Cyfweliad Gyda Juliet Fay


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae Juliet Fay yn hwylusydd gwadd gyda PSU a dechreuodd fod yn rhan o PSU yn ei ddyddiau cynnar, pan cafodd wahoddiad i fod yn hyfforddwraig i gynorthwyo Eleanor Shaw wrth iddi hi ddechrau Stori Rhannu Gofalu – prosiect sy’n dod â pobl sy’n wynebu anhawsterau iechyd corfforol neu chymdeithasol at ei gilydd. Roedd cael cefnogaeth Juliet yn werthfawr iawn i Eleanor â’i thîm.

Cefais air gyda Juliet i glywed am ei phrofiadau’n hwyluso Stori Rhannu Gofalu ac i glywed mwy am yr egwyddorion sy’n sail i’w gwaith.

Mae Juliet wedi bod yn fyfyrwraig ac yn athro The Three Principles – sef Meddylfryd Cyfanfydol, Ymwybod Cyfanfydol a Meddwl Cyfanfydol, yn ôl Sydney Banks. I Juliet, mae’r rhain yn ffetaffor sy’n ein tywys i archwilio beth yw bywyd, beth ydyn ni, ein Gwir Natur a sut mae’n ein profiadau moment i foment yn cael eu creu. Mae’n nhw’n ein cyfeirio at y dirgelwch sy’n rhoi bywyd i fywyd, (Y Meddwl Cyfanfydol) y gallu sydd gan fodau dynol i fod yn ymwybodol o fywyd ( Yr Ymwybod Cyfanfydol) a’r ffaith bod ein holl brofiadau yn ein cyrraedd trwy bwer y Meddwl Cyfanfydol.

Dyw hyn ddim yn  brescripsiwn ond yn ddisgrifiad o sut mae bywyd yn gweithio. Mae Juliet yn teimlo’n hynod freintiedig i fod yn fyfyrwraig ac yn athro y ffordd yma o feddwl. Mae deall y gwirionedd yma, yn ddyfnach ac yn ddyfnach, yn teimlo fel archwiliad gydol oes.

Roedd Sydney Banks yn weldiwr o’r Alban a oedd yn byw yng Nghanada. Roedd yn gweithio mewn melin bwlp pan gafodd brofiad goleuedig yn y Saithdegau. Mae’r ymwybyddiaeth yma nawr yn cael ei rannu mewn ysgolion, carchardai, corfforaethau, elusennau iechyd meddwl a gyda unigolion mewn gwledydd ar draws y byd. Gellwch wybod mwy ar http://sydbanks.com/.

Pan ddaeth y Three Principles i fywyd Juliet, y peth cynta wnaeth ei tharo oedd y rhesymu syml ein bod o hyd dan ddylanwad yr hyn sy’n edrych yn wir, mewn unrhyw foment. Mae’r hyn sy’n edrych yn wir yn dod o rym Meddwl ac yn penderfynu sut rydyn ni’n teimlo, yn ymateb a’r hyn y byddwn yn ei wneud a dweud o foment i foment. A’r newyddion da yw bod yr hyn sy’n edrych yn wir yn gallu, ac yn, newid. Mae’r perspectifau posib (Meddylfrydau) yn ddi-rifedi, felly os nad ydych chi’n hoffi’r un yr ydych yn ei brofi, gallwch fod yn dawel eich meddwl y gall meddylfryd newydd gyrraedd unrhyw funud. 

"Rydw i wrth fy modd yn hwyluso sesiynau People Speak Up am ein bod yn cael y cyfle, mewn amser go iawn, i brofi’r gallu di-ddiwedd sy’ gyda ni i greu (neu dderbyn) rhywbeth newydd a ffresh. Pob tro, mae pobol yn dod i’r sesiynau yn chwilfrydig ac am wrando. Gellwch deimlo mai dyna sydd yn wir cyn gynted ag y byddwn yn cofrestru. Pa fath bynnag o ddiwrnod mae pawb wedi ei gael, yn y gofod yna o wrando, rhannu ac archwilio mae rhywbeth prydferth dros ben yn digwydd".

Mae Juliet yn dweud bod hyn yn cael ei weld yn aml pan ddaw beirdd, ysgrifenwyr a pobl sy’n mwynhau cwmni eraill at ei gilydd. Rydym yn ymlacio ac mae rhywbeth newydd yn codi. Dyma amgylchiadau delfrydol ar gyfer meddylfryd ffresh.

Fel hwylusudd, dyw hi byth yn gwybod pa ymateb ddaw i’r themau a’r cwestiynau mae yn eu cyflwyno.

"Dyna ogoniant y peth. Mae dyfnder a rhychwant y mynegu yn syfrdanol. Mae’n bosib teimlo’r gwres a’r cysylltu a ddaw o’r rhannu".

Ffordd arall o ddweud beth sy’n digwydd yn y sesiynau yma yw: mae ein chwilfrydedd yn ein codi’n ddi-drafferth allan o’n patrymau meddwl ailadroddus, sy’n dueddol o ganolbwyntio ar ein hunain; ein gorffennol a’n dychmygu ynglŷn â’r dyfodol. Yn y gofod hwnnw, gall rhywbeth newydd a ffresh godi.

O ran hwyluso gyda People Speak Up trwy Zoom, roedd Juliet yn ffodus gan ei bod yn gyfarwydd a chynnal sesiynau Zoom gyda’i chleientiaid rhyngwladol. Roedd wedi profi’r dyfnder a’r trawsnewid a oedd yn gallu digwydd mewn stafelloedd Zoom. Doedd dim angen ei argyhoeddi bod y dechnoleg yn gallu bod yn effeithiopl ar gyfer sawl math o gyfarfod.

Mae Zoom wedi bod yn fendith yn ystod y cyfnod clo ac wedi gallu sicrhau sawl cyfarfod i droi’n ddigidol. Diolch i weledigaeth a dycnwch Eleanor Shaw, sylfaenydd People Speak Up, am fynd a Stori Rhannu Gofalu arlein, ac am helpu pawb i ddod yn gyfarwydd â’r dechnoleg. Mae cadw’r cysylltiadau yna i fynd wedi bod yn amhrisiadwy i nifer.

Mantais ychwanegol i hyn yw ehangu mynediad i’r cyfarfodydd y tu hwnt i gyfyngiadau daearyddol. Er enghraifft, rydym wedi mwynhau Poems and Pints arlein, dan arweiniad Dominic Williams Write 4 Word. Mae’r noson yma wedi mynd yn un rhyngwladol! Mae cyfarfodydd Zoom hefyd wedi rhoi mynediad i rhai sy’n gaeth i’w cartrefi, wedi eu hynysu a’r rhai sydd yn ei chael yn annodd i fod yn rhan o grŵp o bobl.  

I Juliet, mae’r cyfarfodydd arlein mae’n rhan ohonyn nhw ac yn eu hwyluso, wedi chwarae rhan fawr i’w chadw mewn cysylltiad a’i maethu drwy’r cyfnod presennol, pan mae’n byw ar ei phen ei hun a’i phartner dramor.

Mae’r heriau hir-dymor dim ond yn dechrau dod i’r amlwg. Gallwn fod yn gyfforddus iawn, falle’n rhy gyfforddus, adre, gyda’n sgrîns, heb sylwi sut y mae cyfarfod gyda’n gilydd wyneb yn wyneb nawr yn troi’n anapelgar, nid yn unig oherwydd Covid 19 ond am ein bod wedi dechrau dod yn gyfarwydd ag absenoldeb pobl eraill. Hyd yn oed i’r pwynt o argyhoeddi’n hunain ein bod yn diogelu pobl eraill drwy aros yn ein swigen diogel, pan, mewn gwirionedd, mae cymysgu gydag eraill wedi troi’n rhywbeth i’w ofni am resymau sydd ddim yn glir i ni.

Mae rhywbeth annodd i’w ddisgrifioo’n digwydd pan rydym yn ymwneud a’n gilydd wyneb yn wyneb, rhywbeth gwerthfawr, rhywbeth sydd yn dda i ni ei gofio ac i edrych am ffyrdd i’w ail-gyflwyno i’n bywydau, pryd a ble bynnag y gallwn.

"Hoffwn glou trwy ddweud diolch mawr iawn i Eleanor a ohawb yn People Speak Up am fy ngwahodd i’ch sesiynau. Mae wedi bod yn lawenydd  ifod gyda chi fel hwylusydd gwadd trwy’r flwyddyn anhygoel yma".

Yn 2021, gadewch i ni ymhyfrydu mewn hoffterau cyffredin, y rhai sydd wedi eu cuddio o flaen ein llygaid, trwy’r dydd, pob dydd. Y wên gan rhywun arall, eistedd mewn tŷ cynnes yn darllen llyfr ar ddiwrnod gwlŷb, caredigrwydd dieithriaid, yr haul yn codi, y foment yna pan sylweddolwn ein bod yn cymryd ein hunain gormod o ddifri, atgofion llawen, scarf cynnes, y rhaglen radio cyfarwydd, neu’r hoff ganeuon a llawenydd syml dishgled o de. Gyda chariad a dymuniadau gorau ar gyfer yr Wŷl, Juliet.

Mae Juliet, bardd a hwylusydd Three Principles, wedi ymroi i archwilio a gwerthfawrogi rhyfeddod a grym yr ysbryd ddynol. Mynd yn ddyfnach a thu hwnt i’r hyn yr ydym yn ei wybod. Mae’n gwneud hynny trwy sgyrsiau twymgalon a sesiynau grŵp (trwy wahoddiad yn unig) a hefyd trwy greu barddoniaeth, podlediadau, dylunio, Gwaith celf a rhyddiaeth iddeffro’r galon. . Subscribe ~ podcast ~ blog  ~ www.solcare.org ~ juliet@solcare.org

 

 

 

 

 

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: