PSU: beth sy’n newydd?


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan yng ngweithgareddau PSU, gan gynnwys Stori Gofalu a Rhannu, Pobol yn Canu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mae People Speak Up yn tyfu. Mewn amser byr mae’r mudiad wedi tyfu o gynnig ychydig o brosiectau cymunedol a oedd yn dod a phobol o bob oedran a chefndr at ei gilydd, i fod yn Hwb Celfyddydau, iechyd a Llesiant i ardal Llanelli. Mae gan PSU nifer fawr o brosiectau a digon o gyfle i bobol gymryd rhan.

Mae cartre ysbrydol PSU, Ffwrnes Fach (hen gapel Seion yn Llanelli) yn llawn egni! Mae rhaglen lawn o weithgareddau ar gael, sy’n addas i bawb. Does dim amser gwell wedi bod i alw mewn a bod yn rhan o’r cyfan.

Fe ges i air gyda rhai o’r bobol sy’n cymryd rhan yn rhai o’r prosiectau sydd ar y gweill er mwyn clywed sut mae PSU o les i’r gymuned.  

Young People Speak Up

Mae YPSU yn grŵp poblogaidd iawn. Mae poobl ifan o 11 lan yn cwrdda pob nos Fercher rhwng 5 a 7 mewn awrgylch heb farnu a chynhwysol. 

Yn ystod gwyliau’r haf roedd aelodau YPSU wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o weithgareddau eraill PSU – Stori, Rhannu, Gofalu er enghraifft, gweithdai celf, crefft a cherdd a Chwarae ar y Stryd. 

Ces i air gyda Holli Able, 16 oed, a ddaeth yn rhan o YPSU ar ddechrau’r haf. Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli gyda prosiect Chwarae ar y Stryd. Cyn dod i YPSU roedd Hollie’n nerfus o gwrdda pobol newydd. ‘Mae cymryd rhan yn y gweithgareddau i gyd wedi bod yn lot o hwyl!’  

Mae Hollie wedi mwynhau chware pêl-droed a rygbi yn fawr. Dywedodd bod YPSU wedi ei wneud yn haws iddi siarad gyda pobol a wedi rhoi rheswm iddi fynd mas o’r tŷ dros wyliau’r hâf. Dros y misoedd diwetha mae wedi gwneud ffrindiau newydd ac mae’n awyddus i gadw cysylltiad gyda nhw.

Dywedodd Cyfarwyddydd Artistig PSU, Eleanor Shaw, ‘Dw i wedi gweld hyder Hollie yn tyfu. Mae’n help mawr i roi popeth mas yn barod cyn y gweithgareddau a gyda’r plant ifanca. Dw i’n ddiolchgar dros ben!’

Yn ystod yr hâf roedd prosiect PSU, Chwarae ar y Stryd, ar hyd a lled Llanelli – Cae chwarae Penygaer, Parc Pen y Fan, Parc y Bobol, Danybanc a sawl lle arall.

Er bod yr hâf drosodd, bydd Chwarae ar y Stryd yn parhau. Mae’n agored i blant o bob oedran, yn cynnig cyfle iddyn nhw chwarae’n sâff a chwrdda ffrindiau newydd.

Stori Gofalu a Rhannu

Stori Gofalu a Rhannu yw un o grwpiau hyna PSU. Mae rhywun gwahanol yn cynnal y sesiwn pob wythnos. Ma’r rhai sy’n mynd iddo yn cwrdda’i gilydd, ysgrifennu, rhannu straeon a bod yn greadigol.

Fel pob prosiect PSU, mae Stori Gofalu a Rhannu yn fan sâff, heb farnu, lle mae croeso i bawb a phawb yn cael eu hannog. Mae tê a choffi ar gael a chyfle i gael sgwrs gyda ffrindiau hen a newydd.

Ces i air gyda Val Thomas sydd wedi bod tyn rhan o’r grŵp ers amser hir. Dywedodd bod ochor gymdeithasol y grŵp yn bwysig iddi hi. Mae wrth ei bodd ‘yn cwrdda pobol newydd a rhannu syniadau, gan wbod nad i chi’n llwyr ar eich pen eich hunan pan yn sgrifennu.’

