A photo of a spoken word saturday event where two people are stood at the front and speaking to a crowd of people at PSU

Sadwrn Siarad y Gair

Mae Sadwrn Siarad y Gair ar Lafar yn lle diogel i rannu eich lleisiau a’ch storïau

15 Awst, 2pm-5pm

Eric Ngalle Charles

Bydd Eric Ngalle Charles yn rhannu manylion am ei lyfr newydd, Cof Ydyn Ni.


Mae Cof Ydyn Ni, We Are Memory yn flodeugerdd o farddoniaeth a storïau byrion gan Eric Ngalle Charles, (gol). Nid yw’r llyfr yn ceisio mapio’r byd yn ei gyfanrwydd. Yn hytrach, mae’n cynnig cyfres o gyfarfyddiadau byw, trawsnewidiol.
Mae Eric Ngalle Charles yn awdur, bardd, tiwtor ysgrifennu creadigol, ymgyrchydd a Chydlynydd Prosiectau yn People Speak Up a aned yng Nghamerŵn ond sy’n byw yng Nghymru.


Hefyd bydd cyfle i rannu eich llais a’ch storïau mewn slotiau 5 munud. Os oes gennych stori i’w dweud, un wir neu ffuglennol, cerdd neu air ar lafar, archebwch eich slot 5 munud ymlaen llaw. 

//

Boed yn atgofion am deulu neu hanes lleol, profiadau bywyd personol, neu eich bod wedi llunio stori, cerdd neu gân y byddech yn hoffi profi eich sgiliau ysgrifennu creadigol gydag eraill, gallwch rannu eich geiriau a’ch lleisiau yn ein slotiau agored 5 munud.

Disgwyliwch brynhawn o glywed lleisiau lleol yn cael eu harwain gan y chwedleuwyr lleol, Ceri J Phillips a David Pitt. Wyddoch chi ddim, fe allwch ddarganfod stori leol ddiddorol neu ddwy neu rywbeth diddorol am eich cymuned.

Os hoffech chi gael slot Agored 5 munud, rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw i’w sicrhau.