Posted on Sep 18, 2024
Comments (0)
Mae PSU yn cysylltu pobl i'w helpu i ddod o hyd i'w llais, a chreu cymunedau iachach a gwydn trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, gweithgareddau'n seiliedig ar sgwrs, celfyddydau cyfranogol, gwirfoddoli a hyfforddiant.
Cafodd PSU ei roi ar y rhestr fer yng Nghategori Gwobr Arloesedd yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru am ei Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref, rhaglen sy'n cael ei chyflwyno ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhaglen, a grëwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cysylltu Sir Gâr, wedi'i chynllunio i helpu pobl hŷn, yn enwedig y rhai sy'n unig ac yn byw mewn arwahanrwydd, i ymgysylltu a helpu i wella eu hiechyd meddwl a'u lles gan ddefnyddio'r celfyddydau a chreadigrwydd. Mae'r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref yn gweld meddygon teulu, hwyluswyr a Cysylltu Sir Gâr yn cyfeirio achosion a'u paru â hwylusydd proffesiynol ac artist llawrydd o PSU. Dros gyfnod o 6 mis mae'r artist a'r hwyluswyr yn mynd i gartref yr unigolyn hŷn ac yn cyflwyno sesiwn un i un.
Ganed y rhaglen Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref o'r angen i aros mewn cysylltiad â chymuned PSU o bobl hŷn yn ystod COVID, ond amlygwyd yr angen i barhau i gyflwyno'r gwasanaeth hanfodol hwn pan redodd prosiect peilot, Kreative Kinship on Prescription yn 2023, a gweld pa mor bwysig yw'r gwasanaeth un i un pwrpasol hwn mewn ardaloedd gwledig a mynediad cyfyngedig.
"Rydym wedi bod yn gweithio ar wella'r gwasanaeth creadigol cartref pwrpasol hwn ers dechrau'r Pandemig Covid, pan gawsom ein cloi fel cymuned, pan sylweddolom fod angen i'n pobl hŷn gael y gwasanaethau cymunedol hynny wedi'u cymryd i ble maen nhw'n byw, yn eu cartrefi. Nid oedd Zoom yn hygyrch i bawb!"
Eleanor Shaw, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU.
"Felly am y 3 blynedd diwethaf rydym wedi bod yn mynd â storïwyr, beirdd, awduron, cantorion, dawnswyr, rapiwr ac artistiaid gweledol ar y ffordd! Os na allai'r bobl hŷn ddod i'n canolfan celfyddydau a iechyd yn Llanelli, yna bydden ni’n mynd â hi atyn nhw! Mae wir wedi bod yn daith hud, nid yn unig i'r cyfranogwr ond hefyd i'r tîm creadigol. Mae perthnasoedd wedi datblygu, mae swyddi newydd wedi'u creu, rydym wedi gweld gwelliant mewn iechyd meddwl, lles, mae symudedd wedi cynyddu ac mae'r bobl hŷn nad oedden nhw’n gadael eu cartref am fisoedd, wedi dechrau ymweld â ni yn ein canolfan. Mae effaith riplo o wydnwch cymunedol a grymuso personol wedi dod o syniad syml iawn."
Yn 2023 yn unig, helpodd y Gwasanaeth Dosbarthu Cartref Creadigol dros 100 o bobl yn y gymuned.
"Ry’n ni mor hapus i glywed bod y Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref ar rhestr fer y wobr yma. Ry’n ni’n falch bod Gwasanaeth Ataliol Cysylltu Sir Gâr wedi cefnogi’r prosiect ysbrydoledig yma, ac mae’n dyst i’r gwaith anhygoel mae People Speak Up yn ei wneud." Heidi Wilton-Baker, Arweinydd Hwb Cymunedol, Nacro Cymru a Cysylltu Sir Gâr.
'Mae ymarfer unrhyw gelfyddyd, i ba bynnag lefel, gyda People Speak Up, yn ffordd o wneud i'ch enaid dyfu.' Jackie Runacres, Prif Swyddog Comisiynu (Gofalwyr), Cyngor Sir Caerfyrddin.
"Mae gweld mam yn gyffrous ac yn hapus am ymdrech greadigol wedi bod yn wych. Mae'n rhywbeth cadarnhaol ni’n gallu siarad amdano pan mae hi wedi colli cymaint i'w salwch. Mae gweld yr effeithiau cadarnhaol arni yn gwneud i mi deimlo'n hapusach a llai o straen." Gofalwr
"Ro’n i’n aros mewn llawer ac nawr rydw i allan bob dydd... yn dysgu sut i gymdeithasu oherwydd doeddwn i ddim yn gwneud llawer o hynny." Cyfranogwr
"Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i ddatblygu'r gwasanaeth hwn: Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiried ynom i gyfeirio'r bobl hŷn mwyaf agored i niwed i'r gwasanaeth a'n comisiynu fel rhan o Brosiect Cysylltu Sir Gâr. Diolch yn fawr i Gyngor Celfyddydau Cymru am ein hariannu a pharhau i gefnogi ein gwasanaethau celfyddydau ac iechyd." Eleanor Shaw, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU.
Cynhelir seremoni Gwobrau Busnes Cymdeithasol yng Nghanolfan Venue Cymru, Gogledd Cymru ar 1 Hydref.
Comments (0)
Add a Comment