Taith Lleoli Kyle ac Aimee yn PSU


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan ym mhrosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Gofalu a Rhannu a Sadwrn Siarad y Gair.

Os ydych chi wedi bod i unrhyw un o sesiynau grŵp neu ddigwyddiadau PSU neu wedi galw mewn am baned, falle i chi sylwi ar cwpwl o wynebau newydd ar y tîm, yn hwyluso rhai o’r sesiynau.

Ma’ dau fyfyriwr Drama Gymhwysol ar eu hail flwyddyn yn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi eu lleoli gyda PSU am chwe wythnos, er mwyn cael profiad proffesiynol gwerthfawr.

Fe nes i ddal lan gyda Kyle a Aimee, i ddod i’w nabod yn well a clywed am eu profiadau diweddar yn gweithio gyda PSU. Dyma eu taith.

Drama Gymhwysol PCYDDS a PSU

Mae cysylltiadau cryf wedi bod rhwng PSU a adran ddrama CPYDDS ers y dechrau. Dyma sydd gan cyfarwyddydd PSU, Eleanor Shaw, i’w ddweud am y berthynas:

Mae gweithio gyda CPYDDS mor bwysig i ni yn PSU, pobol sydd wedi graddio mewn Drama Gymhwysedig yw’n tîm hwyluswyr amser llawn, ac ma’r myfyrwyr arbennig yna yn derbyn hyfforddiant hwyluso arbennig,a dyma’r sgiliau sydd eishe arno ni yn y sector Celfyddydau a Iechyd. Diolch mawr i Kyle a Aimee, ma’ nhw’n cymhwyso eu dysgu mewn sefyllfa ymarferol, mae ein cymuned yn ddiolchgar iawn iddyn nhw, a ry’n ni’n edrych mla’n i ddilyn nhw ar eu taith Drama Gymhwysol.

Ali Franks sy’n arwain cwrs Drama Gymhwysol PCYDDS. Dyma mae hi’n ei feddwl am y cysylltiad:

"Mae cwrs BA Drama Gymhwysol CPYDDS wedi datblygu perthynas anhygoel gyda PSU dros y 5 mlynedd ddiwetha. Ma’ nifer o’n graddedigion wedi mynd i weithio i PSU, a rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am frwdfrydedd a mentora Eleanor dros ein myfyrwyr, sydd wedi cael cyfleodd arbennig i wirfoddoli, cynorthwyo ac arwain gweithdai gyda PSU. Ma’r prosiect gyda Aimee a Kyle wedi bod yn arbennig o effeithiol, gan bo’ nhw wedi bod gyda PSU am fodiwl cyfan a felly wedi bod yn rhan o’r gwaith go iawn o ddydd i ddydd. Mae BA Drama Gymhwysol yn canolbwyntio ar ddatblygu myfyrwyr trwy sefyllfaoedd byd-go-iawn, er mwyn iddyn nhw fod yn barod i’r gweithle ar ôl graddio, yn deall sut ma’ sefydliadau’n gweithio a bod ganddyn nhw’r priodoleddau sydd eu hangen i fod yn ymarferwyr llwyddianus. Ma’r profiad wedi bod yn anhygoel i Kyle a Aimee, nid yn unig yn nhermau dysgu modiwl, ond hefyd yn nhermau datblygiad a thyfiant personnol. Ry’n ni’n edrych mla’n at barhau yn ein perthynas ‘da PSU, yn enwedig nawr ein bod yn datblygu rhaglen Meistri Drama Gymhwysol, lle bydd ein partneriaeth gyda PSU yn datblygu ymhellach er mwyn parhau i gynnig profiad mor arbennig i’n myfyrwyr yn y diwydiant. Diolch i bawb yn PSU!"

Cwrdda Kyle!

Ma’ Kyle yn fyfyriwr Drama Gymhwysol ail flwyddyn yn PCYDDS, Caerfyrddin. Yn wreiddiol o Essex, ma’ Kyle wedi byw yn LLundain a mannau amrywiol eraill yn Lloegr.

Yn ystod blwyddyn gynta’i râdd, astudiodd a chymrodd ddiddordeb yn Theatr of the Oppressed, a ddechreuwyd gan Augusto Boal o Brazil, ac yn cynnwys cyfraniadau gan y gynulleidfa ac mae’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn therapi drama a theatr gymunedol.

