People Sing Up: 8 Rheswm Gwych dros fod yn rhan o grŵp canu!


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan yng ngweithgareddau PSU, gan gynnwys Stori Gofalu a Rhannu, Pobol yn Canu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae cerddoriaeth yn ein huno. Os mai Abba, Bach, Billie Eilish neu Kanye West yw eich dileit, mae rhywbeth byd-eang am y cyfuniad hudolus o felodi, harmoni a rhythm. Ond nid gwrando’n unig sy’n cyffwrdd â’r enaid; i nifer, mae creu cerddoriaeth yn wobrwyol mewn sawl ffordd.

Does dim rhaid i chi fod yn virtuoso i greu cerddoriaeth. Does dim angen gradd cerdd. Does dim rhaid i chi gael gwersi cerdd hyd yn oed. Y ffordd rhwydda i wneud cerddoroiaeth yw gyda’ch lllais – ac un o’r rhesymaiu gorau dros wneud hynny yw achos eich bod yn mwynhau gwneud hyynny.

Falle eich bod yn canu yn y cawod, neu yn y car pan does neb yn gwrando. Falle eich bod yn cyd-ganu wrth glywed eich hoff ganeuon. Falle bo’ chi am fod y Madonna neu Pavarotti neu Nina Simone nesa! Mae ymuno â grŵp canu yn ffordd hyfryd i rannu’ch hoffder o gerddoriaeth.

Mae People Sing Up yn brosiect PSU newydd sy’n agored i bawb. Beth bynnag yw’ch cefndir cerddorol, bydden ni wrth ein bodd i chi ymuno â ni a dod o hyd i’ch llais. Dyma sawl rheswm da pam y dylech chi fod yn rhan o grŵp canu.

1. Mae canu’n rhyddhau hormonau i deimlo’n dda.

"Music is a safe kind of high" — Jimi Hendrix 

Er bod meddwl am ganu o flaen pobol eraill yn gallu bod yn frawychus, mae yn ffordd dda iawn i rhyddhau stres.

Hormonau sy’n rheoli lefelau stres. Pan rydyn ni’n becso am rhywbeth, mae’n system nerfau yn rhyddhau cortisol – hormomn stres sy’n cynyddu cyflymder y galon a thanio’r ymateb dianc neu ymladd.

Mewn astudiaeth yn 2015, roedd ymchwilwyr wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng lefelau cortisol a chanu. Mewn sawl achos, roedd lefelau cortisol wedi gostwng ar ôl un sesiwn canu.

Roedd ymchwil yn 2012 hefyd wedi cadarnhau bod canu’n rhyddhau endorffinau. Ma’ rhain yn gemegau sy’n cael ei rhyddhau gan y sustem nerfau a ma’ nhw’n dda iawn i rhyddhau stress a gwneud i chi deimlo’n dda. Ma’ nhw hyd yn oed yn gallu lleddfu poen.

Awgrymodd hefyd bod mwynhau cerddoriaeth yn rhyddhau dopamine, ocsitosin a serotonin – tri hormone arall sy’n gwneud i ni deimlo’n dda ac sy’n dda i iechyd meddwl. 

Nerissa Joan sy’n rhedeg People Sing Up; dyma beth mae’n dweud am fanteision iechyd canu mewn grŵp:

Nid yn unig ma’r weithred o ganu yn cynyddu lefelau nifer o’ch hormonau hapus, ond rydych yn rhan o dîm, a rydych chi’n cwrdda pobol eraill fel chi, o’ch cymuned. 

Mae’n dda i unrhyw un sy’ wedi ynysu, yn unig, yn isel eu hysbryd ac yn ôr-bryderus. Mae’n gwneud i chi deimlo bo chi wedi gwneud rhywbeth dros eich hunan a dros pobol eraill, sef y ffordd ni wedi ca’l ein gwneud fel bodau dynol.

2. Mae canu mewn grŵp yn magu hyder

“I believe that singing is the key to long life, a good figure, a stable temperament, increased intelligence, new friends, super self-confidence, heightened sexual attractiveness, and a better sense of humour.” — Brian Eno

Os nad ydych chi’n teimlo’n rhy frwdfrydig ynglŷn â chanu gyda pobol eraill, dy’ch chi ddim ar ben eich hunan. Mae’n gam mawr o ganu ffwl pelt yn y cawod i ganu gyda pobol eraill. Falle bod meddwl am ddod o hyd i’ch llais ochor yn ochor â phobol eraill yn codi ofn, ond bydd yn eich synnu pa mor gloi newch chi fagu hyder. 

Os ydych chi’n brin o hunan-hyder, ma’ hynny’n amal am eich bod yn becso beth ‘ma pobol eraill yn meddwl amdanoch chi. Pan ry’ch chi’n canu, chi’n rhoi eich hunan mas ‘na – a dyw hwnna ddim wastad yn rhwydd.

Ma’ pawb yn dechrau rhywle, a bydd pawb arall yn y grŵp canu wedi teimlo’n nerfus ar rhyw adeg hefyd. Ond ma’ dod yn rhan o grŵp o gantorion eraill yn fwy rhwydd nag ydych chi’n meddwl; mae cael,profiad tebyg yn y gorffennol yn golygu y gallwch ddod o hyd i lot fawr o empathi a chyd-ymdeimlad.

Mwy amal chi’n gwneud rhywbeth, y lleia tebygol ydych chi i feddwl am beth ma pobol eraill yn meddwl. Cyn hir, byddwch yn canolbwyntio ar y tasg o’ch blaen. Ar ôl peth amser, byddwch yn teimlo’n llai hunan-ymwybodol ac yn fwy hyderus. Yn y pendraw bydd y mwynhad o’r profiad yn fwy na’ch ofn ohono.

Pan fyddwch chi’n canu, bydd gofyn i chi sefyll neu eistedd yn syth. Mae eich osgo yn eich helpu i anadlu tra’n canu. Mae’n rhoi gwell rheolaeth o’r diaffram i chi, sy’n helpu i chi daflu eich llais.

Yn 2009, dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Ohio bod cysylltiad rhwng osgo a lefelau hyder. Mae cyfnodau hirach gydag osgo syth yn gallu rhoi ffordd mwy cadarnhaol i chi weld eich hun.

Wrth sôn am hyder, ma’ gan Nerissa’r cyngor yma i unrhyw un sydd ddim yn teimlo’n hyderus i ganu mewn grŵp (hyd yn hyn):

Dw i’n clywed be’ sy’ ‘da ti weud, ond ma angen i ti anwybyddu’r llais ‘na. Ma’r rhan fwya ohono ni (gan gynnwys fi) wedi gorfod clywed rhyw athro neu berthynas neu gariad da eu bwriad yn asesu ein canu a hynny wedi gwneud i ni deimlo nad ydyn ni’n dda o gwbwl. Ond rydyn ni wedi ein geni i ganu cyn i ni siarad, mae’n ffordd mor naturiol o fynegu ein hunain.

Felly, sdim ots ‘da fi os nad eich llais chi yw’r llais gore. Os ydych chi’n hoffi cerddoriaeth a mynd mas a chael hwyl, dyma’r grŵp i chi. Mae gymaint yn haws nag i chi’n feddwl, hyd yn oed y tro cynta, a byddwch yn teimlo’n arbennig ar y diwedd.

3. Mae canu mewn grŵp yn rhoi teimlad o berthyn

“Nothing brings people together like singing Bohemian Rhapsody” — Ancient Chinese Proverb 

Mae canu ar eich pen eich hun yn hwyl, ond pan rydych chi’n ymuno gtda phobol eraill i greu harmoniau, byddwch yn dechrau adeiladu cysylltiadau. Mae ymchwil yn dangos bod canu gydag eraill yn creu grwpiau cymdeithasol cydlynol ag ystyrlon.

Pan yn canu gyda nifer o bobol, byddwch yn amal yn rhannu i grwpiau yn ôl y llais. Bydd cantorion gyda amrediad uchel yn canu rhan gwahanol i rhai ag ymrediad canolig neu is. Pan ma’ hyn yn digwydd, byddwch yn gwrando ar y rhai o’ch cwmpas a hefyd yn clywed sain pawb arall yn y grŵp.

Cyn hir, byddwch yn defnyddio cyfathrebu di-eiriau heb feddwl. Mae cyswllt llygad tra’n canu yn eich helpu i ddilyn eraill tra bo’ chi’n dysgu cân newydd. 

Pan ma cân yn swnio’n grêt, ma pawb yn teimlo’r un synnwyr o gyflawni rhywbeth ac o ewfforia. Os nad yw’r gân yn gweithio fel y dylai, gall pawb chwerthin ar hynny a gweithio gyda’i gilydd i ddatrys y broblem. Mae rhannu profiadau fel hyn yn ffordd grêt i glosio at eraill.

Chi’n cwrdda pobol eraill sydd am wneud rhywbeth newydd, trio datblygu eu hunain, ac yn fodlon i gymryd siawns ‘da nhw eu hunain ac eraill. A ma lot o gefnogaeth yn hynny i chi.

Do’s dim rhaid i chi gymryd risg, neu ddatblygu; gallwch eistedd yn gyffyrddus o wbod bod eraill yn eich derbyn fel yr y’ch chi. Ma’r opsiwn i ddatblygu yno. Hefyd ma gan bob aelod arall ei fywyd unigrhyw ei hunan a rydyn ni’n trio cynnig y gofod ‘na ymhob sesiwn fel gall pobol ddod i nabod ei gilydd.

4. Mae canu’n ymarfer yr ysgyfaint

“Singing is like a celebration of oxygen.” — Bjork 

Pan ry’ch chi’n canu, chi’n defnyddio mwy na dim ond y ceg. Mae anadlu’n holl bwysig i daro’r nodyn cywir a’i gadw. Ma’ gofyn tynnu anadl ddofn yn amal, cyn darn hirach, ac fe ddewch i ddeall eich bod yn canu o’r diaffram er mwyn cynyddu lefel eich sŵn.

We don’t often need to push our lungs in normal conversation. If you’re often short of breath, singing could improve your lung capacity and help build strength in the muscles around your ribcage.
Ddim yn amal ma gofyn i ni weithio’r ysgyfaint tra’n sgwrsio bob dydd. Os ydych chi mas o anadl yn amal, gall canu gynyddu capasiti yr ysgyfaint a chryfhau’r cyhyrau o gwmpas eich asennau.

Although it cannot cure problems such as chronic obstructive pulmonary disorder (COPD), cystic fibrosis, or asthma, exercising your lungs through song could help manage symptoms.
Er nad yw’n gallu gwella cyflyrau fel COPD, ffibrosis systig neu asthma, mae ymarfer eich ysgyfaint trwy ganu yn gallu helpu rheoli sumtomau.

Research suggests that taking fuller breaths while singing can also boost the amount of oxygen in your blood. This improves the performance of your red blood cells, giving you more energy, and boosting the function of your immune system.
Mae ymchwil yn awgrymu bod anadlu’n fwy dwfwn tra’n canu yn gallu bod yn hwb i’r ocsigen yn y gwaed. Mae hyn yn gwella perfformiad celloedd coch eich gwaed, yn rhoi mwy o egni ac yn cryfhau’r sustem imwinedd.

Ychwanegodd Nerrisa: Mae digon o dystiolaeth llafar bod unigolion sy’n cael trafferthion anadlu, trafferfthion gwddwg neu broblemau iechyd oherwydd cyflyrau cryfder craidd, yn gweld bod canu’n ffordd dda i wella iechyd yn gyffredinol.

Gallwch fynd ar eich cyflymder eich hunan er mwyn gwneud yn siŵr nad y’ch chi’n rhoi loes i chi’ch hunan, ond dw i yno i annog pawb i gadw fynd! Lot o’r hyn dw i’n gwneud yw dweud wrth pobol eu bod nhw’n gwneud yn iawn ac ma hynny’n eu hannog i gymryd mwy o risg a dysgu a thyfu mwy.

5. Mae bod mewn grŵp canu’n gwella gwaith tîm.

“I’m amazed by the way you helped me sing my song” — Paul McCartney (“Maybe I’m Amazed”)

Mae canu mewn grŵp yn golygu bod pawb yn cymryd rhan gyda’i gilydd. Yn wahanol i ganu solo, ry’ch chi’n dibynnu ar y bobol o’ch cwmpas i gyrraedd eich gôl cerddorol. Mae gweithio gyda’ch gilydd i greu sŵn hyfryd yn help i’r grŵp gydamseru.

Dyma ddywedodd Nerrisa am waith tîm:

Côr neu grŵp canu yw un o’r ffurfiau gwreiddiol ar waith tîm. Ry’ch chi’n trio gweithio gyda’ch gilydd, ambell waith i’r un cyfeiriad, ambell waith ochr yn ochr a’ch gilydd.

Mae pob aelod yn dod â’u personoliaeth a’i sgiliau eu hunain, ac ma’ pob un mor bwysig â’r llall. Falle eich bod yn chwaraewr tîm da iawn, neu falle’n fwy o arweinydd. Falle eich bod yn un s’n dysgu’n dda neu yn berson creadigol.

Pwy bynnag y’ch chi, mae pob un mor bwysig a’r llall, y ffordd ma popeth yn cymysgu sy’n bwysig a dyna fydd i’w glywed o’r ffrynt.

6. Mae canu’n ffordd dda i fynegu’ch hunan

“Those who wish to sing always find a song” — Swedish Proverb 

Mae teimladu ac emosiynau ‘da ni gyd, rhai cadarnhaol, rhai negyddol a rhai sy’n annodd delio ‘da nhw. Mae canu’n ffordd iachus i fynegu teimladau.

Falle newch chi brofi catharsis mawr a theimlo’n greadigol tra’n canu mewn grŵp a hynny’n help i chi os yw bywyd yn annodd. Mae rheswm pam ma cerddoriaeth yn cael ei ddefnyddio’n amal mewn therapi.

7. Mae canu mewn grŵp yn dda i’r ymenydd

“Our brains developed along with music and singing as a survival mechanism.” — Tania De Jong 

Bydd yn syrpreis i chi wbod pa mor weithgar ma’r ymenydd pan ry’ch chi’n canu, Er y bydd copi o’r gân o’ch bla’n, byddwch yn dysgu’r geiriau, melodi, harmoni a mwy.

Yn ôl John Hopkins Medicine, mae cerddoriaeth yn defnyddio pob rhan o’r ymenydd. Mae Havard Medical School yn dweud fod pobol sydd wedi clywed cerddoriaeth pan yn blant yn dysgu pethau newydd yn haws, ac ma pobol dros 50 sy’n ymwneud â cherddoriaeth yn mwynhau gwell gallu ymenyddol.

Tra’ch bod chi’n canu, ma gofyn canolbwyntio. Falle bydd hynny’n cymryd mwy o ymdrech ar y dechrau a tra’n dysgu cân newydd, ond fe ddaw’n ail natur yn ddigon cloi. Falle byddwch yn sylwi bod y canolbwyntio yma’n eich helpu mewn agweddau eraill o’ch bywyd.

Ma’ cadw’r ymenydd yn weithgar nid yn unig yn lleihau stres ond gall fod o fantais yn hwyrach yn eich bywyd. Ma’ canu mewn grŵp yn gallu bod o fantais i bobol sydd â demensia.

8. Mae am ddim

“His tongue is now a stringless instrument” — William Shakespeare

Yn anffodus, ma’n rhaid talu am y pethe hynny mewn bywyd ni’n eu mwynhau neu sy’n fuddiol. Gall cost fod yn rhwystr pan ddaw yn fater o ddilyn ein diddordebau.

Os ydych chi eisiau canu does dim angen prynu unrhyw offer nac offeryn. Does dim angen meicroffôn hyd yn oed.

Y cyfan sydd ei angen wrth ymuno â grŵp canu yw’r llais. Ma’n rhwydd cario llais i’r ymarferion a dyw e ddim yn costio ceiniog.

Gore oll, mae dod i People Sing Up hefyd am ddim!

Mae People Sing Up eisiau chi!

Mae People Sing Up yn croesawi cantorion o bob oedran, rhywedd, a chefndir. Does dim  angen unrhyw brofiad canu arnoch chi; ma’r grŵp yn gyfeillgar a chefnogol. 

Mae’r grŵp yn cwrdda pob bore dydd Iau rhwng 10.30 a 12.00 ac ma nhw’n canu pob math o ganeuon pop a roc poblogaidd a chlasurol. Mae People Sing Up yn creu awyrgylch ymlaciol ac yn agored i bob gallu.

Does dim angen cofrestru i People Sing Up. Does dim angen aros; gallwch ymuno â ni yn ein sesiwn nesa.

Os ydych eisiau gwbod mwy, cysylltwch. Ond os ydych chin meddwl bod hwn i chi yna dewch i roi cynnig arni! Falle byddwch chi werth eich bodd!

 

Mae People Sing Up yn croesawi cantorion o bob oedran, rhywedd, a chefndir. Does dim  angen unrhyw brofiad canu arnoch chi; ma’r grŵp yn gyfeillgar a chefnogol. 
The group meets every Thursday morning from 10:30 AM - 12:00 PM and sings a variety of popular and classic pop and rock songs. People Sing Up is relaxed and open to all abilities. Mae’r grŵp yn cwrdda pob bore dydd Iau rhwng 10.30 a 12.00 ac ma nhw’n canu pob math o ganeuon pop a roc poblogaidd a chlasurol. Mae People Sing Up yn creu awyrgylch ymlaciol ac yn agored i bob gallu.
There’s no sign-up to People Sing Up. There’s no need to wait; you can come and join us at our next session. Does dim angen cofrestru i People Sing Up. Does dim angen aros; gallwch ymuno â ni yn ein sesiwn nesa. 
If you’d like to learn more, get in touch. But if you think it’s for you, why not come along and give it a try? You might just love it. Os ydych eisiau gwbod mwy, cysylltwch. Ond os ydych chin meddwl bod hwn i chi yna dewch i roi cynnig arni! Falle byddwch chi werth eich bodd!

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: