Rydym wedi cael wythnos wych o edrych yn ôl a rhannu’r creadigrwydd a gynhyrchwyd gan ein grwpiau yn Llanelli a Chaerfyrddin dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Fe wnaethom gynnal diwrnod Rhannu Cymunedol yn ein dwy ganolfan yng Nghanolfan Celf, Iechyd a Lles People Speak Up yn Llanelli a hefyd yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr yng Nghaerfyrddin pan fuodd ein cymuned yn rhannu geiriau, cerddi, storïau, celf a chân. Mynnwch olwg ar luniau o’r ddau ddigwyddiad rhannu isod.