Gwybodaeth am hygyrchedd Hwb Celfyddyd, Iechyd a Lles People Speak Up yn Llanelli.
Edrychwn ymlaen at gael eich croesawu i'n Hwb Celfyddyd, Iechyd a Lles yng nghanol tref Llanelli.
Cynlluniwyd y canllaw hwn i wneud eich ymweliad mor llyfn â phosibl, yn arbennig os oes gennych anghenion o ran hygyrchedd.
Os oes gennych anghenion neu gwestiynau penodol cyn eich ymweliad, cysylltwch â ni ar 01554 292393 neu info@peoplespeakup.co.uk .
Crynodeb Hygyrchedd Cyflym
- Yn agos at fannau parcio cyhoeddus gan gynnwys man gollwng teithwyr a lleoedd Bathodyn Glas
- Mynediad heb risiau trwy’r adeilad
- Toiled hygyrch (gyda rheiliau codi, sedd gyferbyniol, niwtral o ran rhywedd)
- System dolen clywed ar gael
- Croeso i gŵn cymorth
- Cefnogaeth staff ar gael bob amser.
Parcio a chyrraedd
Ein cyfeiriad llawn yw People Speak Up, Hwb Celfyddyd, Iechyd a Lles, Ffwrnes Fach, Heol y Parc, Llanelli SA15 3YE
Y lleoliad what3words ar gyfer y drws ffrynt yw porch.finely.deck neu llwy.agorwr.rhyfeddaf
Am wybodaeth am barcio a thrafnidiaeth gyhoeddus gweler y dudalen Cysylltwch ar ein gwefan.
Mae maes parcio East Gate yn union o flaen yr adeilad.
Mae ardal i ollwng teithwyr a 3 lle i ddeiliaid Bathodyn Glas tu allan i’r prif ddrws. Mae 8 lle ychwanegol i ddeiliaid Bathodyn Glas i’r dde o’r adeilad a digonedd o leoedd parcio yn agos.
Mae dwy ffordd i gyrraedd tu blaen yr adeilad o’r maes parcio:
• Wrth ddefnyddio’r grisiau canolog - tri gris gyda chanllaw yn y canol ac arwyneb
gweog ar y gris uchaf.
Mae’r grisiau 1340 mm o led y naill ochr i’r canllaw a’r llall.
Mae Gris 1 yn 140mm o ddyfnder ac mae gris 2 a 3 yn 150 mm o ddyfnder.
Mae mainc ar y chwith ar ben y grisiau.
Llwybr heb risiau - Trwy giât (1085 mm o led) i’r dde, yn arwain at iard wedi ei phalmentu â’r ychydig o oledd hyd at y fynedfa ffrynt.
Dod i mewn i’r adeilad
Mae drysau pren dwbl ar y brif fynedfa.
Gydag un drws ar agor mae’r fynedfa’n 940 mm o led, mae’r bar gwthio i agor y drws yn
lleihau’r ardal ganolog i 875 mm o led.
Gyda’r ddau ddrws ar agor mae’r fynedfa yn 1770 mm yn y man culaf.
Pan fydd yr adeilad ar agor i’r cyhoedd, bydd un neu’r ddau ddrws ar agor.
Mae botwm cyfathrebu i’r dde o’r drws os bydd arnoch angen cymorth staff, pwyswch y botwm a’i ollwng. Mae’n gwneud sŵn suo.
Ar ôl mynd trwy’r drws ffrynt, gallwch naill ai droi i’r chwith neu’r dde, trwy un drws 870
mm yn y man culaf sy’n agor tuag atoch chi. Os byddwch yn dod i ddigwyddiad mae’r
drws ar y chwith ar agor fel arfer gydag aelod o staff gerllaw i’ch cyfarch. Os bydd ar gau
a’ch bod angen help i’w agor, pwyswch ar y botwm cyfathrebu a bydd aelod o staff yn ei
agor i chi.
Lleoliadau gweithgareddau
Pan fyddwch yn dod i mewn i’r adeilad rydych yn y cyntedd / ardal lluniaeth lle gallwch helpu eich hun i de a choffi – gallwch wneud diod i chi eich hun neu mae staff wrth law i’ch helpu neu i wneud un i chi.
Mae un drws arall, yr un fath ag i’r ardal lluniaeth, sy’n mynd â chi i’r prif ofod gweithdai. Ystafell fawr agored yw hon gyda byrddau a chadeiriau y gellir eu symud.
Mae cymysgedd o gadeiriau gyda chefnau uchel ac isel a gydag a heb freichiau ar gael.
Mae tair ystafell lai oddi ar y prif ofod gan gynnwys un sy’n lle tawel â golau isel â chadeiriau breichiau. Nid oes grisiau i unrhyw ardal ac mae’r llawr yn wastad. Mae’r prif ofod yn olau ac agored gyda golau naturiol.
Mae gennym systemau dolen clywed cludadwy y gellir eu defnyddio yn unrhyw un o’r ardaloedd.
Cŵn Cymorth
Assistance Dogs and Emotional Support Dogs are welcome in all public areas of the building and community gardenMae croeso i gŵn cymorth a chŵn cefnogaeth emosiynol yn holl ardaloedd cyhoeddus yr adeilad a’r ardd gymunedol.
Gweler y Polisi Cŵn Cymorth am fanylion.
Cyfleusterau toiled
Mae gennym dri thoiled niwtral o ran rhywedd, y cyfan yn unedau unigol.
Y cyfan yn ardal y cyntedd, un i’ch chwith, a dau ar y dde.
Y toiled hygyrch yw’r mwyaf ac mae ar y dde yn ardal y cyntedd. Mae ynddo reiliau i
gynorthwyo symud o’r chwith a’r dde o gadair olwyn, a sedd toiled mewn lliw cyferbyniol
i’r cefndir a chortyn argyfwng.
Mae cyfleusterau newid babi ar gael yn y toiled hygyrch.
Gwagu mewn argyfwng
Y prif lwybr gadael yw trwy’r brif fynedfa ffrynt.
Os na fydd hwn ar gael mae allanfa arall yng nghefn yr adeilad ar y dde i’r prif ofod.
Mae tri gris i lawr o’r prif ofod gweithgareddau.
Gall y grisiau hyn hefyd gael eu troi yn llwyfan gwastad sy’n mynd i lawr.
Bydd hyn yn cael ei reoli gan aelod o’r staff.
Dylai ymwelwyr a allai fod angen cymorth lenwi Cynllun Gadael Mewn Argyfwng
Personol gydag aelod o’r staff wrth gyrraedd.