Eleanor Shaw

Eleanor Shaw

Sylfaenydd a phrif weithredwr

Cychwynnodd ei gyrfa fel ymarferwr celfyddydau cymunedol, gan weithio’n genedlaethol a rhyngwladol. Am 15 mlynedd bu’n gweithio yn y sector addysg bellach ym maes Celfyddydau Perfformio, a’i dyhead bob amser oedd cefnogi’r lleisiau anghofiedig hynny yn y gymuned a chreu cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol iddi hi ei hun i ddatblygu ymhellach fel artist creadigol ac i’w myfyrwyr. Yn 2013 fe welodd rym chwedleua hunangofiannol yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd, yn ystod y cyfnod hwnnw, newidiodd gyfeiriad yn bersonol a phroffesiynol a dod yn rhan eto o gelfyddyd gymunedol.  Cenhadaeth Eleanor yw datblygu a chynyddu amrywiaeth People Speak Up, gan weithio gyda phobl a sefydliadau eraill â gwerthoedd tebyg, cefnogi mentrau cymdeithasol eraill sy’n dechrau, eiriol dros gelfyddydau ac iechyd a chefnogi’r lleisiau anghofiedig hynny trwy gasglu storïau a’u hadrodd.