Impact
Darganfyddwch sut ry’n ni’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, trwy gysylltu cymunedau trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol a'r celfyddydau cyfranogol.
Gofal, Rhannu, Cysylltu Sir Benfro
Yn gweithio mewn partneriaeth â Straeon Sir Benfro / Pembrokeshire Storytelling ac wedi’i ariannu gan Well Sir Benfro – Cyngor Sir Penfro. Defnyddio adrodd straeon llafar i gysylltu trigolion Sir Benfro trwy ddarparu digwyddiadau adrodd straeon cymunedol cyfeillgar a chynhwysol, gweithdai dysgu gweithredol, ac adrodd straeon un-i-un i’r rhai sydd wedi’u hynysu / yn methu teithio.
Find Out MoreRhaglen People Speak Up 2023
Yn ystod Hydref 2023 - Mawrth 2024, derbyniodd PSU grant Creu CCC i ddatblygu'r rhaglen Lles Creadigol yn People Speak Up, canolfan celfyddyd, iechyd a lles Llanelli - amser a gofod i'r gymuned gysylltu'n greadigol a dod o hyd i'w llais trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddydau digidol, celfyddydau gweledol, gwirfoddoli a sgyrsiau creadigol.
Find Out MoreGwasanaeth Creadigol yn y Cartref 2024
Gwasanaeth celfyddyd ac iechyd i bobl hŷn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yw’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref, i’r bobl hynny sy’n derbyn neu mewn perygl o fod angen gofal yn y cartref. Arweinir y prosiect gan People Speak Up (PSU) ac fe’i cefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cysylltu Sir Gâr, Pobl a Nacro a’i nod yw gwella iechyd meddwl, llesiant ac iechyd corfforol a lleihau unigrwydd trwy ddarparu gweithgareddau creadigol yn y cartref.
Find Out MoreGwasanaeth Creadigol yn y Cartref 2023
Gwasanaeth celfyddyd a iechyd i bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin. Ni’n cymryd atgyfeiriadau gan ein partneriaid yn Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac yn eu paru gyda hwyluso proffesiynol PSU ac artist. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, prosiect Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Find Out MoreCwlwm Creu ar Bresgripsiwn
Gwasanaeth Celf ac Iechyd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Find Out More
Straeon ar Bresgripsiwn
Fe wnaeth yr hyn gychwynnodd fel Storïau ar y trothwy, storïau ar Zoom arwain am angen at Storïau ar Bresgripsiwn gan weithio gyda’r bwrdd iechyd lleol, Hywel Dda.
Find Out MoreStraeon dros y Ffôn
Yn gynnar yn 2020 roeddem newydd lansio ein storïau ar y trothwy newydd, gan gyrraedd pobl hŷn mewn rhannau gwledig o’n cymuned yn Sir Gâr. Roedd hyn mewn partneriaeth â Phrosiect Cymorth Sir Gaerfyrddin Unedig. Ond ym Mawrth 2020 trosglwyddwyd y prosiect hwn i’r ffonau wrth ymateb i COVID 19.
Find Out More
Un i Un Creadigol
Yn ystod y Cyfnod Clo, comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin People Speak Up i greu rhaglen canolfan ddydd rithwir bwrpasol ar gyfer pobl hŷn sy'n byw mewn ynysigrwydd ledled Sir Gaerfyrddin.
Find Out More