Sgrifennu am ti dy hunan: Cyfweliad gyda Rhian Elizabeth


Gan Peter Wyn Mosey 
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Poet and author Rhian Elizabeth

Dyw e ddim yn anghyffredin i sgrifennwyr ddefnyddio eu profiadau personol yn eu gwaith. Wedi’r cyfan, un o’r tips gorau i unrhyw sgrifennwr yw i ysgrifennu am beth ry’ch chi’n gwbod. 

Gall sgrifennu am eich hunan fod yn dipyn o her i nifer o bobl. Falle byddwch yn becso am ymddangos yn ymhongar neu’n hunan-bwysig neu’n becso am ail-fyw atgofion annodd. Gall y rhwystrau ‘ma greu bloc sgrifennu.

Ond mae yn bosib brwydro yn erbyn y teimladu yma a chreu gwaith agored, onest.

Er mwyn dysgu mwy am sgrifennu am eich hunan, ces i air ‘da’r bardd a’r awdures Rhian Elizabeth. Mae’n defnyddio cryn dipyn o’i phrofiadau hi ei hunan yn ei gwaith.

 Pa tips bydde ti’n rhoi i sgrifennwyr eraill sydd wrthi’n sgrifennu gwaith hunan-gofiannol, neu rhannol hunan-gofiannol?

Does dim cyngor gyda fi mewn gwirionedd. Mae’n dibynnu ar beth chi’n sgrifennu. Ydych chi’n sgrifennu am rhywbeth hapus, trist, poenus? Dw i ddim mewn sefyllfa i roi cyngor i bobl ar sut i agor ei bocs pandora personol nhw. Mae sgrifennu wastad wedi bod yn catharsis i fi. Dw i wastad wedi sgrifennu, o’r foment nes i gydio mewn crayon….nes i byth dynnu llun blodau neu tai. Ro’n i’n sgrifennu geiriau. Am hwyl, gwaith ysgol, cystadlaethau. Dw i’n gallu nodi adegau yn y gorffennol pan ro’dd sgrifennu wedi fy helpu. Pan fuodd fy nhad farw, nes i sgrifennu darn o farddoniaeth. Pan dywedwyd wrtha’i bod gen i MS, nes i sgrifennu casgliad o farddoniaeth ynglŷn â hynny. Pan nes i adael perthynas treisgar, nes i sgrifennu amdano. Ro’dd sgrifennu yn ffordd o reoli – rheoli fy meddyliau a’m teimladau a’m hemosiynau, mewn cyfnod pan ro’dd yn ymddangos bod fy meddyliau, teimladau ac emosiynau mas o bob rheolaeth. 

Y cyfan ddywedai yw cymera dy amser. Neu peidia. Os wyt ti’n teimlo bod rhaid, rho bopeth lawr ar y dudalen, yn y geiriau rwyt ti yn gyfrifol amdanyn nhw ac yn eu rheoli. Dy stori di yw hi. Os wyt ti am ei sgrifennu, sgrifenna hi. Os wyt ti am ei rhannu, rhanna hi. Dysga oddi wrth y stori, archwilia hi, perchnoga hi.

Beth wyt ti’n credu yw’r peth mwya annodd ynglŷn â sgrifennu am dy hunan?

Y teimlad o deimlo’n ymhongar a hunan-bwysig, dangos obsesiwn â ti dy hunan. Styried os oes ‘da ti rhyw ego mawr, pathetig am dy fod yn eishte fan’na yn sgrifennu amdanat ti dy hunan, tra’n meddwl hefyd bod rhywun arall am ddarllen amdanat ti a dy fywyd bach llawn straeon bach a phroblemau a safbwyntiau. Os newch chi feddwl am y peth, mae sgrifennu am eich hunan gan ddisgwyl i rhywun roi arian i chi am ei sgrifennu, ac yna ei anfon mas i’r byd a disgwyl i bobl eraill wario eu harian nhw i’w brynu neu ei ddarllen, yn beth ymhongar iawn i wneud.

Beth yw’r peth rhwydda ynglŷn â sgrifennu am dy hunan?

