Posted on Apr 01, 2023
Comments (0)
Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan yng ngweithgareddau PSU, gan gynnwys Stori Gofalu a Rhannu, Pobol yn Canu a Sadwrn Siarad y Gair.
Cyn datblygu cyflwr iechyd difrifol, mae gan bawb ei hunaniaeth ei hunain, yn ogystal ag hanes, bywyd llawn profiadau, gobeithion, dymuniadau a gofynion. Rydym I gyd yn fodau dynol ac mae’r ffactorau yma’n gyffredin i bawb. Er gall bywyd unigolyn newid oherwydd ei iechyd, mae dal ganddynt y pethau yma.
Mae’n hawdd gweld problemau penodol sydd yn codi gyda’r fath cyflwr. Gall hunaniaeth yr unigolyn dechrau erydu. Gall ymweld fel y mae’r unigolyn wedi dod i fod ei chyflwr iechyd.
Felly, yn rhyngweithiol, boed iddo fod mewn sefyllfa neu leoliad gofal neu unrhyw le arall, mae’n hanfodol i drin pobl fel unigolion, beth bynnag ei chyflwr iechyd.
Mae Neuro Speak Up yn brosiect Newydd gyda People Speak Up. Cynhalir gan Louise Bretland-Treharne, Karl Treharne, ac Alan Thomas, mae’n lle cefnogol sydd yn agored i bobl gyda chyflwr ymennydd, ei gofalwyr ac unrhyw un sydd eisiau magu ymwybyddiaeth.
Gwnes siarad gyda Louise, Karl, and Alan I ddysgu fwy am y grŵp ac i drafod fel gallwn weld y person, yn hytrach na’i chyflwr iechyd ac i ddysgu am Neuro Speak Up.
Beth yw’r problemau gyda anwybyddi unigoliaeth, gofynion a gobeithion pobl a dim ond ffocysu ar ei cyflwr iechyd?
Hyd yn oed os oes gan ddau berson yr un cyflwr dydi hynny ddim yn meddwl yr ydyn yn ymdopi neu’n ymateb yn yr un ffordd.
Mae gan bawb ei phrofiadau personol, cryfderau, doniau a ffyrdd o ymdopi ei hunain sy’n galluogi iddynt fod yn annibynnol tra’n gytre’ neu du fas. Mae hyn yn cael ei gymryd i ffwrdd yn rhy aml sy’n cyfyngu dewisiadau gofal, gwasanaethau trafnidiaeth anhygyrch, ac yn bennaf, pan mae pobl mond yn gweld cyflwr iechyd ac nid yr unigolyn, gellir cymryd ei gydraddoldeb i ffwrdd ohonynt.
Beth allwn wneud er mwyn trin pawb fel unigolion, nid fel cyflwr iechyd?
Gwrandewch Ar y person ac ymgysylltwch gyda nhw, dyma’r ffordd i ddod i nabod nhw fel unigolyn.
Mae eisiau parchu ei thaith. Gadewch iddyn nhw rannu beth maen nhw eisiau am ei chyflwr. Rhowch amser iddynt i fod ei hunain o’ch cwmpas gang weld y person yn gyntaf, nid y cyflwr.
Rydym wedi dysgu llawer o bethau yn Neiro Speak Up hyd yn hyn - os gwnewch adel i bobl siarad yn amser ei hunain, ac yn nhempo ei hunain, gallwch weld ei hyder dechrau cynyddu. Byddent yn dechrau rhannu ei safbwyntiau ynglŷn â’i chyflwr, fel natur y cyflwr a sut ydynt yn delio gyda’i chyflwr o ddydd i ddydd.
Wrth adael iddynt fod ei hunain rydych yn dangos parch iddynt. Tra i ni siarad yn y grŵp mae rhan fwyaf ohonom yn trafod sefyllfaoedd ‘bob dydd’, heb i’w cyflwr iechyd cael ei drafod o gwbl. Os mae cyflwr iechyd yn cael ei rhannu gan unigolyn, fe fydd y grŵp yn cefnogi’r unigolyn gan adael iddynt siarad a gwrando arnynt.
Trwy wrando a dysgu oddi wrth ein gilydd gwenwn rymuso eraill i fyw gyda’i chyflwr iechyd nhw ei hunain.
Beth yw Neuro Speak Up?
Grŵp cefnogol sy’n cwrdd yn hwb Celf, Iechyd a Lles y Ffwrnes Fach yn Llanelli yw Neuro Speak Up. Cynhalir gan elusen People Speak Up. Dyma ein prosiect gyntaf wedi lliwio gan wirfoddolwyr.
Gwnaeth cyfarwyddwraig Busnes & Celfyddydol, Eleanor Shaw, gweld gwerth y syniad, gan gynnal y cyfarfodydd bob pythefnos ar Ddyddiau Gwener o 1.30 yh - 2.30 yh. Mae Eleanor hefyd yn cynnal ymarferion gwrando dwys a chreadigol ar ddechrau’r sesiynau.
Fe wnaeth Louise, Karl ac Alan at ei gilydd i rannu ei syniadau wrth sylwi bod angen mwy o gefnogaeth leol er mwyn pobl gydag afiechydon yr ymennydd. Rydym yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd gweld y person cyn diagnosis neu dostrwydd ag enwir.
Mae’r grŵp yn lle i gleifion, gofalwyr ac aelodau teulu i dderbyn croeso ac i rannu ei phrofiad ac arbenigedd ar fyw gyda chyflwr Niwrolegol. Rydym yn meddwl bod y claf yn arbenigwr ar ei chyflwr ei hunain.
Beth allwch ddisgwyl os ydw i'n mynychu Neuro Speak Up am y tro gyntaf?
Mae sefyllfaoedd newydd yn frawychus i rai. Os ydych yn dod I Neuro Speak Up am y tro gyntaf, dyma beth allwch ddisgwyl.
Gweld y Person, Nid y Cyflwr: Awgrymiadau Ymarferol
Gwnawn ragdybio am bobl erial yn aml yn ein bywydau. Er mae’n gallu teimlo ein bod yn helpu, gall newid cyflymder, tôn ac uchelder ein llais wedi selio ar ragdybiaeth am gyflwr meddyliol rhywun tramgwyddo’r person a gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus.
Yn hytrach nag hyn, byddwch yr un fath ag ydych gyda phawb. Os mae rhywun eisiau iddo'ch arafu eich siarad, neu siarad yn uwch, fe wnawn ddweud wrthoch.
Peidiwch ragdybio fod angen cymorth ar rywun. Mae rhan fwyaf o bobl yn gwerthfawrogi ei annibyniaeth - mae cymryd i ffwrdd y tasgau yma’n cymryd i ffwrdd ei awtonomiaeth. Mae gofyn a oes angen cymorth ar rywun yn iawn, ond os ydynt yn eich gwrthod, mae’n bwysig parchu ei dewis.
Mae defnydd iaith “person-yn-gyntaf” yn bwysig. Pan ddefnyddiwch gyflwr y person i'w ddisgrifio, gellir ei dad-ddyneiddio. Mae galw rhywun yn “berson gydag anabledd” yn dra gwahanol i alw rhyw un yn “person anabl”.
Ymunwch a ni yn Neuro Speak Up
Mae Neuro Speak Up yn cael ei gynnal bob pythefnos ar Ddydd Gwener o 1:30yh - 2:30yh. Mae’n agored i unrhyw un gyda chyflwr ymennydd, ei gofalwyr neu rywun sydd am wella ei ymwybyddiaeth ynglŷn â chefnogi ac ymdrin â rheini sydd gyda chyflwr niwrolegol.
Mae’r sesiwn yn hybrid, sydd yn eich galluogi i’w fynychu yn y Ffwrnes Fach neu ar-lein dros Zoom. Os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych am inni ddanfon linc i chi ymuno ar-lein, e-bostiwch ni: info@peoplespeakup.co.uk.
Comments (0)
Add a Comment