Podcast

Podcast

Mae Podlediad People Speak Up yn dathlu lleisiau go iawn, storïau go iawn a chymuned go iawn. Gan weithio o Lanelli, mae People Speak Up wedi treulio blynyddoedd yn creu mannau creadigol, diogel lle gall unigolion rannu eu profiadau trwy chwedleua, gair ar lafar a sgwrsio. Mae’r podlediad hwn yn dwyn y genhadaeth honno yn uniongyrchol i wrandawyr - gan gynnig naratifau didwyll, o’r galon sy’n grymuso gan bobl o bob oed a chefndir.

Mae pob pennod yn archwilio themâu llesiant, creadigrwydd, cymuned a chysylltiad pobl. Boed yn daith bersonol, yn brosiect creadigol neu’n sgwrs sy’n taflu goleuni ar brofiadau na roddwyd sylw iddynt, mae Podlediad People Speak Up yn rhoi llwyfan i leisiau sy’n haeddu cael eu clywed. Mae’n lle i wrando, dysgu a darganfod y cryfder sy’n dod o rannu ein storïau.