
Johnathan Davies - Carer
View PDF
resource_context=web cultureKey=en
Mae’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref yn darparu gwasanaeth celfyddydau ac iechyd i bobl hŷn yn eu cartrefi i gefnogi gwelliant yn eu hiechyd meddwl ac i daclo unigrwydd a bod yn ynysig. Dyluniwyd y prosiect ac mae’n cael ei ddarparu gan People Speak Up mewn partneriaeth â’r tîm Rhagnodi Cymdeithasol o fewn Atal a Llesiant yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Gwasanaeth Cysylltu Sir Gâr.

We commissioned Dave Horton to evaluate the impact of Creative Home Delivery Service this year.
Fe wnaethom gomisiynu Dave Horton i werthuso effaith y Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref eleni.
Mae tîm proffesiynol PSU o hwyluswyr creadigol yn ymweld â’r unigolion yn eu cartrefi ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol fel y celfyddydau gweledol, ysgrifennu creadigol, chwedleua, crochenwaith, gwaith gwifrau, cerddoriaeth, symud a chanu. Cynigir sesiwn drafod i artistiaid a staff bob pythefnos gydag Anogwr Llesiant i gefnogi’r grŵp wrth ystyried eu gwaith a’u llesiant.
Daw’r atgyfeiriadau trwy Ragnodwyr Cymdeithasol, Age Cymru Dyfed, Nyrsys Admiral Cysylltu Sir Gâr a thrwy’r gymuned.
Cwblhawyd 585 ymweliad gyda chyfanswm o 100 yn cymryd rhan.
Methodoleg Gwerthuso
Arweiniwyd y gwerthusiad gan yr ymgynghorydd prosiect allanol Dave Horton, ochr yn ochr ag Ali Franks, a hwylusodd y gweithdy ‘themâu a’r cwestiynau a gododd’ newid mwyaf arwyddocaol, Prif Weithredwr People Speak Up, Eleanor Shaw a Chydlynydd y Prosiect Carys Phillips, a arweiniodd y gweithgareddau monitro prosiect. Defnyddiwyd nifer o ddulliau i fesur effaith y prosiect ac i roi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella, gan gynnwys:
Defnyddio Graddfa Farnu Rifol Llesiant (WB NRS) ar ddechrau a diwedd pob sesiwn i fesur y gwelliannau yn llesiant y cyfranogwyr.
● Galwadau cychwynnol ac ar ddiwedd prosiect i asesu profiadau’r cyfranogwyr o’r gefnogaeth a roddwyd.
● Sesiwn ystyried yn adolygu’r deilliannau a dysgu gydag artistiaid a hwyluswyr y prosiect.
● Gwerthusiad Newid Mwyaf Arwyddocaol.
Roedd y gwerthusiad newid mwyaf arwyddocaol yn golygu casglu, trafod a dethol storïau am newid personol i ddeall effaith y prosiect a bod yn sail i ddatblygiadau yn y dyfodol. Yn unol â’r defnydd blaenorol o’r dull hwn, casglwyd tair stori ysgrifenedig gan gyfranogwyr a’u gofalwyr. Am y tro cyntaf fe wnaeth y prosiect hefyd ddefnyddio tair stori lafar wedi eu recordio (gan ganiatáu i werthuswyr glywed tôn ac emosiwn adroddwr y stori) a thri darn o gelfyddyd weledol (gan alluogi gwerthuswyr i ymwneud yn uniongyrchol ag allbwn creadigol y cyfranogwyr).
Ar ddydd Iau 12 Mawrth 2026 cyfarfu panel o 18 o bobl (gan gynnwys staff People Speak Up, cyfranogwyr y prosiect, cyllidwyr a phartneriaid) i drafod y ‘storïau’ yma am y newid. Gan gychwyn mewn tri grŵp, roedd pob grŵp yn adolygu un stori ysgrifenedig, un darn o dystiolaeth lafar ac un darn o gelfyddyd weledol, gan ofyn am bob un: beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth y ‘stori’? Pa emosiynau y mae’n eu tanio a pha ddealltwriaeth y mae’n ei rhoi ar gyfer dyfodol y prosiect? Rhoddwyd anogaeth i bob grŵp ddewis ‘y stori fwyaf arwyddocaol’ (neu waith celf) a chyflwyno hyn yn ôl i’r grwpiau i gyd
Yn olaf defnyddiwyd gweithdy creadigol i ddynodi’r themâu allweddol sy’n adleisio ar draws yr holl storïau ac i greu cwestiynau ‘sy’n codi’ sy’n edrych tua’r dyfodol dan bob thema. Bwriad hyn oedd sicrhau nad dim ond crynodeb o lwyddiant y gorffennol yw’r gwerthusiad ond ei fod yn offeryn i fod yn sail ar gyfer cynllunio at y dyfodol.
Recordiwyd a thrawsgrifiwyd y sesiwn yn ei chyfanrwydd, ac fe’i cofnodwyd yn weledol gan y darluniwr Dom Tsoi.
96% o’r cyfranogwyr a gofalwyr wedi cofnodi gwelliant mewn llesiant
78% o’r cyfranogwyr yn dangos cynnydd o ran gwell symudedd.
89% o’r cyfranogwyr a gofalwyr wedi cofnodi cynnydd mewn sgiliau, gwybodaeth a hyder i reoli eu llesiant yn annibynnol
85% o’r cyfranogwyr yn cofnodi eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o gysylltiad ag eraill yn eu bywydau bob dydd
92% o’r cyfranogwyr a gofalwyr wedi cofnodi lleihad yn y teimlad o fod yn ynysig
100% o’r cyfranogwyr/ gofalwyr wedi cofnodi bod y gefnogaeth a gawsant yn dda neu ragorol
1. Effaith ar Gyfranogwyr: Cyswllt a Llesiant
Dynododd trafodaeth y panel nifer o ddeilliannau arwyddocaol i gyfranogwyr, eu gofalwyr, a phartneriaid gofal iechyd: Mae’r prosiect yn llwyddo i dorri “cragen unigrwydd” i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain neu yn gaeth i’w cartref.
● Adfer Hunaniaeth a Gwerth: Mae’r sesiynau yn helpu cyfranogwyr i ailddarganfod ymdeimlad o werth a all fod wedi “mynd i gysgu” oherwydd salwch neu oedran. Trwy ymgysylltu â’u “hanes cyfan”, mae’r prosiect yn eu symud o fod yn teimlo fel “person dibwys” i fod yn unigolyn sy’n cael ei werthfawrogi gyda hanes cyfoethog.
● Llawenydd a “Dim ond Bodoli": Un o’r prif ddeilliannau yw newid o “gyflwr goroesi” i gyflwr o “dderbyn a llawenydd”. Mae’r cyfranogwyr yn disgrifio “llewyrch” a “sbarcyl” yn dychwelyd ar ôl sesiynau, gan weld “dim ond teimlo’n well” yn ganlyniad dilys a thrawsnewidiol.
● Y “Llwybr Newyddion”: Mae’r prosiect yn rhoi “newyddion” i’r cyfranogwyr neu brofiadau newydd i’w rhannu, sy’n cynyddu eu hyder wrth sgwrsio ac yn gadael iddyn nhw ymgysylltu yn fwy ystyrlon â’u teuluoedd.
● Iechyd Corfforol a Meddyliol: Mae’r deilliannau yn cynnwys gwell symudedd, colli pwysau a rheoli poen yn effeithiol, gydag un cyfranogwr yn nodi bod mynd i’r “parth creadigol” yn gadael iddi golli’r teimlad o boen arthritis difrifol.
2. Effaith ar y “Cylch Cyfan”: Cefnogaeth i Ofalwyr
Pwysleisiodd y paneli bod y prosiect yn cefnogi’r aelwyd gyfan, nid dim ond yr unigolyn a gyfeiriwyd.
● Tawelwch Meddwl a Rhyddhad: Mae’r gofalwyr yn profi “rhyddhad” a “thawelwch meddwl”, sylweddol o wybod bod eu hanwyliaid yn ddiogel, hapus ac yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ystyrlon.
● Seibiant Ystyrlon: Mae’r sesiynau yn rhoi “seibiant ystyrlon” i’r gofalwyr a lle i “gael gwared ar faich” eu straen eu hunain.
● Trawsnewid Perthynas: Mewn aelwydydd sy’n ymdrin â dementia, disgrifiwyd yr ymyrraeth fel creu “lle mwy caredig”, gan leihau’r rhwystredigaeth a gwella’r cyfathrebu rhwng partneriaid.
Deilliannau Proffesiynol a Systemig
Mae’r prosiect wedi dod yn ased hanfodol i’r systemau gofal iechyd a rhagnodi cymdeithasol yn lleol.
● “Achubiaeth” yr ymddiriedir ynddi: Mae rhagnodwyr cymdeithasol yn disgrifio’r gwasanaeth fel “achubiaeth” ac “ased anferthol”, gan roi llwybr cyfeirio dibynadwy i gleifion bregus nad ydyn nhw’n ffitio i’r blychau clinigol traddodiadol.
● Llenwi’r “Bwlch Enfawr”: Mae’r gwasanaeth yn ymdrin ag unigrwydd mewn ardaloedd gwledig lle nad oes fawr o ddewisiadau heb fod yn glinigol yn bodoli, gan helpu i atal problemau orfod troi at wasanaethau statudol.
● Grymuso Ymarferwyr: Mae’r prosiect yn cefnogi datblygiad proffesiynol a llesiant ei dîm creadigol gan roi strwythur “tynn” a chefnogol sy’n helpu i atal “llosgi allan” wrth weithio gydag unigolion unig iawn.
4. Deilliannau Diriaethol Asiantaeth Greadigol
Trosglwyddo i Gymuned: Un o’r deilliannau allweddol i rai cyfranogwyr sy’n gaeth i’w cartref yw’r newid o ymweliadau cartref i ddod i grwpiau cymunedol mewn canolfannau fel y Ganolfan Byw’n Dda.
● Ail-danio Creadigrwydd: Mae’r cyfranogwyr wedi symud o fod “heb unrhyw greadigrwydd ar ôl ynddo fi” i gwblhau prosiectau unigryw, aml-haenog, fel “mapiau bywyd” neu ddyddiaduron bras, y maent yn eu hystyried gyda balchder mawr a pherchenogaeth.
● Adfer Swyddogaethau: Roedd un cyfranogwr wedi ail danio ei hunaniaeth fel “gwestywraig” trwy baratoi te a chacennau i’r hwyluswyr, gan ail-hawlio swyddogaeth gymdeithasol oedd wedi mynd ar goll.
Tynnir y casgliadau a gwneir yr argymhellion canlynol er mwyn cael y budd mwyaf o’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect ar gyfer fersiynau yn y dyfodol o’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref (a phrosiectau eraill PSU):
● Mae’r risg o straen a llosgi allan i staff, hwyluswyr ac artistiaid yn bresennol bob amser. Dylai PSU barhau i gynnal strwythur tîm tynn gyda chyfarfodydd cyson ac anogaeth ar gael i’r tîm.
● Disgrifir y gwasanaeth fel “achubiaeth" mewn ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau statudol yn brin. Dylai unrhyw ehangu dargedu “gogledd y sir” yn benodol a lleoliadau gwledig eraill lle mae unigrwydd ar ei waethaf.
● Dylai PSU ddefnyddio’r ‘cwestiynau a gododd’ wrth ddylunio prosiectau yn y dyfodol. Dylai cynigion prosiect a cheisiadau am gyllid gael eu fframio fel ymateb i’r cwestiynau a chyfleoedd hyn i archwilio ac ymateb ymhellach iddynt.
● Yn benodol, mae angen a ddynodwyd i greu ‘iaith llawenydd’ sy’n canu cloch gyda chyllidwyr, yn dadlau bod ‘dim ond teimlo’n well’ yn ddeilliant dilys, y gellir ei gyllido sy’n atal ymyraethau clinigol mwy costus. Dylai PSU barhau i archwilio methodoleg greadigol i fesur a rhoi gwerth ar Lawenydd (gan gynnwys MSC).
● Yn ychwanegol, mae cwestiynau yn dod i’r amlwg o ran sut y gellir galluogi cyfranogwyr i gael mynediad at brofiadau cymunedol, hyd yn oed pan fyddant yn gaeth i’w cartref ac yn methu mynd i sesiynau grŵp (gweler, er enghraifft, y cwestiwn a gododd: ‘Sut i feithrin gwir gysylltiad i bawb sy’n ymwneud?’) dylai PSU archwilio ffyrdd newydd a blaengar o gysylltu cyfranogwyr sy’n unig, gan gynnwys trwy gefnogi creu gwaith celf ar y cyd a/neu alluogi cyswllt ar-lein.
● Roedd yr arbrawf o ddefnyddio gwaith celf fel storïau “newid mwyaf arwyddocaol” yn llwyddiannus iawn a dylai fod yn rhan safonol o werthusiadau yn y dyfodol i gasglu hanesion ‘na ellir eu hateb mewn paragraff’. Yn wir, dylai dulliau creadigol eraill o fynegi gael eu croesawu fel ‘modd o adrodd stori’ posibl gan gynnwys: ffotograffiaeth, barddoniaeth, drama a chân. Mae cyfleoedd i ddefnyddio natur gymunedol rhai o’r dulliau hyn i archwilio anghenion a phrofiadau a rennir ar y cyd (gan roi stori’r unigolyn mewn cymuned ehangach a rennir).
● Roedd y gweithdy terfynol ar themâu creadigol a’r cwestiynau oedd yn codi, a gynhaliwyd gyda’r panel newid mwyaf arwyddocaol, yn effeithiol iawn fel dull cyfranogol o ddynodi themâu allweddol a chyfeirio’r gwerthusiad tuag at weithredu yn y dyfodol. Dylai’r dull gael ei ymwreiddio mewn gwerthusiadau newid mwyaf arwyddocaol yn y dyfodol a dylai PSU (gyda’r ymgynghorwyr) archwilio sut y gallai’r dull hwn gael ei ddatblygu ymhellach i dargedu a chryfhau’r elfen cynllunio at y dyfodol.
● Nododd y paneli ‘economi ewyllys da’ lle mae rhagnodwyr yn atgyfeirio cleifion at y prosiect, ond mae’r prosiect ei hun yn gweithredu ar ei eithaf heb gyllid systemig penodedig. Dylai PSU a’r partneriaid barhau i hyrwyddo cyllid cyson a chynaliadwy o gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cydnabod natur ataliol a thrawsnewidiol y ddarpariaeth hon.
Lovely company became lovely friends! I enjoy the art sessions, very happy with what you guys do, thank you for making my Wednesdays worth going out for!
I’ve had a huge shift in my mindset since doing this.
It makes me feel so relaxed knowing that she has something positive happening in her week and not having to worry about her for that hour





