Pwy yw Pwy
"Fe wnes i greu People Speak Up yn 2017, pan oeddwn ar daith o ailadeiladu, chwilio a deall fy niben. Fe wnes i ddarganfod grym chwedleua hunangofiannol a thraddodiadol, ac fe wnaeth y broses hon fy helpu i edrych ar fy stori a gwneud synnwyr o’m bywyd. Mae People Speak Up wedi datblygu’n gyfrwng i arwain mwy o bobl ar y daith hon. Pan fyddwch chi’n rhoi pobl debyg sydd ar daith debyg gyda’i gilydd mewn un lle – mae’r hud yn dechrau digwydd. Pan fydd pobl yn dechrau codi eu llais, maen nhw’n cysylltu, dysgu a dechrau teimlo’n ddynol eto. Diolch i’n holl bobl greadigol sy’n dwyn eu ffurfiau celfyddydol eu hunain a’u pecynnau offer i’n cymuned ddod o hyd i’w llais."
Eleanor Shaw,
Sylfaenydd a phrif weithredwr
.jpg)