Mae Kyle wastad wedi bod â diddordeb mewn actio. Ro’dd cymryd modiwl theatre gymunedol ac arwain gweithdy gyda cyfranogion anabl wedi agor posibiliadau actio newydd iddo, ffactor yn ei benderfyniad i symud i Gymru i astudio Drama Gymhwysol.

Kyle yn arwain y twymo lan yn People Sing Up

Cyn dy leoli yno, beth o’t ti’n gwbod am PSU?

Yn fy mlwyddyn gynta, nethon ni gwrdda rhywun a o’dd yn gwirfoddoli yn PSU, a nes i hefyd gwrdda myfyrwyr rhyngwladol a o’dd wedi gwneud modiwl gyda PSU. Ond yr unig beth ro’n i’n gwbod pryd hynny o’dd bod PSU yn gweithio gyda grwpiau dementia. Felly ‘na beth o’n i’n meddwl o’dd prif ffocws PSU tan bo’ fi’n gweithio ‘na fy hunan a sylweddoli pa mor amrywiol ma’r grwpiau ma’ nhw’n gweithio gyda nhw.

Pa fath o bethe ti wedi bod yn gwneud ers bod gyda PSU?

Yn ystod y pythefnos cynta, fe nethon ni sesiynau blasu ar bopeth o’dd yn bosib. Felly o ddydd Llun i ddydd Sadwrn nethon ni y grŵp dros 50 ar ddydd Llun, y sesiynau galw mewn, a ni’n cynnig coffi a sesiynau cwtsh creadigol pan ma pobol jyst yn galw mewn a ni’n gallu darlunio, sgrifennu neu gwneud unrhywbeth creadigol.

Dw i wedi cymryd rhan yn grŵp Merched Coedcae ar ddydd Mawrth, a ma’ nhw wedi bod yn gweithio ar brosiect i greu fideo cerdd. Ro’n i hefyd am ga’l profiad o Stori, Gofalu a Rhannu ar ddydd Mercher. A hefyd Chwarae Stryd a YPSU ar ddydd Mercher.

Dw i hefyd wedi bod yn rhan o People Sing Up ar ddydd Iau. Ac yna dw i hefyd yn cymryd rhan yn Amser Paned ar ddydd Gwener. Hyd yn hyn yr unig grŵp dw i heb ga’l profiad ohonno yw Neuro Speak Up, sydd pob pythefnos, ond dw i’n gobeithio mynd i hwnna yn y pythefnos ola.

Ar ôl yr wythnos blasu, ceson ni sgwrs ynglŷn â beth bydden i’n hoffi canolbwyntio arno fe, a dw i wedi aros gyda’r rhan fwya’ o’r grwpiau.

Siwd bydde ti’n dweud dy fod wedi elwa o dy amser gyda PSU?

Un o’r pethe mwya i fi yw’r neges o ddod a llais i bobol a rhoi cyfle iddyn nhw i gael eu llais eu hunain.

Peth mawr i fi yw mod i’n gyfuniad o Jamaica a Lloegr, a dw i’n falch o’r amrywiaeth yna. Ro’dd artist gair llafar yn PSU o’r enw Tia, a cawson ni sgwrs fawr am ei hunaniaeth. Dw i wedi llwyddo i weld un o’i sioeau o’r enw Clean Slate, sydd am hunanieth gymysg yng Nghymru. Ces i ddim fy ngeni yng Nghymru ond ro’dd clywed y sgwrs yna’n ddiddorol.

 

Nes i hefyd gymryd rhan yn Poems and Pints ar ddydd Llun, trwy pobol dw i wedi cwrdda yn PSU. Nes i gwrdda Tara, artist gair llafar a wna’th ddarn ynglŷn â hunanieth a galar, a dyna ddau beth dw i’n mynd trwyddyn nhw nawr, felly ro’dd e wedi cydio yndda’i. Dw i wedi siarad gydag Eleanor ynglŷn â trafod hunanieth gyda YPSU yn ystod fy pythefnos ola. Felly wythnos nesa, byddai’n dechre’r sgwrs ‘na gyda nhw. Ac yna’ yr wythnos wedyn, fe newn ni brosiect ar hunaniaeth.

Un peth arall ma’ hwn wedi neud i’w rhoi hyder i fi mewn mannau bydden i byth yn meddwl y bydden i’n gyfforddus ynddyn nhw, am i ni drafod pa grwpiau bydden i’n gyfforddus yn gweithio gyda nhw. Nes i ddewis People Sing Up fel grŵp ro’n i am barhau i weithio gyda nhw. Nes i wir fwynhau bpod yn rhan o’r côr, on dyna wrth arwain y twymo lan, dw i’n adeiladu hyder mewn mannau lle do’n id dim yn credu bod gen i sgiliau cyn hyn.

