The Elevenses group in Llanelli enjoying a silent disco wearing headphones and dancing.

Amser Dishgled

Amser creadigol i gwrdd â ffrindiau newydd, rhannu straeon, gwenu a chofio.

Mewn partneriaeth â Chymunedau Cyfeillgar â Dementia.

Gofod i'r rhai sydd ar daith dementia i ddod at ei gilydd a chysylltu trwy
rannu straeon, celf, cerddoriaeth, symudiad, sgwrsio a phaned!

Mae Elevenses ar gyfer y rhai sy'n byw gyda Dementia yn ogystal â gofalwyr / aelodau o'r teulu i ddod ynghyd os ydyn nhw’n dymuno.

Ry’n ni’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys crefftau celf, cerddoriaeth, symud a dawnsio, adrodd straeon, gemau, serameg, canu a siaradwyr gwadd weithiau.

Eisiau mynd i Elevenses ond angen cludiant? Efallai y gallwn ni helpu.
Cysylltwch â PSU i ofyn am fanylion.

Diolch yn fawr am wneud bywyd yn llawer gwell.
Mae People Speak Up yn achubiaeth i fy mam a'n teulu, bydden ni ar goll hebddo.