• »
  • »
  • Flashbacks and Flowers: cyfweliad gyda Rufus Mufasa

Latest Posts

Blog Article


Flashbacks and Flowers: cyfweliad gyda Rufus Mufasa


Gan Peter Wyn Mosey 
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae Rufus Mufasa yn fardd, rapiwr, ymarferydd cyfranogol arloesol ac yn fam. Mae’n Gymrawd yn y Barbican, yn un o Awduron ar Waith Gŵyl y Gelli ac yn fentor ar feirdd beat o’r Ffindir.

Hi hefyd yw Bardd ar Bresgripsiwn preswyl People Speak Up ac fe ges i air gyda hi ynglŷn â’i llyfr newydd, Flashbacks and Flowers. Nethon ni drafod ei chreadigrwydd, y cyfnod clo a chyhoeddi’r llyfr.

Rufus Musafa

Mae lot o straeon pwerus yn y llyfr, sut ma pobol ti’n nabod wedi ymateb i hynny?

Dw i’n credu iddo fodd yn annodd iawn gan fod lot o bobol yn fy nabod ac yn gwbod fy stori a nethon nhw ffindo’r llyfr yn annodd. Fe wnaeth Eleanor Shaw (Cyfarwyddydd Artistig PSU) ei ddarllen ac ma hi’n gwbod fy stori. Ond dw i ddim yn credu bod hyd yn oed hi yn disgwyl beth o’dd yn y llyfr. Dw i’n cofio un darlithydd yn fy mhrifysgol, sydd wedi fy nabod ers cyn cof, sylwi ambell beth amdana i yn fy mlwyddyn ola, yn benodol fy nefnydd o iaith, fe welodd hi rhywbeth yndda i. Felly pan ddaeh y llyfr mas, nes i anfon copi iddi hi, pan naethon ni gwrdda wedyn, ro’dd hi’n dal y llyfr yn ei chôl fel babi ac yn shiglo nôl a mla’n. Ro’n i’n awyddus i fwrw mla’n gyda beth bynnag ro’n i yno i wneud ond fe ddywedodd hi, “Na ma’n rhaid i ni siarad am hwn. Wyt ti’n ok?’ A dwedes i ‘ Odw, odw, fi’n ok’ neu rhywbeth tebyg. Mae’n amlwg iddi ddarllen y llyfr a meddwl ‘ma hwn yn hiwj’ a dwedes i ‘dw i ddim yn byw fan ‘na mwyach. Mae wedi mynd.’ Ond wedyn, dw i’n credu bo fi wedi bod tamed bach yn naïf wrth feddwl siwd bydde pobol yn dod at hwnna.

Fe wnes i feddwl bod pawb yn gwybod. Nes fyth deimlo mai ‘fy shit i yw hwn’, dw i’n credu bod hwn yn broblem i bob menyw. Dw i ddim yn enghraifft sy’n eithriad. Ces i therapi llynedd ac fe ddywedon nhw wrth feddwl fel ‘na, ro’n ni’n bychanu fy trawma fy hunan. Nes i sylweddoli wedyn bod ‘da fi ffordd mater o ffaith, gohebydd newyddion, o rannu digwyddiadau trawmatig. Esboniodd fy therapist bod hwn yn dacteg ro’n i’n defnyddio, ac o’r sylweddoliad ‘na, dw i wedi deall mai dyna beth dw i wedi gwneud yn y llyfr.

Does bron a bod dim byd sentimental yn y llyfr, yn enwedig gyda’r trawma. Falle i fi fod yn sentimental ynglŷn a phobol hŷn na fi sydd wedi bod yn dda i fi.

Beth nes di ffeindio’n rhwydd a beth o’dd yn her wrth sgrifennu amdana ti dy hunan?

Galle’r llyfr fod wedi dod mas blwyddyn diwetha, yn 2020, ond dw i ddim yn credu ro’n i’n barod yn emosiynol a ro’dd lot yn digwydd yn y cefndir. Dw i’n credu bod y llyfr wedi dod mas pan ro’dd e fod i ddod mas. Dw i’n credu, i fi, bod trefn cronolegol. Ma pob darn yn ddarn unigol ond wrth eu rhoi at ei gilydd mae fel stori a dw i’n hynod o falch o’r peth ‘ma dw i wedi gwneud.

