Ein Cenhadaeth Ddinesig
Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ymgysylltu Ddinesig Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin, a ariennir gan Medr ar ein prosiect Cenhadaeth Ddinesig.
Rydym wedi cyffroi’n fawr o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar ein prosiect Cenhadaeth Ddinesig. Gan weithio gyda’n cymunedau byddwn yn helpu i gefnogi ein cyfranogwyr i ddatblygu eu llais trwy waith celf a barddoniaeth a fydd yn cael eu harddangos ar-lein isod mewn arddangosfa ar-lein.
Bydd y broses greadigol yn archwilio dod o hyd i’n llais yn ein cymuned a chodi llais am wasanaethau ac arferion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol a llesiant yn ein cymuned.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn rhannu gwaith celf a barddoniaeth o’n grŵp Dros 50, P’nawn Arty, Young People Speak, Amser Dishgled, Nest - grŵp niwro-amrywiol a’r grŵp Gohebwyr Ifanc Pwylaidd yn ein harddangosfa ar-lein isod.