Cysylltu â People Speak Up

Celf, Iechyd a Lles yn Llanelli a Chaerfyrddin

Ein Canolfannau Cymunedol

Arts, Health & Wellbeing Hub in Llanelli

Canolfan Llanelli

Arts, Health & Wellbeing Hub,
c/o Theatr Ffwrnes, Ffwrnes Fach,
Park Street
Llanelli SA15 3YE

View map & directions

Llanelli - Map & Directions

O’r Dwyrain: O’r M4 dilynwch y A4138 tuag at Ganol Tre Llanelli. Wrth gylchfan Trostre, cymrwch y 5ed allanfa i’r A484, wrth y gyclhfan nesa cymrwch yr allanfa gynta, i aros ar yr A 484. Wrth gyrraedd y gylcjfan nesa, byddwch yn gweld Travelodge o’ch blaen, cymrwch y 3ydd allanfa i Faes Parcio East Gate. Os ydych yn defnyddio SatNav, defnyddiwch SA15 3YF a bydd hyn yn mynd a chi’n syth i Faes Parcio East Gate.

O Gaerfyrddin (Gorllewin): O Gaerfyrddin dilynwch yr A484 tuag at Lanelli. Wrth gyrraedd canol tre Llanelli cadwch i’r chwith ar oleuadau Gelli Onn (wedi pasio Eglwys Hall Street) yna cymrwch y lôn ar y dde. Trowch i’r dde ar y goleuadau ar ben y rhiw. Rydych nawr yn Thomas Street, y tu ôl i Theatr Ffwrnes. Wrth y gylchfan, cymrwch y 4ydd allanfa i Faes Parcio East Gate.

Cyfnod Byr – mae maes Parcio arhosiadau byr yn East Gate rhwng 8 a 6, Llun i Sadwrn. Bydd angen talu. Does dim modd aros am fyw na phedair awr. £2.00 yw’r tâl am hynny. Mae parcio am ddim dros nos rhwng 6 ac 8, a thrwy’r dydd ar y Sadwrn.

Cyfnod hir – Mae dau faes parcio arhosiadau hir o fewn i 500 llath i’r Ffwrnes.

Maes Parcio Stryd Edgar, ger Meddygfa Hen Heol. SA15 3HW

Maes Parcio Stryd yr Eglwys, ger Meddygfa Vauxhall. Dim ond nifer cyfyngedig o fannau parcio arhosiad hir sydd fan hyn. SA15 3BD

Am wybodaeth mwya diweddar am y meysydd parcio yma, ewch at dudalen parcio’r Cyngor arlein, neu cliciwch fan hyn: (http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/travel-roads-parking/parking/car-park-charges/)

Mae'n bosib defnyddio app Mipermit ar eich ffôn i dalu am eich parcio ymlaen llaw neu wedi cyrraedd. Sylwch, dyw hyn ddim yn sicrhau lle i chi.

Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin - mae dydd Llun a dydd Mawrth 10am-4pm am ddim ond gall hyn newid. Edrychwch ar Mipermit, Cyngor Sir Gaerfyrddin neu'r peiriannau Talu ac Arddangos yn y maes parcio ar y dyddiau ‘ma am ddiweddariadau.

Mwy o fanylion am MiPermit
https://secure.mipermit.com/carmarthenshire/Account/PayAndStayAdd.aspx

 

Mae prif orsaf bysys Llanelli wrth ymyl Ffwrnes. Mae National Express yn gweithredu yn Llanelli ac mae digon o fysys lleol.

Am wybodaeth teithio, cysylltwch â

First Cymru Group: www.firstgroup.com or call 01792 512255 neu galwch 01792 512255

Mae First Great Western a Trrafnidiaeth Cymru yn cynnig gwasanaethau cyson i Lanelli

Am wybodaeth rheilffyrdd, cysylltwch â National Rail Enquiries ar  08457 484950

www.gwr.com | www.networkrail.co.uk | www.arrivatrainswales.co.uk

Carmarthen - Map & Directions

O’r Dwyrain: O’r M4 ewch am Gaerfyrddin a mynd ar yr A40. Ar ôl mynd heibio B&Q, ewch ar yr A40 a throi i’r chwith ar y B4312 am Lansteffan/Tre Ioan ond cymerwch y B4312 am Sanclêr ar Heol Ffynnon Jôb. Daliwch i fynd trwy’r goleuadau traffig ac fe fyddwch yn dechrau mynd i fyny’r allt. Ychydig cyn Prifysgol Dewi Sant, Caerfyrddin, bydd troad ar y chwith ac arwyddion Parc Dewi Sant.


Wrth i chi fynd trwy giatiau Parc Dewi Sant (peidiwch â throi ar y troad cyntaf i’r chwith i’r ganolfan anadlu’n dda) ewch i fyny’r allt a throi i’r chwith/ gyda’r arwydd Adeilad 1. Dilynwch yr arwyddion i’r Ganolfan Byw’n Dda. Os byddwch yn mynd heibio’r capel, rydych wedi mynd yn rhy bell!


O Sanclêr a Gorllewin Cymru: Dilynwch yr A40 tua Chaerfyrddin. Cyn Caerfyrddin a B&Q, trowch i’r chwith am y B4312 i Lansteffan/Tre Ioan. Dilynwch Ffordd Pendre, ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa i Ffordd Pendre. Ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf ac aros ar Ffordd Pendre. Ar y gylchfan olaf, cymerwch yr allanfa gyntaf ac aros ar Ffordd Pendre. Yna trowch i’r dde ar y ffordd sy’n arwain at Barc Dewi Sant.

Cyfarwyddiadau PDF