Manteision Gwirfoddoli gyda People Speak Up


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan yng ngweithgareddau PSU, gan gynnwys Stori Gofalu a Rhannu, Pobol yn Canu a Sadwrn Siarad y Gair.

Fel elusen cymdeithasol, iechyd meddwl, celfyddydol, iechyd a llesiant sydd yn tyfu, mae People Speak Up yn elwa o’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u hegni mewn sawl gwahanol ffordd. Mae hyn yn cynnwys cynnig cefnogaeth i grwpiau gwahanol, helpu gyda’r bwyd a’r lluniaeth, ac ymweld a chartrefi er mwyn i bawb gael mynediad i wasnaethau PSU.

Os ydych chi wedi bod yn unrhyw un o grwpiau a gweithgareddau PSU, ry’ch chi siŵr o fod wedi gweld dros eich hunan y gwaith anhygoel mae nifer o’n gwirfoddolwyr yn ei wneud.

Dywedodd Carys Phillips, Cydlynydd Prosiectau PSU:

“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith People Speak Up. Ma’ nhw’n cyfrannu gymaint o agwedd bositif, mewn sawl ffordd. Ry’n ni mor ddiolchgar am y gwaith a’r amser ma nhw’n rhoi i’r cwmni, a ma hyn wastad yn cael ei adlewyrchu yn yr adborth i’n ca’l gan y rhai sy’n cymryd rhan. Gallen i ddim gwneud be’ ni yn gwneud hebddyn nhw!”

Ond dyw gwirfoddoli ddim yn unig er lles People Speak Up. Mae sawl rheswm grêt dros fod yn rhan o achos ry’ch chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch.

Os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli, cymrwch olwg ar y manteision posib yma i gynnig eich hamser, egni a’ch sgiliau.

Rhoi Nôl i’r Gymuned

I nifer, y brif rheswm dros ddechrau gwirfoddoli yw rhoi nôl i’r gymuned. I rai, ma’r cwmni yn gweithio tuag at achos bwysig neu’n cynnig gwasanaethau ma’r gwirfoddolwr yn ei edmygu’n fawr.

Yn aml, ma’ pobol yn dewis rhoi eu hamser a’u hegni i sefydliad sydd wedi helpu nhw neu aelod o’u teulu yn y gorffennol, felly ma’r achos yn agos at eu calon.

Mae Stephen Karl Treharne, un o wirfoddolwyr PSU, yn dweud hyn:

“Fe nes i wirfoddoli gyda PSU am fy mod am roi nôl i’r gymuned hyfryd yma o bobol, sydd wedi rhoi llais i fi a Louise i siarad lan ynglŷn â beth ni wedi bod trwodd yn ein bywydau ein hunain.”

 

Cynnig Pwrpas

Ni gyd yn teimlo ar chwâl yn ein bywyd ar adegau. Mae cael pwrpas yn gallu rhoi cymhelliad i ni, a rheswm i godi yn y bore. Mae gwirfoddoli yn rhoi rhywbeth i edrych mla’n ato a synnwyr o bwrpas. Ma’ gweld siwd ma’ eraill yn elwa o’ch gwaith chi yn cynnig y sbarc sydd ei angen i gario mla’n.

Mae Stephanie Sims yn gwirfoddoli trwy wneud ymweliadau cartre a helpu yn sesiynau grŵp PSU. Mae’n credu ei bod yn cynnig ‘clust’ a’r ‘gallu i gynnig empathi’. Mae’n credu y dylai gwirfoddolwyr ‘fod yn llawen a dangos cydymdeimlad yn ôl yr angen.’

Hybu Hyder a Hunan-werth

Mae bywyd yn gallu bwrw eich hyder. Falle i chi brofi cyfnodau annodd o iechyd gwael, profedigaeteh, neu newid mawr fel gorfod symud. Gall ergydion yn eich gwaith wneud i chi amau eich hunan-werth. Neu efallai eich bod yn berson sy’n naturiol swil.

Beth bynnag yw’ch rheswm dros ddiffyg hyder, gall wirfoddoli helpu. Pan yn gwirfoddoli gallwch weithio ar eich cylfymdra eich hunan heb bwysau gwaith traddodiadol.

Wrth i chi ddod yn gyfarwydd i’ch rôl fel gwirfoddolwr, gallwch deimlo bod eich hyder a’ch hunan werth yn tyfu. Bydd y synnwyr naturiol o falchder a hunaniaeth wnewch chi ddatblygu drwy wirfoddoli yn mynd a chi’n bell.

Dechreuodd Kris Grogan fel gwirfoddolwr ond nawr mae’n gweithio i People Speak Up. “ Pan ddechreuais i fel gwirfoddolwr, ro’n i’n dod mas o le tywyll. Ro’dd ca’l cyfle i helpu eraill wedi helpu fi ar fy nhaith bersonnol, ac o fan’na, rhoi’r hyder i fi fynd i’r brifysgol.”

Cael Profiad Gwaith Gwerthfawr

Os nad ydych chi wedi cael swydd, ddim wedi gweithio ers peth amser, neu yn edrych i newid gyrfa, ma’ gwirfoddoli yn ffordd grêt i ga’l profiad gwaith gwerthfawr.

Ma’ nifer o’r sgiliau wnewch chi ddatblygu wrth wirfoddoli yn gallu cael eu cymhwyso i nifer o swyddi amrywiol. Byddwch yn datblygu sgiliau meddal fel gwaith tîm, addasrwydd, rheoli amser a chyfathrebu, sydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw awyrgylch gwaith.

Yn ychwanegol, os ydych am weithio yn sectorau celfyddydol neu llesiant, gall gwirfoddoli gyda People Speak Up fod yn garreg camu. Roedd rhai sydd nawr yn gweithio i People Speak Up wedi dechrau fel gwirfoddolwyr.

Often, employees like to see periods of volunteering on CVs as it demonstrates that you are motivated, open-minded, and compassionate.
Yn aml, mae cyflogwyr yn hoffi gweld cyfnodau o wirfoddoli ar CV am ei fod yn dangos eich bod wedi dangos cymhelliad, yn agored eich meddwl ac yn dosturiol.

Datblygu Sgiliau Newydd

I rai, mae gwirfoddoli’n gyfle i rannu sgiliau sy’n bodoli’n barod a cynnig manteision ei profiad i’r cwmni. Mae’n bosib bod sgiliau penodol da’ chi gall fod o ddefnydd.

Mae Stephen Karl Treharne wedi helpu PSU mewn sawl ffordd, gan gynnig cefnogaeth mewn grwpiau a gwneud bwyd. Dywedodd “ Dw i’n dod a fy mhrofiad fy hunan i PSU a cryn dipyn o wybodaeth o’r gorffennol sydd wedi ffito mewn yn dda.”

Ar y llaw arall, mae gwirfoddoli’n ffordd grêt i drio rhywbeth newydd. Ma’ gwthio’ch hunan tuag at brofiad neu her newydd yn ffordd grêt i ddatblygu sgiliau a gwella rhai sy’’n bodoli’n barod.

Bod yn Rhan o Dîm

Mae gwaith tîm yn eich helpu chi i ymddiried mewn pobol eraill. Mewn tîm, falle byddwch chi’n teimlo fel gwneud rhywbeth newydd gyda chefnogaeth eraill, a gall ddatblygu’ch creadigrwydd a’ch sgiliau datrys problemau.

Cwrdda Pobl Newydd

Mae People Speak Up yn cynnig gweithgareddau amrywiol i bobl o bob oedran, cefndir a gallu. Mae’r sesiynau yno i feithrin ysgrifennu creadigol a dweud stori, canu, celf a chrefft, yn ogystal â grwpiau i bobl ifanc, rhai dros 50, dynion, a rhai sydd â dementia a chyflyrau niwrolegol. Yn ogystal, mae PSU yn gweithio yn y gymuned lleol, yn cynnal sesiynau chwarae stryd i blant, gweithio gyda grwpiau ysgol a chartrefi gofal, a chynnig gwasanaethau celf ar bresgrispiswn i bobl yn eu cartrefi.

Mae rhychwant y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig gan PSU yn golygu, fel gwirfoddolwr, y gallwch gwrdda pobl o bob rhan o’r gymuned, pobl na fyddwch yn eu cyfarfod fel arall. Mae gwirfoddoli’n gyfle i adeiladu’ch cymuned lleol a gwneud ffrindiau newydd. Mae’r teimlad o gymuned yn amhrisiadwy.

Dywedodd Stephen Karl Treharne, “Pan dw i’n gwirfoddoli gyda PSU, dw eishe cynnig cefnogaeth am ei fod yn llenwi fy nghalon â hapusrwydd, ond dw i’n sylweddoli pan ry’ch chi’n cynnig cefnogaeth, ry’ch chi’n derbyn cefnogaeth yn ôl.”

Y rheswm ma’ Stephanie Sims yn dweud ei bod yn gwirfoddoli yw: ‘cyflawniad a cwrdda pobol – a gwybod eich bod yn helpu – ma nhw’n elwa hefyd.”

Gwella’ch Llesiant Meddwl

Pan ddaw holl fanteision gwirfoddoli at ei gilydd, gall gael effaith bositif ar eich iechyd meddwl. Mae bod mewn cysylltiad cyson gydag eraill o fewn y gymuned yn eich helpu i deimlo wedi cysylltu, a bydd yr hwb i’r hunan-werth a ddaw trwy ddatblygu sgiliau newydd, a’r teimlad o bwrpas a ddaw trwy wirfoddoli, yn eich helpu i reoli problemau iechyd meddwl fel stres, gor-ofid ac iselder.

Gwella’ch Iechyd Corfforol

Dyw gwirfoddoli ddim yn helpu’ch iechyd meddwl yn unig; gall helpu’ch iechyd corfforol hefyd. Yn aml, mae cyfle i wirfoddoli yn eich annog i fynd allan mwy ac i fod yn fwy gweithgar.

Mae rhai cyfleoedd gwirfoddoli’n fwy gweithgar nag eraill, felly peidiwch a digalonni rhag dod o hyd i ffyrdd i helpu – ma’ ffyrdd y gall pobl o bob gallu wirfoddoli.

Cyfleoddd i Wirfoddoli yn People Speak Up

Mae eich angen chi ar People Speak Up. Ar hyn o bryd, ma’ rhychwant o gyfleoedd ar gael, yn cynnwys cefnogi’r tîm sy’n cynnal y nifer cynyddol o grwpiau sydd yn Ffwrnes Fach, a chynnig ymweliadau cartref gwerthfawr.

Os ydych am fod yn rhan o hyn, mewn unrhyw ffordd, ebostiwch info@peoplespeakup.co.uk.


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: