigol. Bu farw ei mam a’i chwaer o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd. Ro’dd Lynne wedi bod yn gofalu am ei mam am beth amser, gan fod dementia arni. Mae cymryd rhan ym mhrosiectau People Speak Up, Stori Rhannu Gofalu er enghraifft, wedi ei helpu i ail-adeiladu.

Trwy’r cyfnod clo, mae Lynne wedi bod yn ynysu gyda’i gwr, sydd ag asthma gwael, a’u merch sydd â Syndrome Downs. Ro’dd y tywydd braf ar ddechrau’r cyfnod clo yn fendith a ro’dd hi wedi mwynhau eistedd yn yr ardd ben bore, yn mwynhau’r heddwch a’r tawelwch. Ro’dd hyn wedi i’r gofid ynglŷn â threfnu derbyn bwyd a dal y feirws fynd heibio. Mae wedi profi cyfnodau isel, pan ro’dd pethau’n edrych yn ddigon du ac ro’dd Lynne yn gweld eisiau ei merch arall a’i wyron, yn ogystal a mynd am dro ar y traeth. Mae hefyd wedi gweld eisiau cwrdda pobl ac mae Stori Rhannu Gofalu wedi helpu gyda hynny. 

Cymrwch rhan yn People Speak Up

Mae Stori Rhannu Gofalu yn digwydd ar Zoom bob bore dydd Mercher a Nos Wener. Ar hyn o bryd mae modd i nifer cyfyngedig o bobl i gwrdda wyneb yn wyneb yn Ffwrnes Fach. Mae Sadwrn Siarad y Gair yn cael ei gynnal ar ail ddydd Sadwrn y mis.

Os ydych chi eishe cymryd rhan yn unrhyw un o brosiectau People Speak Up, neu os ydych chi eishe gwybod mwy, cysylltwch heddi.

Cymrwch rhan yn People Speak Up

Story Care and Share is currently run via Zoom on a Wednesday morning and Friday evening. Currently, the Wednesday session also has a limited capacity for members to meet in person at Ffwrnes Fach. Spoken Word Saturday is held every second Saturday of the month. 

Mae Stori Rhannu Gofalu yn digwydd ar Zoom bob bore dydd Mercher a Nos Wener. Ar hyn o bryd mae modd i nifer cyfyngedig o bobl i gwrdda wyneb yn wyneb yn Ffwrnes Fach. Mae Sadwrn Siarad y Gair yn cael ei gynnal ar ail ddydd Sadwrn y mis.

 

If you would like to take part in any of the projects run by People Speak Up, or you’d like to find out more, get in touch today.  

Os ydych chi eishe cymryd rhan yn unrhyw un o brosiectau People Speak Up, neu os ydych chi eishe gwybod mwy, cysylltwch heddi.

 

 

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: