PSU staff Cerys and Steffan creating new gardening beds behind the fence. You can see their faces through the fencing gaps.

Gardd Gymunedol

Mae'n noddfa i bobl o bob oed, cefndir a phrofiad bywyd i'w mwynhau.

Derbyniodd People Speak Up arian i sefydlu gardd gymunedol yn y People Speak Up, Stryd Parc, yng nghanol tref Llanelli. Hyd yma mae hyn wedi'i redeg gan y tîm staff a gwirfoddolwyr. 

Mae'r ardd yn ardd lles, yn tyfu perlysiau, ffrwythau a llysiau a blodau brodorol i annog pryfed peillio i'r ardal drefol hon.

Mae'n noddfa i bobl o bob oed, cefndir a phrofiad bywyd i'w mwynhau, yn arddwyr newydd neu brofiadol sydd am gael eu dwylo'n frwnt, neu'n bobl sy'n chwilio am le heddychlon i ymlacio, ysgrifennu, tynnu llun a chefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles.