Pam mae Chwarae ar y Stryd a Pobl Ifanc PSU mor bwysig i blant a phobol ifanc


Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cymryd rhan yng ngweithgareddau PSU, gan gynnwys Stori Gofalu a Rhannu, Pobol yn Canu a Sadwrn Siarad y Gair.

Mewn oes ddigidol brysur, lle mae sgrin yn dominyddu bywyd bob dydd, mae gwneud yn siŵr bod plant yn gallu chwarae yn yr awyr agored yn bwysicach nag erioed. Mae chwarae yn yr awyr agored yn help i ddatblygiad corfforol, deallusol, cymdeithasol ac emosiynol y plentyn.

Drwy gydol y flwyddyn, mae PSU yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i blant a phobl ifanc. Mae Chwarae ar y Stryd ar gael i blant o bob oedran. Mae ein tîm Chwarae ar y Stryd yn teithio ar draws Llanelli a Sir Gaerfyrddin, gan greu lle diogel i blant gwrdd â ffrindiau newydd a chwarae tu fas.

Mae Ieuenctid PSU (YPSU) yn cynnig lle heb farnu i unrhyw un rhwng 11-18 oed. Pob wythnos yn Ffwrnes Fach, Canolfan Celf, Iechyd a Lles yn Llanelli, mae YPSU yn cynnig cyfle i bobl ifanc gwrdd â phobl eraill, adeiladu hyder, datblygu sgiliau, a darganfod eu llais.

Dyma sydd gan Lauren Cole, Cynorthwyydd Datblygu Chwarae a Gofal i Blant Cyngor Sir Caerfyrddin i ddweud am Chwarae ar y Stryd:

‘Mae Chwarae ar y Stryd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o brosiect Gwaith Chwarae y Gaeaf. Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi comisiynu PSU i gynnal sesiynau chwarae lleol er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd chwarae i blant mewn cymunedau bregus ac i ddatblygu lles plant a’u lefelau gweithgarwch. Mae'r prosiect hefyd yn helpu i leihau newyn gwyliau trwy baratoi byrbrydau iach yn ystod y sesiynau chwarae. Mae'n cynnig cyfle i blant a'u teuluoedd gymdeithasu, bod yn weithgar, dysgu rhywbeth newydd, bwyta'n iach ac, yn fwy pwysig ‘na dim, cael hwyl gyda'i gilydd!’

Gadewch i ni edrych ar sut mae gweithgareddau fel Chwarae ar y Stryd a YPSU yn helpu pobl ifanc.

Mae Chwarae ar y Stryd yn Helpu Datblygiad Corfforol

Mae Chwarae ar y Stryd yn cynnig cyfleoedd i blant gysylltu â’i giydd mewn gweithgareddau corfforol, gan gryfhau eu hiechyd a'u lles cyffredinol.

Mae tîm Chwarae ar y Stryd PSU bob amser yn dod â dewis o degannau, gemau, a gweithgareddau i unrhyw le ma’ nhw’n mynd. Mae'r gweithgareddau'n amrywio, a gall plant ddod â'u gemau eu hunain hefyd.

Bydd llawer o'r gemau yn helpu plant i ddatblygu sgiliau motor, cydlyniad, balans a chryfder. Mae'r gweithgareddau corfforol yma hefyd yn gwella iechyd cardiofasgwlaidd, adeiladu esgyrn a chymalau cryf, ac yn helpu i atal gordewdra a phroblemau iechyd cysylltiedig.

Mae Kenzie yn aml yn dod i Chwarae ar y Stryd. Mae’n dweud ei fod, "…yn hoffi dod i gyfarfod â ffrindiau a rhedeg o gwmpas!"

Mae Chwarae ar y Stryd a YPSU yn Gwella Datblygiad Gwybyddol

Mae chwarae awyr agored yn ysgogi datblygiad gwybyddol (cognitive) plant drwy roi profiadau cyfoethog ac aml-synnwyr iddyn nhw.

Er bod llawer o'r gemau y mae'r tîm yn eu cyflwyno i Chwarae ar y Stryd yn ymddangos fel hwyl yn unig, ma’ nhw hefyd yn annog sylwadau, ymchwiliad a meddwl beirniadol. Yn ogystal, mae chwarae awyr agored yn gwella’r gallu i ddatrys problemau, ymwybyddiaeth ofodol, a resymu mathemategol wrth i blant fynd i'r afael â heriau corfforol, adeiladu strwythurau a bod yn rhan o chwarae dychmygol.

Mae gweithgareddau YPSU yn helpu plant hŷn a phobol ifanc yn yr un ffordd. Mae cyfuniad o weithgareddau dan arweiniad hwyluswyr amrywiol yn aml yn cynorthwyo ein pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio'r rhai sydd ganddyn nhw’n barod mewn ffordd greadigol. 

Ryan attends, and he said YPSU is "Fun..you meet people, learn new skills, and it's very inclusive."

Mae Ryan wedi bod i Ieuenctid PSU, ac mae'n dweud ei fod yn ‘Hwyl...rwyt ti'n cwrdda pobl, dysgu sgiliau newydd, ac ma’ pawb yn teimlo’n rhan o bopeth’

Mae YPSU a Chwarae ar y Stryd yn Hyrwyddo Lles Emosiynol

Ma’ bod yn yr awyr agored yn effeithio'n sylweddol ar les emosiynol plant. Mae chwarae awyr agored yn caniatáu iddyn nhw ymlacio, lleihau straen, lleihau pryder a rhoi hwb i iechyd meddwl. 

Gallwn ni  byth ddibynnu ar yr haul i wenu yn Ne Cymru, ond ma' bod yng ngolau naturiol yr haul yn cyfrannu at greu Fitamin D sy’n reoleiddio'r hwyliau ac at atal iselder. 

Mae YPSU a Chwarae ar y Stryd yn gyfleoedd gwych i bobl ifanc gwrdd â phobl eraill. Mae teimlo’n gysylltiedig a chymdeithasu yn bwysig i les emosiynol.

Drwy deithio i wahanol leoliadau o amgylch Llanelli a Sir Gaerfyrddin, mae tîm Chwarae ar y Stryd PSU yn helpu plant i gael ffrindiau newydd yn lleol. Weithiau, ni fyddai'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael y cyfle ‘ma i gysylltu â phobl eraill. 

Mae YPSU yn debyg iawn. Mae'n gyfle i wneud ffrindiau newydd y tu allan i'r ysgol neu'r coleg, a mae llawer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn datblygu cyfeillgarwch cryf. 

Mae Grace yn dod i YPSU ac yn dweud "Mae'n hwyl i gwrdd â phobl a bod oddi wrth y teulu am beth amser." 

Mae Chwarae ar y Stryd a YPSU yn Cynyddu Sgiliau Cymdeithasol a Chyfathrebu 

Mae Chwarae ar y Stryd yn hyrwyddo datblygiad sgiliau cymdeithasol hanfodol a chyfathrebu effeithiol. Mae llawer o gemau yn annog gwaith tîm, cydweithredu, trafod a datrys gwrthdaro. Drwy chwarae, mae plant yn dysgu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu gwerthfawr a fydd yn eu helpu drwy gydol eu bywydau.

Mae rhai gweithgareddau'n golygu bod plant yn dysgu cymryd eu tro, rhannu adnoddau a chyfathrebu syniadau. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu empathi ac ymdeimlad at eraill. Mae chwarae awyr agored hefyd yn helpu plant i wneud ffrindiau ac ymarfer etiquette cymdeithasol.

Mae llawer o'r gweithgareddau yn YPSU yn helpu pobl ifanc i weithio gyda'i gilydd mewn grwpiau. Drwy weithgareddau creadigol, datrys problemau, a trafod pynciau pwysig, gall pobl ifanc feithrin eu sgiliau cyfathrebu.

Mae Alex yn dweud bod YPSU yn "mynd â fi mewn i gymuned ac yn fy helpu i adael y tŷ."

Mae Chwarae ar y Stryd a YPSU yn Annog Dychymyg a Chreadigrwydd

Mae'r rhyddid ma’ Chwarae ar y Stryd yn ei gynnig yn caniatáu i blant rhyddhau eu dychymyg a'u creadigrwydd. Mae llawer o’r gemau a’r gweithgareddau awyr agored yn annog chwarae ffuglennol, lle mae plant yn defnyddio eu dychymyg i greu.

Yn yr un modd, mae YPSU yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau artistig i annog y plant i fynegu eu hunain  - o baentio, creu, cerddoriaeth, adrodd storïau, a hyd yn oed graffiti, celf tywod a chelf tirlun, gall pobl ifanc gymryd rhan yn y gweithgareddau creadigol sy'n eu ysbrydoli nhw fwyaf.

Mae Konnah yn mwynhau YSPU ac yn dweud, "Mae'n fy ngalluogi i adael y tŷ, ac fe allwn ni chilo neu ymuno, sy'n grêt i fi."

Mae Chwarae ar y Stryd yn Helpu Plant i Ddatblygu Sgiliau Asesu Risg a Gwrthsefyll

Mae Chwarae ar y Stryd yn rhoi cyfleoedd i blant asesu risgiau a datblygu gwytnwch. Ma’ nhw’n dysgu mesur eu gallu corfforol a gwneud penderfyniadau'n annibynnol.

Trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, mae plant yn gallu asesu eu terfynau a dysgu o'u profiadau, gan adeiladu hunan-hyder a’u gallu i wrthsefyll. Mae'r broses ‘ma yn eu rhoi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi i wynebu adfyd a heriau'n gadarnhaol.

Ymunwch â Ieuenctid PSU a Chwarae ar y Stryd

Do’s dim amheuaeth nad yw gweithgaredd awyr agored yn llesol i blant. O ddatblygiad corfforol i dwf deallusol, lles emosiynol, sgiliau cymdeithasol, a chreadigrwydd mae chwarae awyr agored yn cynnig agwedd holistaidd at ddatblygiad plant. 

Trwy annog pobl ifanc i ymgysylltu mewn chwarae gemau a gweithgaredd awyr agored, mae'n helpu eu lles corfforol a meddyliol ac yn magu sgiliau bywyd hanfodol. 

Ma'r cyfle i fod yn greadigol, mynegi hunan-barch a bod yn rhan o'r gymuned yn YPSU yn annog sgiliau cymdeithasol, helpu pobl ifanc i adeiladu hyder, ac ysbrydoli eu astudiaethau a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Os oes diddordeb gyda ti mewn Young People Speak Up, mae sesiynau ar gyfer rhai rhwng 11-14 oed rhwng 3:30-5:00 bob dydd Mercher a sesiynau ar gyfer rhai rhwng 15-18 5.30 – 7.00 bob dydd Mercher hefyd. Ar ddydd Iau, mae sesiwn oedran cymysg rhwng 4:00-6:00.

Mae Chwarae ar y Stryd ar gael ar amseroedd a lleoliadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn, gyda dyddiadau ychwanegol yn cael eu hychwanegu drwy gydol gwyliau ysgol. Cadwch mewn cysylltiad gyda'r union amseroedd ar wefan PSU, drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bostio info@peoplespeakup.co.uk.

 


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: