Posted on Jun 09, 2021
Comments (0)
Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.
Attention Deficit Hyperactivity Disorder yw ADHD. Yn aml iawn, caiff ei adnabod yn ystod plentyndod ac mae’n para trwy’ch bywyd. Mae’n un o’r cyflyrau niwroddatblygiadol mwya cyffredin sy’n efffeithio ar blant.
Ma gan rhai sydd â ADHD rhychwant eang o sumptomau gan gynnwys cael trafferth cadw’n llonydd, siarad gormod, synfyfyrio a bod yn anghofus.
Yn ôl CDC mae tri math gwahanol o ADHD; Cyflwyno Diffyg Sylw yn Bennaf pan mae’r unigolyn yn ei chael yn annodd i ganolbwyntio ac yn anghofio manylion yn rhwydd; Cyflwyno’n Orfywiog a Mympwyol yn Bennaf, lle mae’r unigolyn yn aneswmyth ac aflonydd; a Cyflwyno Cyfun sy’n gyfuniad cydradd o’r ddau.
Ond sut mae ADHD yn effeithio arnoch ac i ba raddau mae’n effeithio ar eich creadigrwydd? Fe ges i air gyda dau berson sydd â ADHD i glywed am eu profiadau.
Mae Ffion yn hwylusydd ar brosiect Ieuenctid People Speak Up.
Dechreuodd Ffion amau bod ADHD arni yn ei blwyddyn gynta yn y Brifysgol. Mae’n cofio eistedd wrth ford y gegin gyda’i chariad wrth ei hochor a gofyn iddo i ddweud wrthi i eistedd lawr eto bob tro roedd yn codi i wneud rhywbeth arall – hyn oll er mwyn iddi allu gorffen sgrifenu paragraff.
Cafodd Ffion ddiagnosis swyddogol bod ADHD ganddi cyn dechrau ei hail flwyddyn yn y brifysgol. Cafodd feddygyniaeth ac mae hi’n credu bod hyn wedi ei helpu’n sylweddol.
Mae’n credu bod ADHD yn gwneud iddi feddwl tu fas i’r bocs ar adegau – ‘ond stori gwahanol yw a fyddai’n cofio’r syniad yn ddigon hir i’w sgrifennu lawr, neu’n gallu canolbwyntio digon i ddatblygu’r syniad.
Mae gan Ffion sawl hobi creadigol mae hi’n dwli arnyn nhw, ond wedi peth amser, mae’n rhoi’r gorau i un er mwyn mynd at un arall. Mae hyn oherwydd yr ADHD meddai. “Dwi’n stryglo i ganolbwyntio ar unrhywbeth pan mae’n troi yn ‘jyst un peth arall dw i’n gwneud’ ac yna dw i’n symud at hobi arall neu mynd nôl at hen hobi. Er enghraifft, dechreuais wnïo a gwneud ategolion a phrynais lot o ddefnyddiau er mwyn dechrau siop arlein. Ond ar ôl sbel, ro’n i’n bored ‘da fe a dechreuais weithio gyda clai ac yna es i nôl i weithio ar ategolion.’
Mae ADHD wedi helpu Ffion yn greadigol gan ei bod yn cael nifer o syniadau creadigol, a hynny oherwydd yr ADHD meddai. ‘Mae fy meddwl yn gweithio drwy’r amser ac ma hynny’n neud e’n bosib i fi gael mwy o syniadau creadigol.’
Mae ADHD yn effeithio ar ddynion a menywod mewn ffyrdd gwahanol. Mae ADHD yn fwy cynnil i fenywod. Y prif sumtomau mae Ffion yn cael trafferth gyda nhw yw bod yn drefnus, anghofio, gor-bryder a ystyriaethau synhwyraidd.
Dyw sumtomau gor-bryder a ystyriaethau synhwyraidd ddim yn cael eu trafod yn aml, ond mae lot o fenywod sydd â ADHD yn cael trsafferth gyda’r ddau beth yma. ‘Dw i wedi brwydro gyda’r sumtomau yma am flynyddoedd cyn mod i’n gwbod bod ADHD ‘’da fi. Mae problemau synhwyraidd yn broblem yn sicr. Pan ro’n i’n fach ro’dd fy mam yn prynu siwmperi turtleneck i fi a ro’n i’n cael tantrums ofnadw am nad o’n i’n hoffi teimlad y siwmper ar fy ngwddwg. Hyd heddi dw i ddim yn gallu gwisgo dim byd gyda gwddwg uchel am fy mod yn teimlo fy mod yn mygu.’
‘Dw i hefyd yn cofio pan ro’dd fy mam yn hwyr i fynd i ôl fy mrawd o’r ysgol a do’n i ddim yn hoffi teimlad y sannau ro’dd mam wedi rhoi ar fy nhraed. Do’n i ddim yn gwbod siwd o’dd dweud hynny wrthi a finne’n 3 oed, felly fe ges i tantrum. Ro’dd yn rhaid iddi gario fi’n droednoeth. Dw i dal dim ond yn gallu gwsigo sannau o Primark gan nad ydw i’n gallu diodde teimlad unrhyw sannau eraill.’
Mae gan Ffion dri cyngor i unrhyw un sydd newydd gael diagnosis ADHD:
1. Dysgwch am eich ADHD, edrychwch ar fideos YouTube a podcasts a casglwch gymaint o wybodaeth ac y gallwch o brofiadau pobl eraill sydd â ADHD.
Pan ddeallodd Ffion am y tro cynta bod ganddi ADHD doedd dim syniad ganddi beth ro’dd hynny’n golygu. Buodd yn help mawr iddi glywed am brofiadau pobl eraill ac i wybod am y dechnoleg sydd ar gael i helpu.
‘Prynwch glustog wobble a rhowch eioh traed arno tra’ch bod yn gweithio, mae’n anhygoel a bydd yn stopio chi i bownsio’ch coesau cymaint.’
2. Gofynnwch am help os oes ei angen! Mewn dosbarth neu yn y gwaith, os oes angen i bobl wbod am eich gofynion, dywedwch wrth eich athro/cyflogwr.
Pan ro’dd yn ifanc, ro’dd Ffion yn ei chael yn annodd i chodi ei llaw a gofyn beth oedd yn mynd ymlaen os oedd rhywbeth neu rhywun wedi tynnu ei sylw. ‘Petawn i dim ond wedi rhoi gwbod beth o’dd y sefyllfa dw i’n credu bydden i wedi dysgu lot mwy.’
3.‘Nid cyngor yw hwn mewn gwirionedd, ond mae’n rhywbeth ro’dd angen i fi glywed pan ces y diagnosis am y tro cynta. Mae’n iawn i stryglo, mae’n beth annodd i fyw ‘da ac mae’n gallu bod yn flinedig iawn, do’s dim rhaid i chi garu eich ADHD, teimlais lot o bwyse i fod yn falch ac yn hapus bod gen i ADHD, ond tra bo’ fi nawr yn falch bo’ ADHD ‘da fi, dw i hefyd wedi bod trwy gyfnodau pan r’on i am iddo ddiflannu, mae’n daith i drio deall beth sy’n gweithio i chi a beth sydd ddim yn gweithio ond eich taith chi yw hi.’
Mae Rob yn rhedeg asiantaeth marchnata cynnwys digidol ac yn sgrifennwr hefyd. Ar hyn o bryd, mae wrthi’n datblygu cynllun di-elw i annog pobl niwroddiriol fel fe i weithio’n llaw-rydd tra’n rhoi’r tŵls iddyn nhw i gyflawni ei potensial.
Ro’dd Rob wastad wedi amau ei fod yn wahanol, ond cafodd e ddim diagnosis swyddogol bod ganddo ADHD tan Chwefror 2021, ac yntau’n 33 oed.
Cyn y diagnosis ro’dd diffyg hyder yn ei ddal yn ôl ac er bod ganddo ddoniau creadigol, do’dd e ddim wedi eu datblygu i’w llawn botensial. Ro’dd hyn oherwydd Dysfforia Gwrthod Sensitif – sumtom o or-sensitifrwydd sy’n gyffredin ymhlith rhai â ADHD. Nawr ei fod yn deall ei hun yn well, mae wedi gallu ‘gadael fynd’ fel petai a pheidio gadael i’r ADHD ei rwystro rhag gwneud yr hyn mae’n ei wneud orau.
‘Ma dal angen cefnogaeth gyda rheoli amser yn y gwaith arna’i er mwyn gwneud yn siŵr nad ydw i’n esgeuluso tasgiau pwysig (gallaf eistedd a sgrifennu am oriau – gor-ganolbwyntio – dyna eithaf arall rheoli swyddogaeth gweithredol dyw pobol ddim yn siarad amdano, hynny yw, cael gormod o sylw!) Ond wrth weithio i fi fy hunan, gallaf fod yn greadigol heb farnu. Fi sy’n gyfrifol amdana i nawr, sy’n cael gwared o unhyw straen.’
Cyngor Rob i unrhyw un sydd newydd gael diagnosis ADHD yw ymchwilio i’r feddygyniaeth sydd orau i chi. Bydd doctor da, meddai, yn rhoi dewis o feddygyniaeth i chi gan eu bod i gyd mor whahanol, yn dibynnu ar beth yw’ch sumptomau. ‘Hefyd, cymrwch nhw! Fe nes i ymchwil amatur gartre, a sylwi i fi wneud tair gwaith yn fwy o waith wedi cymryd y feddygyniaeth na pan o ni wedi anghofio eu cymryd.’
Mae hefyd yn annog cofleidio’ch ADHD. Peidiwch a meddwl bod yn rhaid i chi labelu’ch hunan yn ‘anabl’ neu bod rhyw ‘gyflwr’ arnoch. Mae Rob yn siarad am eu sumtomau yn hytrach nag am ADHD. Felly bydd yn dweud, ‘Dw i’n stryglo ‘da rheoli ffocws a sylw, ambell waith bydd rhywbeth arall yn tynnu fy sylw neu ar adeg arall, byddaf gymaint yn y zone, dw i’n anghofio popeth arall sydd o’m cwmpas.’
Mae rhai doctoriaid yn awgrymu VAST (Variable Attention Stimulus Trait) ac ma Rob yn credu bod hwn yn well term.
Cyngor ola Rob i rhai sydd newydd gael diagnosis yw bod yn agored a bod yn chi’ch hunan. Dyle ddim bod angen ‘dod mas’ fel rhywun sydd â ADHD. Mae’n rhan ohonoch.
Mae blog Rob ar Neurodiversitymatters.com
Comments (0)
Add a Comment