Mae’r bobol sy’n mynd i Stori Gofalu a Rhannu yn mwynhau rhaglen amrywiol dan arweiniad pobol o sawl cefndir, pob un a’i ffordd ei hunan i rannu profiadau creadigol a ysbrydoli aelodau’r grŵp.

Mae bod yn aelod o Stori Rhannu Gofalu hefyd yn help i Val am ei fod yn ‘cynnig cyfle i glywed dulliau gwahanol o ddarllen, barddoniaeth a chanu.’

Mae sesiwn yn Ffwrnes Fach ar ddydd Mercher rhwng 11.30 a 1 ac ar ddydd Gwener mae sesiwn arlein, ar Zoom, rhwng 5.30 a 7.

Sadwrn Siarad y Gair

Mae Sadwrn Siarad y Gair yn ddigwyddiad hybrid ar ail ddydd Sadwrn y mis yn Ffwrnes Fach ac ar Zoom. Mae’n gyfle i bobol rannu’r gair llafar, yn straeon byrion neu barddoniaeth. Mae digon o gerddoriaeth hefyd. Gellwch gyfrannu neu ishte nôl i fwynhau aywrgylch greadigol Ffwrnes Fach.

Pob mis ma’ ‘na gyfraniad gan artistiaid gwâdd o bob math o gefndir; o feirdd i rapwyr, chwedleuwyr i gerddorion.

Pobol yn Canu

Nerrisa Joan sy’n arwain hwn, un o brosiectau mwya newydd PSU. Ma’ nhw’n cwrdda ar ddydd Iau rhwng 10.30 a 12 ac ma’n agored i bawb dros 16. 

Falle bod rhai ddim yn hoffi’r syniad o ganu o fla’n pobol eraill. Mae Pobol yn Canu yn cynnig awyrgylch ymlaciol lle gall pawb ddod o hyd i’w llais ei hunain a magu hyder wrth wneud hynny.

Dyma ddywedodd un o aelodau cyson Pobol yn Canu, Debs Byers:

Dw i’n dwli ar ganu a dwi’n gwbod bod canu’n dda i’r enaid. Dw i wedi bod yn edrych am grŵp canu ers amser, un lle nad o’s dishgwl ymarfer rhwng sesiynau na pherfformio chwaith a lle ma’ ‘na ganeuon amrywiol a hwyliog. Dw i wedi ca’l hyn i gyd a mwy yn Pobol yn Canu. Ma’ agwedd dim beirniadu’r grŵp yn arbennig. Bob tro dw i’n cyrraedd y sesiwn heb fawr hwyl ne’ wedi blino dw i’n gwerthfawrogi gallu anghofio am bopeth am awr a hanner ac yna gadael yn teimlo ganwaith gwell na pan nes i gyrraedd.’

Fel sgrifennwr y blog ‘ma, dw i ddim wastad yn rhoi fy safbwynt i ar y prosiectau, er fy mod yn cymryd rhan mewn mwy nag un. Ond, dw i wedi magu lot mwy o hyder ers ymuno â’r grŵp canu.

Tua ugain mlynedd yn ôl ro’n i’n arfer chware mewn bandiau, canu mewn corau ac yn mwynhau perfformio sioeau cerdd. Ond dros y blynyddoedd, wrth i fywyd gymryd drosodd, nes i wneud llai a llai o ganu – arwahan i yn y car. Dim ond yn y tŷ y bydden i’n chware’r gitâr.

Dw i ddim yn gallu dweud yn union pryd, ond fe nes i ddechre teimlo’n embarrassed ynglŷn â fy llais canu, neu o leia, gadael i eraill ei glywed. Ond ma ymuno â Pobol yn Canu wedi bod yn newid byd i fi. Ers mynd i’r sesiynau dw i wedi ca’l yr hyder i fynd a fy ngitâr i ambell sesiwn Sadwrn Siarad y Gair a perfformio yno. Pwy a wyr, falle daw’r fy mreuddwyd plentyndod i ffurfio band yn wir nawr!

Ma’ sesiynau Pobol yn Canu yn hwyl, cynhwysol, cathartig ac yn grêt i bobol o bob gallu canu.

Dynion yn Clebran

Mae Dynion yn clebran yn cwrdda yn Ffwrnes Fach ac arlein. Mae’n grŵp sy’n agored i ddynion o bob cefndir. Y bwriad yw creu awyrgylch cefnogol i ddynion ddod at ei gilydd i siarad, i fod yn greadigol ac i wneud ffrindiau newydd.

Mae Stephen Treharne yn mynd i Dynion yn Clebran yn gyson. Dywedod: 

‘Dw i’n credu bod grŵp i ddynion yn bwysig am ei fod yn rhoi teimlad o berthyn i ni gyd a ni’n gallu siarad am bethau bydden ni ddim yn sôn amdanyn nhw fel arfer. Dw i’n teimlo hefyd bod y grŵp dynion wedi rhoi mwy o hyder i fi ac i’r dynion eraill, hyder i rannu ein taith bersonol sydd wedi troi wedyn yn ofod creadigol.’

‘Dw i wedi elwa cyment trwy fod yn aelod o grŵp Dynion yn Clebran. Dw i wedi cwrdda rhai ffrindie ffantastic ‘ma, sydd wedi rhoi teulu o frodyr i fi a’r rhodd fwya ma’r grŵp wedi rho i fi yw parch. Ni gyd yn cael dyddie da a dyddie drwg ac ambell waith ni ddim yn cytuno ar bopeth. Ni’n ymddiried digon yn ein gilydd i ofyn os yw rhywun eishe rhannu rhywbeth. Ac wrth gwrs, ma’r lle i greu wedi bod yn arbennig, sydd wedi helpu ni ddynion yn fawr.

Mae amser a dyddiade Dynion yn Clebran yn amrwyio, fel ag y mae gweithgareddau’r aelodau.

Os yw’r grŵp o ddiddordeb i chi, cysylltwch ac fe newn ni roi gwbod pryd a ble ma’r cyfarfod nesa. 

Amser dishgled

Ma’n amser dishgle am 11 bob dydd Gwener yn y Ffwrnes Fach! Ma’r sesiynau ar gyfer pobol gyda dementia a’u teuluoedd.

Pob wythnos, ma chwedleuwr neu artist gwâdd yn arwain y sesiwn. Ma aelodau o Dementia Carmarthenshire Coalition a thîm hamdden cymunedol Activ yn bresennol hefyd.

Ma’r sesiynau’n cynnig cyfle i rannu straeon, i fod yn greadigol a gwneud ffrindiau newydd. 

Grŵp Cymdeithasol Llanelli

Mewn cyd-weithrediad ag Age Cymru, mae Grŵp Cymdeithasol Llanelli’n cynnig cyfle i bawb dros 50 i gwrdda. Ma’ nhw’n cwrdda pob bore LLun rhwng 10.30 a 11.30.

Mae tê a choffi a bwydydd ysgafn ar gael – cyfle gwych i i gael sgwrs go iawn gyda ffrindie hen a newydd.

Pnawn Arty

Ffwrnes Fach ar bnawn dydd Mawrth yw’r lle i fod os am fod yn arty, neu’n crafty hefyd! Ma’r sesiynau rhwng 1.30 a 3.30 ac ar gael i bawb dros 16. Pob wythnos, bydd artist gwâdd yn eich helpu i fentro i feysydd amrywiol celf gweledol.

Fel gyda prosiectau eraill PSU, does dim pwyse, dim ond gofod lle gallwch chi ddatblygu eich crefft a mynegu eich creadigrwydd mewn ffyrdd newydd, llawn hwyl.

Dere mewn!

Mae PSU yn hwb creadigol a chymdeithasol sy’n tyfu ac yn cynnig lles a llesiant i’ bawb sy’n cymryd rhan. Ni’n cynnig awyrgylch cefnogol a chroesawgar lle gelli di dyfu a datblygu.

Os yw unrhyw un o brosiectau PSU o ddiddordeb i ti, dere draw ato’ ni! Am fwy o wybodaeth, cysyllta! 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: