People Speak Up Ifanc

Man creadigol, heb farnu, i bobl ifanc fagu hyder, cwrdda pobl newydd

Mae PSU Ifanc (YPSU yn fyr!) yn lle i bobl ifanc gwrdd, dod o hyd i'w hunain a chodi eu lleisiau. Mae'n lle i gwrdd â ffrindiau newydd, i archwilio'r hyn chi'n ei garu, a rhoi cynnig ar rywbeth cwbl wahanol.

Mae sesiynau dydd Mercher yn weithdai sy’n cael eu cynnal gan ein hwyluso creadigol mewnol neu westeion proffesiynol! Gallai un wythnos fod yn weithdy cerddoriaeth sy'n eich dysgu sut i chwarae'r gitâr drydan, gallai wythnos arall fod yn sesiwn meddwlgarwch celf, a'r nesaf gallai fod yn awdur o fri rhyngwladol yn rhoi awgrymiadau i chi ar eich barddoniaeth. Mae bob amser yn rhywbeth gwahanol, wedi'i gynllunio i wella'ch sgiliau, meithrin bondiau gyda'ch cyfoedion, ac yn bwysicaf oll cael hwyl.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael! Gofynnwch i'n tîm neu anfonwch e-bost.

 

Hanner Tymor Chwefror

Dydd Mawrth 17 Chwefror, 2pm-4pm
Gweithgareddau Galw Heibio a Chwarae Stryd

Dydd Mercher 18 Chwefror 2pm-4pm
'LOYALTY Takeover' gyda Connor Allen a Lizzie Burgess

Dydd Gwener 20 Chwefror 11am-12.30pm
Cyfleoedd gwirfoddoli