Dw i wedi ca’l amser annodd gyda’r camu rhwng ‘page and stage’ a ffindo fy ffordd o gwmpas hynny. Ro’n i’n meddwl, ‘Dw i’n mynd i ddangos i’r busnes barddoniaeth ar dudalen ‘ma bod fy gêm biro i’n gryf!’ond hefyd heb gyfaddawdu ar pwy ydw i, a bod beth sy gyda fi gynnig i iaith a llenyddiaeth gyfoes yn ddilys.

Yn bendant fe ddes i le cyfforddus wrth geisio creu dilyniant. Os yw’n rhy fawr i un peth, ma modd ei dorri lawr. Cadwodd hwnna fi ar y trywydd iawn.

Beth nes i ffindo’n annodd fi’n credu yw i fi wneud lot o iachau mewnol a gwaith ar y plentyn oddi fewn, y fi yn bum mlwydd oed, neu tua’r cyfnod yna. Yna yn y cyfnod clo 2020, ro’dd fi yn un ar ddeg mlwydd oed yno, yn sgrechen am sylw a do’n i ddim eishe mynd nôl yno ond ro’dd yn rhaid i fi. Yn un ar ddeg, ni ar y ffin rhwng cynradd ac uwchradd, rhwng merch a menyw, rhwng bod yn fregus a ffycin bregus iawn, felly ro’dd gwir angen i fi brosesu hwnna.

Ro’dd y moesau’n annodd. Dw i’n siarad am Weasel yn un o’r darnau… siarad am ei frawd yn cymryd ei fywyd ei hunan – a nes i feddwl, gallai fynd ‘na? Ond fe ges i sgwrs am y peth. Un arall oedd fy Anti Shirley, a dw i’n cofio palu gyda fy mam a hi’n dweud ‘Gallai ddim ateb dy gwestiynau, ti’n gwneud fi’n stressed!’ Felly nes i ffonio fy chwaer yn lle. Ambell waith dw i’n credu ei fod yn fater o fod yn ddewr ac yn agored gyda pobol. 

Felly, ma rhywbeth nes i sgrifennu tua haf ’94, y fi yn un ar ddeg ac yn siarad am y ‘cat woman’. Fe nes i glosio at ferch cat woman a dweud ‘dw i wir am sgrifennu ynglŷn â dy fam’. Ond ces i ddim ateb. Felly dw i nail ai ddim yn ei wneud e neu dw i yn ei wneud e. Fe nes i fe. Rhaid mynd gyda’r pethe ma ambell waith. Dw i’n credu ei fod yn ddarn o farddoniaeth grêt. Ma mwy i’r stori…falle dyna pam na’th hi ddim ateb nôl. Ond do’s dim byd drwg yn perthyn iddi.

Mae’n od siwd i ni’n gallu cofio pobol o’n gorffennol a meddwl beth ma nhw’n meddwl amdana i, a nes i greu unrhyw argraff arnyn nhw?

Rufus Musafa outside a book store

Mae llais nodedig iawn ‘da ti. Pwy neu beth sy’n ysbrydoli’r llais ‘na a ble a phryd nes di ddod o hyd iddo fe?

Ma hwnna’n un od. Ro’n i’n arfer casau fy llais, ond dw i’n dod yn ok gyda fe nawr. Dw i’n dod yn ok gyda fy nghorff. A dw i’n dod yn ok gyda fy hunan a fy ffaeleddau. Nes i byth feddwl y bydden i’n lais yng Nghymru sy’n cael ei werthfawrogi. Ma’n amhosib fy lleoli yn ddeaaryddol. Gallai swnio fel petawn o De Orllewin Cymru, o Gaerdydd tamed bach ne gallai swnio fel rhywun o Ponty.

Heb swnio fel petai cyflwr aml bersonoliaeth ‘da fi, gallai wir weld tu fewn i fy ymenydd a’r Filofax bach sy ‘na. Mae’n wallgo. Ydy hwn yn beth normal? Ydych chi’n gallu gweld y tu fewn i’ch ymenydd?

Pan ro’n i yng Ngŵyl Beyond the Border a Gŵyl Landed, ro’n i ar y llwyfan a rhwng perfformiadau yn gorfod clebran i gadw pobol yn hapus. Ro’dd stwff yn dod mas. Fel petawn i jyst yn dweud beth bynnag o’dd ar fy meddwl ond ro’dd e’n dod mas mewn llais gwahanol. Ro’dd pawb yn meddwl ei fod yn hysterig. Ond ro’n i’n meddwl ei fod yn fwy doniol na nhw achos do’n i ddim yn trio bod yn ddoniol! Ro’n i jyst yn dweud beth ro’n i’n ei feddwl. Ond dw i ddim yn siŵr os ydych chi fod i ddweud pethe fel ‘na yn gyhoeddus. Ambell waith does dim ffilter rhwng beth ma pobol yn meddwl a beth ma nhw’n dweud, ma gyda fi ffordd o wneud hynny a ma popeth yn llifo mas. Os ydw i’n dweud rhywbeth annodd neu rhy onest dw i’n ffindo fe’n haws i wneud hynny trwy ddefnyddio llais arall.

Mae fy llais siarad yn swnio’n hollol wahanol i fy llais perfformio.

Dw i’n dwli ar Mary J Blige ac yn caru Missy Elliot, dw i’n caru Jill Scott. Ma wal yn fy stafell sydd yn llawn menywod. Amy Winehouse – ro’dd ffordd ro’dd hi’n siarad a’r ffordd ro’dd hi’n canu yn hollol wahanol. Mae rhywbeth yn digwydd pan ry’ch chi’n canu. Mae fel gweddio.

Pan weles i ti’n gwneud y freestyle yn Beyond the Border, ro’dd e bron fel dy fod yn siarad mewn tafodau.

Ces i fy nghodi yn yr eglwys a’r bywyd ysbrydol a dw i wedi bod trwy ysgol bywyd go iawn ac ar ben hynny, mae’r iaith Gymraeg, sy’n gymhleth. Ond dwi’n ei arddel nawr a dw i ynddi.

Sut da’th y llyfr i fod?

Ro’dd fersiwn cynnar o’r llyfr wedi ca’l ei gymeradwyo gan y Geoff Stevens Memorial Prize. Felly ro’dd y cyhoeddwyr yn gwbod amdana i a ro’n nhw wedi cynnwys cwpwl o fy ngherddi mewn mwy nag un antholeg. Yna weles i neges yn dweud bo nhw’n chwilio am gasgliadau newydd. Ro’n i newydd ga’l llaw-driniaeth a dw i’n cofio arwyddo mas o’r ysbyty yn gynnar a dweud ‘Ma rhaid i fi fynd adre, ma hwn yn uffern’ a fe ddywedon nhw ‘ ni ddim eishe i ti fynd, ti wedi ca’l op mwy cas na ro’n ni’n dishgwl’ a dywedais i ‘’drychwch, ‘ma ‘da fi deadlines, ma rhaid i fi fynd adre’. A dyna beth nes i, ac fe arhosais i ar ddihun er mwyn ca’l y gwaith mewn erbyn hanner nos. A dw i mor falch i fi wneud hynny achos ma fe wedi newid y gêm yn llwyr i fi.

Nethon nhw gysylltu eto yn Hydref 2019, neu dechrau Tachwedd 2019 i ddweud bod un o fy ngherddi wedi cael ei dderbyn i antholeg Dear Dylan. Dywedais diolch a fy mod yn mynd trwy gyfnod hollol shit. Nethon nhw ddod nôl ata’i eto i ddweud y byddaf hyd yn oed yn hapusach i wbod eu bod am gyhoeddi’r llyfr. Ro’dd e fel yn y ffilms, pan ma pobol yn cwmpo’n ddramatig ar y llawr – fe nes i! Ro’dd yn foment real iawn am i fi golli peth o fy ngwaith a ro’dd yn teimlo fel petai’r duwiau wedi taflu llinyn i’m hachub a dweud ‘gad popeth arall i fynd a canolbwyntia ar y llyfr’ felly dyna siwd da’th ei fod.

Ond digwyddodd rhywbeth yn y broses a dw i’n gredwr cryf mewn ymddiried yn y broses. Digwyddodd rhywbeth ac fe drodd yn rhywbeth arall a dw i’n cofio ebostio’r golygyddion a’r cyhoeddwyr a dweud ‘Dw i’n gweithio arno fe’ ac yn fy mhen ro’n i’n meddwl – dw i’n credu bod angen iddyn nhw ei weld nawr. Felly nes i anfon y gwaith atyn nhw a dweud nad o ni wedi cwpla ond ro’n i’n credu bod angen iddyn nhw ei weld. Ac fe wedon nhw, ‘Rufus, ti wedi torri’r rheolau i gyd’, a wedes i ‘ma rheolau? Do’n i ddim yn gwbod am y rheolau ‘ma’ a dw i’n falch nad o’n i’n gwbod am y rheolau neu bydde’r llyfr ddim wedi ymddangos fel gwnaeth e. Fe nethon nhw ddeall hynny a ro’dd popeth yn iawn. Yna dywedes i bo’ fi angen darluniau ac yna fe nethon nhw weld y darluniau. Ma nhw wedi bod yn anhygoel a dweud y gwir, ro’dd angen iddyn nhw ymddiried yn fy ngweledigaeth a ma nhw wedi. Dw i’n teimlo’n well am ei bo’ nhw yn fy mywyd.

Byddan nhw’n dweud, ‘Rufus, ma hwn yn y broflen ola, ydy e’n barod i fynd mas?’ a bydden i’n dweud odi, ac yna yn anfon pedair tudalen o newidiadau a golygiadau iddyn nhw. Yna byddan nhw’n dweud, ‘ma rhaid i ti jyst ade’l hwn i fynd’. Ro’dd pethe wedi symud o fi yn mynnu fy ffordd i ‘ma’n rhaid i ti wneud hwn nawr i gael e’n barod i Ŵyl y Gelli’. Ac fe nes i fe. Fe nethon nhw lwyddo - a ro’dd hynny’n anhygoel. 

 

Pa gyngor bydde ti’n rho i unrhyw fardd newydd?

Paid a cyfaddawdu dy hunan. Mae dy stori’n ddilys. Paid a sgrifennu beth ti’n credu ma pobol eishe clywed, fel gwbod bod rhyw olygydd penodol yn hoffi blah, blah, blah. Os wyt ti’n dechre chware’r gêm ‘na, ti byth yn mynd i wbod pwy wyt ti. Falle gei di dy gyhoeddi ond ti byth yn mynd i ffindo mas pwy wyt ti.

Rhwydweithia. Ffinda grwpiau cefnogi. Chwilia am grŵp o sgrifenwyr a trafodwch waith eich gilydd dros goffi. Ma gen i ffrind anhygoel o’r enw Anne Phillips, mae wedi bod yn werthfawr iawn i fi. Ni’n anfon gwaith at ein gilydd yn aml a ry’n ni’n edrych mla’n i’w dderbyn a’i ddarllen a dweud pethe amdano.

Os ydych chi wir yn parchu ac yn edmygu rhywun, gofynnwch iddyn nhw beth ma nhw’n darllen. Os yw rhywun yn dweud wrthoch chi i ddarllen llyfr, jyst darllenwch y ffycin llyfr. A darllenwch, darllenwch, darllenwch, darllenwch, darllenwch! A sgrifenwch, sgrifenwch, sgrifenwch, sgrifenwch, sgrifenwch! Peidiwch ag ofni sgrifennu cachu achos o fan’na daw’r stwff da. Oes, ma rhaid gwbod y rheolau ond peidiwch a bod ofn eu torri chwaith. Peidiwch ag ofni i groesi ar draws ffurfiau celf oherwydd, y don newydd, dyw nhw ddim yn gwbod beth yw e eto, ydyn nhw? Do’dd neb wedi gweld Covid yn dod, do’dd neb wedi gweld y byd digidol yn dod. Dw i wir yn credu mai croesi ar draws ffurfiau celf yw’r dyfodol.

Beth sy’ nesa i ti?

Bydd yr albwm Trigger Warnings mas cyn diwedd y flwyddyn. Ac yna dw i’n sgrifennu drama i Theatr Genedlaethol Cymru a dw i hefyd yn gweithio gyda Experimentica yn Chapter ac ar brosiect ieithoedd brodorol yn Senghenydd a dw i’n Fardd ar Bresgripsiwn i People Speak Up.

Ma Rufus yn Fardd ar Bresgripsiwn i People Speak Up. Mae ei llyfr Newydd Flashbacks and Flowers ar gael ar Rufusmufasa.com am £14, ac yn cynnwys tamed bach o ‘gariad Rufus’.

Flashbacks & Flowers Book Cover


Comments (0)


Add a Comment




Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: