Cymdeithasol / Celfyddydau / Iechyd / Lles

Yn cysylltu pobl i greu cymunedau iach a chryf trwy adrodd stori, y gair llafar, sgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol. Ry'n ni'n cynnig gweithdai creadigol, hyfforddiant, digwyddiadau, cyfle i wirfoddoli a digon o sgwrsio.

Swigod lleferydd lliwgar

GWELEDIGAETH


Creu lle i bobl ddod o hyd i'w llais.

CENHADAETH

Cysylltu pobl, creu cymunedau iach a gwydn trwy chwedleua, gair ar lafar, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol.

Yn People Speak Up rydym yn ystyried ein hunain yn gymuned - mae hyn yn cynnwys y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu, staff, gweithwyr llawrydd, gwirfoddolwyr, rheolwyr a bwrdd yr ymddiriedolwyr.


Gwenyn o amgylch diliau mêl

GWERTHOEDD


Eicon clust

GWRANDO

Gwrando'n weithredol heb feirniadu ar bawb rydym yn dod i gysylltiad â nhw.

Eicon enfys cynhwysol

CYNHWYSIANT

Ymdrechu am degwch, ymladd yn weithredol yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol a buddsoddi mewn bod yn gymuned wrth-hiliol go iawn.

Tair saeth yn uno

CYDWEITHREDU

Ymgysylltu mewn perthnasoedd gwaith ystyrlon gyda phartneriaid a rennir eu gwerth ac unigolion i gryfhau ein heffaith gyda'n gilydd.

Eicon llygad

DYSGU

Dydyn ni ddim yn ofni gofyn y cwestiynau anodd, yn agored i dderbyn a dysgu o'n methiannau, ac yn rhannu ein canfyddiadau gyda'n gymuned, partneriaid a rhwydweithiau ehangach.

Eicon egin deilen

ARWEINIR GAN BOBL

Bod yn dryloyw gyda'n cymuned a phartneriaid fel y gallwn barhau i dyfu a chael ein harwain gan bobl bob amser ac nid gan agenda.