Felly un peth dw i’n credu bod PSU wedi gwneud i fi yw rhoi llais i fi, ond dw i hefyd wedi rhannu’r llais ‘na gyda pobol eraill. Mae wedi rhoi lle cynwysedig i fi fod yn rhan ohono, yn ogystal a gallu cynnwys eraill hefyd.

Beth bydde ti’n dweud rwy’t ti wedi rhoi i PSU?

Dw i’n credu, am fy mod yn dod o gefndir Drama Gymhwysol dw i am roi mwy o hwnna i PSU. Nes i gynnal sesiwn gyda’r rhai dros 50, lle dethon ni a sgriptiau a fe na’th pobol eu scriptiau eu hunain. Des i a llyfrau mewn gyda fi ac fe na’th pawb ddarllen monologues a perfformio ac actio nhw, ac yna ro’dd tro pan bydden i’n dweud, ‘OK, darllenwch hwnna eto ond tro ‘ma rhaid i chi ei ddarllen fel petai chi’n lygoden’, ac yna ro’n nhw i gyd yn dechre gwichian. Ceson ni lot o hwyl gyda’r grwpiau yna, a na’th e ddangos bo’ nhw’n gallu neidio’n syth mewn i’r celfyddydau, a na’th e helpu dorri’r iâ i rhai pobol gan fod pawb yn mwynhau chwerthin. Ro’dd hyd yn o’d y rhai na’th ddim cymryd rhan brofi llawenydd.

Un peth dw i am ddod yw siwd ydw i’n teimlo am hunaniaeth. Gallai rhannu fy mhersbectif hunanieth cymysg, ond gall eraill siarad am eu hunanieth nhw.

Felly, ma lot o bethe anhygoel wedi digwydd, a gobeithio gallai gyfrannu mwy.

Felly, wrth edrych i’r dyfodol, beth ti’n credu y gwnei di gyda dy râdd?

Un o’r pethe dw i wedi bod yn benderfynol yn ei gylch ers dechrau’r Brifysgol yw fy mod am weithio tuag at Grâdd Meistri mewn Drama Gymhwysol. Dw i wedi dysgu cymaint am therapi drama a phethe fel y Sesame Approach, lle chi’n defnyddio adrodd straeon a barddoniaeth gyda chleifion yn therapiwtig. Bydde’n i’n hoffi gwbod mwy am hwnna.

Ond yn ddiweddar, trwy People Speak Up, dw i wedi cwrdda cymaint o artistiaid gair llafar a dw i wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau gair llafar. Yn Sadwrn Siarad y Gair nes i rhannu gwaith personol i fi ac yn Poems and Pints nes i rhannu dau ddarn, a ro’n i’n teimlo’n rhan o grŵp o feirdd. Felly mae’n newid yr ongl i’w gymryd yn y dyfodol, a falle fe wnai gymryd ongl y gair llafar.

Mae therapi drama yn ongl i fynd ar ôl hefyd. Ond dyna ogoniant grâdd Drama Gymhwysol. Hoffwn weithio i fi fy hunan, a ddim yn styc mewn un man. Felly’gall y gair llafar fod yn faes i edrych mewn iddo, a therapi drama.

Dwêd helo i Aimee!

Daw Aimee o’r Alban. Cyn y cyfnod clo, ro’dd Aimee’n bwriadu astudio sgrifennu caneuon a chyfansoddi, ond newidiodd y pandemic ei chynlluniau. Mae wastad wedi gwirfoddoli yn ei heglwys a chanolfanau cymuned amrywiol, gan ddefnyddip’r celfyddydau mewn rhyw ffordd, yn enwedig cerddoriaeth. Ro’dd hi’n sgrifennu caneuon a chanu offerynau, ond ro’dd drama yn ddiddordeb mawr hefyd.

Aimee yn helpu yn Amser Paned

Beth wyt ti’n ei fywnhau ynglŷn â’r cwrs?

Wel, dw i’n achos diddorol am i fi ddechrau yn fy ail flwyddyn! Nes i flwyddyn gynta fy ngrâdd ym Mhrifysgol Ucheldiroedd yr Alban ac yna symud lawr, a hyd yn hyn, dw i wir wedi mwynhau ca’l profiad uniongyrchol. Ma’r profiad o astudio Drama Gymhwysol yn ddiddorol am ei fod yn niche iawn, ac ma cymaint o lwybrau y gallwch eu dilyn – gallen i ddefnyddio drama mewn Ysbyty neu’r system gymdeithasol, gallen weithio gyda’r gymuned, gallen weithio mewn carchardai.

