Gwirfoddoli

Gwirfoddoli


Mae gennym nifer o wirfoddolwyr sy’n helpu i gyflwyno ein gweithgareddau ar draws Sir Gâr. Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn helpu i gefnogi ein staff a gweithwyr llawrydd i gyflwyno gweithgareddau yn ein canolfannau yn Llanelli a Chaerfyrddin yn ogystal â rhai o’n digwyddiadau ar draws Sir Gâr. 

Pwy all wirfoddoli i PSU?

Mae gwirfoddoli ar agor i bawb. Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.

Rydym yn anelu at gadw’r broses ymgeisio yn hawdd trwy ffurflen ymgeisio syml a sgwrs anffurfiol.

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i’n cyfarfod er mwyn i ni asesu eu hanghenion, addasrwydd a’u sgiliau a’u cyfateb â chyfleoedd addas.

Os na fydd y gwirfoddolwr yn addas i’r gwaith y gwnaeth ymgeisio amdano rydym yn anelu at geisio eu cyfeirio at gyfleoedd eraill yn y gymuned.

Ar gyfer rhai swyddi efallai y bydd angen gwiriad datgelu DBS a gofyn am eirda.

Gellir cael y manylion llawn am ymgeisio i fod yn wirfoddolwr yn y ddogfen isod. Neu cysylltwch â People Speak Up ar
info@peoplespeakup.co.uk
01554 292393

Polisi Gwirfoddolwyr