People Speak Up Blog

Pobl People Speak Up

Mae People Speak Up yn cynnig nifer o brosiectau celfyddydol yn Llanelli i bobl o bob cefndir ac oedran. Ma nhw’n cynnig cyfle i bobl ymwneud â’i gilydd yn y gymuned, ar sawl platfform, gan gynnwys Stori, Rhannu Gofalu, Sadwrn Siarad y Gair a llawer mwy. I ddysgu mwy am y bobl sy’n cymryd rhan ac yn gwirfoddoli ym mhrosiectau PSU, dw i wedi bod yn siarad gyda rhai sy’n rhan o grwpiau amrywiol.