Dw i’n dwli ar y ffaith ei fod wedi ei ganoli ar bobol ac er mwyn pobol. Dw i’n hoffi hynny gan bo’ fi eishe creu argraff ar fywydau pobol trwy ddefnyddio drama mewn rhyw ffordd neu gilydd.

Cyn dod i PSU, oeddet ti’n gwbod unrhywbeth am y sefydliad, neu ag unrhyw ddisgwyliadau?

Ces i gyflwyniad byr yn wythnos y glas, a nethon nhw esbonio mae ei hethos, yn llythrennol, yw i bobol siarad lan i wella eu hiechyd meddwl, trwy rhannu eu straeon. Dw i’n darganfod eu bod yn ffyddlon i’w gair ynglŷn â’r hyn ma’ nhw am ei wneud, a ma’ nhw wastad yn newid, er mwyn bod y gore gallen nhw fod, a dw i’n caru hynny.

Ma’r profiad o wirfoddoli fan hyn yn un prysur! Yn yr wythnos gynta ro’dd y cyfan yn ormod, ond ar ôl setlo mewn a chael fy malans a deall beth yn gwmws ro’n i fod i neud yno, fe nes i ddechrau mwynhau a theimlo bod yr hyn o’dd yn digwydd yno yn fy annog.

Beth nes di fwynhau yn benodol o dy brofiad fan hyn?

Nes i fwnhau gweithio gyda pobol a chymaint o amrywiaeth oedran. O’r bobol ifanc i’r rhai hŷn, o bob math o gefndir a jyst cefnogi nhw a bod yno gyda nhw a chlywed eu straeon, trwy pa bynnag gyfrwng ma nhw’n ei ddewis, gair llafar, celfyddydau creadigol neu dim ond trio gweld beth ma nhw am ei wneud, sydd yn grêt.

Siwd wyt ti’n credu nes di elwa o dy amser yn PSU?

Mae wedi bod yn daith ddiddorol i ddeall beth sy’n fy nghyfyngu a pa fotymu sy’ ‘da fi ond do’n i ddim yn gwbod bo’ nhw ‘da fi. Ma hynny’n grêt achos dw i’n gwbod nawr.

Ond ma angen datblygu hynny. Felly ma’n dda, ma’n ddechre da i fy nhaith personnol, ma’n fy annog i ddatblygu a thyfu. Dw i hefyd wedi gweld ei fod yn ofod unighryw gan fod unrhyw un yn gallu cerdded mewn a cha’l y croeso gore ma pawb yn gallu ei gynnig, ca’l gofal a pawb yn edrych ar eich ôl. Ma’ na ganiatad i fynegu eich hunan, a ma hynny’n hyfryd.

Beth bydde ti’n dweud rwy’t ti wedi rhoi i PSU?

Dw i’n teimlo i fi fod fel craig llonydd. Dw i’n berson weddol tawel. Dw i’n credu i fi ddod a help llaw ychwanegol a dw i’n sicr yn ‘dwedwch i fi beth i’w wneud a fe wnai e’ math o berson. Felly dw i’n teimlo bo’ fi wedi dod a llaw cefnogol ychwanegol bron.

Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol ar ôl dy râdd?

Dw i wedi dechre meddwl am hynny. Ma sawl opsiwn mas ‘na. Ond dw i wir am ganolbwyntio ar yr ocjhor iechyd meddwl, a dw i’n ansicir pa lwybr i’w ddilyn. Dw i ddim yn gwbod os wnai weithio’n annibynol, yn hunan-gyflogedig, os ydw i am weithio gyda chwmni, dw i’n cadw fy opsiynau ar agor tan ddiwedd y flwyddyn hon ac yna penderfynu gobeithio dros y gwyliau.

Dw i’n edrych mla’n i’r hyn sydd o’m bla’n, ond dw i hefyd yn ymwybodol iawn bod ‘da fi benderfyniad i’w wneud a dw i ddim wedi ei wneud eto.

Ma’r cwrs dw i’n astudio nawr yn caniatau i fi fod yn hyblyg. Ac ma PSU yn hefyd, ma’n gadael i fi chwilio a phenderfynu beth i’w wneud.


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: