PSU Choir in multicoloured tshirts at tescos.

Canu People Speak Up

People Sing Up – Grŵp canu gwahanol i bob un arall, dan arweiniad Nerissa Joan. Mynegwch eich hun trwy ganu ac ailddarganfod eich llais.

People Sing Up – Grŵp canu gwahanol i bob un arall, dan arweiniad Nerissa Joan. Mynegwch eich hun trwy ganu ac ailddarganfod eich llais. Cyfle i chi gysylltu â chi eich hun a’ch cymuned trwy archwilio caneuon yn greadigol.

Mae côr People Sing Up yn canu cymysgedd o ganeuon digyfeiliant ac offerynnol (gyda thraciau sain). Rydym yn canu’r clasuron fel ‘I’m Feeling Good’ i ‘The Chain’ Fleetwood Mac, ‘Sounds of Silence’ Simon a Garfunkle, hyd at ganeuon pop modern fel Bruno Mars, Five ac wrth gwrs ‘Sweet Caroline’. 

Mae’r côr wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau a lleoliadau dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys canu carolau yng nghanol tref Llanelli, perfformio yn y digwyddiad heneiddio’n dda yng Ngerddi Botaneg Cymru, ac yn nathliad blwydd oed Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. Rydym hefyd yn canu carolau yn Asda, Llanelli. Dan arweiniad ein harweinydd Nerissa rydym wedi perfformio 12 gwaith a chael lliaws o ymarferion yn ein canolfan.

 

People Speak Up has the ability to make people who are isolated in whatever way, to feel that they belong... People Speak Up is an essential service.
The most creative and welcoming social support project I have ever been involved with. Unique and brilliant.