Ti dy hunan – does neb yn dy nabod yn well na ti dy hunan. Ma’r gwaith ymchwil ‘na’n barod, wedi ei storio mewn rhyw gabinet ffeilio yn yr ymennydd a dyna’i gyd sydd eishe i ti wneud yw agor y cabinet i weld beth sydd eishe arna ti.

Siwd wyt ti’n sgrifennu am atgofion poenus?

Dw i’n trio pellhau oddi wrthyn nhw, neu oddi wrth yr hyn dwi’n sgrifennu amdano. Mae fel rhoi ffilm mla’n ar y teledu, neu troi at bennod mewn cyfres. Dw i yno, dw i ar y sgrîn, ma’r pethe’n digwydd i fi a dw i’n gwbod hynny, ond dw i wedi rhoi pellter rhwng fi a nhw. Dw i’n gweld a chofio popeth sy’n digwydd ond mae fel petawn i’n edrych arna i fel cymeriad. Ac ma cymeriadau eraill yno, a sefyllfaoedd a lleoedd eraill, ac ambell waith ma pethau ofnadwy yn digwydd a ma nhw’n real ac yn digwydd i fi, ond ma popeth yn iawn. Dim ond gwylio ydw i. Gallaf wasgu pause unrhyw bryd, neu mute, neu fast forward neu hyd yn oed rewind. Ma’n siŵr bod hyn yn gweud i fi deimlo mai fi sy’n rheoli pan byddai’n sgrifennu am bethau ofnadwy ac annodd. Gallai ddim newid y stori. Gallai newid y sgript neu’r diwedd ac o leia gallai reoli siwd dw i’n ei wylio neu yn ei reoli.

Siwd wyt ti’n sgrifennu?

Mae gen i ddesg sgrifennu hyfryd, gyda lot o waith celf o’i amgylch, a lluniau, a barddoniaeth ma ffrindiau wedi sgrifennu i fi, a phob math o bethe sy’n fy ysbrydoli, ond anaml iawn dw i’n sgrifennu wrth y ddesg ‘ma! Mae’n llawn dwst. Ma angen i fi symud o gwmpas pan fi’n sgrifennu neu’n trio cael syniadau – ar fws, trên, awyren, nofio. Ma barddoniaeth a syniadau fel arfer yn mynd o’r pen i’r pad sgrifennu ac yna o’r pad sgrifennu i rhywbeth mwy pendant yn ystod y broses golygu ac ma hynny yn digwydd wrth y ddesg.

Beth sy’n dy sbarduno i sgrifennu?

Popeth!

Beth yw dy waith mwya diweddar?

Fel nes i ddweud gynne, do’s dim trefn gwaith llym ‘da fi ond ma’r cyfnod clo wedi fy nhaflu ar gyfeiliorn llwyr o ran sgrifennu, fel mae wedi gwneud i nifer o bobl eraill. Cyn y cyfnod clo, ac ma’n annodd credu bod hwnna wedi para blwyddyn erbyn hyn, ro’dd pethe wedi bwcio – teithiau awyren i fwy nag un lle a ro’n i’n edrych mla’n at fynd a fy laptop gyda fi i orffen sgrifennu cofiant teithio Multiple Sclerosis sydd ar waith ers trip pedair wythnos i Sweden yn 2018. Fel ‘na ma bywyd – sawl sbrag yn yr olwyn. Tra bod y llyfr ‘na ar stop, dw i wedi bod yn trio gweithio ar gasgliad barddoniaeth newydd. Dw i ddim yn credu gallai rhoi unrhyw fath o drefn ar y gwaith yma er mwyn ei gyhoeddi cyn i fi fynd nôl mas i’r byd mawr eto ac edrych arno gyda llygaid newydd – llygaid bydd wedi cyfathrebu ‘da pobl go iawn, rhoi cwtsh iddyn nhw, a gweld y byd go iawn unwaith eto. 

Cafodd Rhian Elizabeth ei geni yn y Rhondda yn 2008. Hi yw awdur  Six Pounds Eight Ounces (Seren Books) a’r last polar bear on earth (Parthian Books). Mae’n un o Awduron Wrth Eu Gwaith, Gwŷl y Gelli ac yn rhan o Wŷl Llenyddol Rhyngwladol Coracle yn Tranås, Sweden.

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: