Gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer Canolfan Byw'n Dda Sir Gar.
Rydym yn edrych ymlaen at gael eich croesawu i Ganolfan Byw'n Dda Sir Gar.
Cynlluniwyd y canllaw hwn i wneud eich ymweliad mor llyfn a phosibl, yn arbennig os oes gennych anghenion o ran hygyrchedd.
Os oes gennych anghenion neu gwestiynau penodol cyn eich ymweliad, cysylltwch a People Speak Up ar 01554 292393 neu info@peoplespeakup.co.uk .
Crynodeb Hygyrchedd Cyflym
- Yn agos at fannau parcio gan gynnwys man gollwng teithwyr a lleoedd Bathodyn Glas
- Mynediad heb risiau trwy’r adeilad
- Toiled hygyrch yn y Prif Adeilad (gyda rheiliau codi, sedd gyferbyniol, niwtral o ran rhywedd)
- System dolen clywed ar gael
- Croeso i gŵn cymorth
- Cefnogaeth staff ar gael bob amser.
Parcio a chyrraedd
Y cyfeiriad llawn yw Canolfan Byw’n Dda Caerfyrddin, Adeilad 1, Parc Dewi Sant, Sir Gaerfyrddin, SA31 3HB.
Y lleoliad what3words ar gyfer y drws ffrynt yw ///photos.pines.edges neu ///blogio.ffiwsio.afocado
Mae parcio am ddim ar gael ar draws y safle. Mae maes parcio mawr o flaen y prif adeilad a dau faes parcio llai wrth ymyl y fynedfa i’r Ganolfan Byw’n Dda.
There are also four disabled parking spaces outside of the main building and one to the left hand side.
Mynd i mewn i’r adeilad
Trowch yr handlen a thynnu’r drws tuag atoch. Os bydd arnoch angen cymorth, gall y derbynnydd eich gweld trwy’r ffenestr a bydd yn dod i’w agor i chi. Fel arall, rhowch wybod i ni ymlaen llaw pa bryd y byddwch yn cyrraedd, ac fe ddown i’ch cyfarfod.
Byddwch yn dod i mewn i’r dderbynfa. Bydd y derbynnydd yn dangos i chi ble i fynd ar gyfer eich sesiwn ac yn gofyn i chi lofnodi’r llyfr wrth ddod i mewn a mynd allan fel ein bod yn gwybod pwy sydd yn yr adeilad.
Lleoliadau gweithgareddau
Y mae dwy Ystafell gyfarfod / lleoliad gweithgareddau, gerllaw’r dderbynfa.
Ystafell Gyfarfod 1
Mae carpedi ar yr ystafell hon a byrddau a chadeiriau y gellir eu symud. Mae yno ddrws sengl gyda phaen o wydr.
Ystafell Gyfarfod 2
Mae yno ddrws sengl gyda phaen o wydr.
Mae ffenestri mawr yn un pen i’r ystafell gyda golau naturiol.
Mae gennym systemau dolen clywed cludadwy y gellir eu defnyddio yn unrhyw un o’r ardaloedd.
Cŵn Cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth a chŵn cefnogaeth emosiynol yn holl ardaloedd cyhoeddus yr adeilad.
Gweler y Polisi Cŵn Cymorth am fanylion.
Cyfleusterau toiled
Pan fyddwch yn dod i sesiwn, rhowch wybod i staff os hoffech chi ddefnyddio’r cyfleusterau hygyrch. Mae llwybr byrrach, wedi ei orchuddio y gallant ei agor a’ch hebrwng ar ei hyd yn hytrach na mynd o gwmpas y tu allan a thrwy’r drws ffrynt i’r Prif Adeilad.
Fel arall, dewch i mewn trwy’r drws ffrynt i’r prif adeilad.
Mynychu Sesiwn
Pan fyddwch yn dod i sesiwn, rhowch wybod i staff os hoffech chi ddefnyddio’r cyfleusterau hygyrch. Mae llwybr byrrach, wedi ei orchuddio y gallant ei agor a’ch hebrwng ar ei hyd yn hytrach na mynd o gwmpas y tu allan a thrwy’r drws ffrynt i’r Prif Adeilad.
Fel arall, dewch i mewn trwy’r drws ffrynt i’r prif adeilad.
Er mwyn gadael y Prif Adeilad, pwyswch y botwm i agor y drysau neu ofyn am gymorth wrth ddesg y dderbynfa.
Mae drysau dwbl awtomatig ar y prif adeilad sy’n agor at ddesg derbynfa. Mae’r toiled yn union o’ch blaen, trwy ail set o ddrysau awtomatig.
Gwagu mewn argyfwng
Y prif lwybr gadael yw trwy’r brif fynedfa ffrynt.
Dylai ymwelwyr a allai fod angen cymorth lenwi Cynllun Gadael Mewn Argyfwng Personol gydag aelod o’r staff wrth gyrraedd.