Pete Mosey
Hwylusydd Creadigol
Cychwynnodd Pete ei daith gyda PSU fel cyfranogwr a gwirfoddolwr. Yn 2024, roedd yn fentorai Camu i Mewn WAHWN a dilynodd leoliad gyda People Speak Up cyn ymuno’r tîm llawrydd ar y Gwasanaeth Cartref Creadigol. Mae’n awr yn gweithio i PSU ar y prosiect creadigol cartref.
Cefndir Pete yw theatr ac ysgrifennu. Cwblhaodd BA(Anrh) mewn Theatr a Drama’r Cyfryngau gyda phwyslais ar Ysgrifennu Sgriptiau ac MA mewn Ysgrifennu Sgriptiau ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n mwynhau chwarae gitâr, peintio a rhedeg. Prin y byddwch yn ei weld heb Pablo, ei ddaeargi-goror smwt sy’n gi therapi.