• »
  • »
  • Gwirfoddolwr lleol wedi'i ysbrydoli i weithredu a chodi arian i helpu pobl sy'n byw gyda Dementia

Gwirfoddolwr lleol wedi'i ysbrydoli i weithredu a chodi arian i helpu pobl sy'n byw gyda Dementia


Mae gwirfoddolwr o Gaerfyrddin gyda People Speak Up wedi'i ysbrydoli i weithredu a helpu codi arian ar gyfer Dementia UK ar ôl gwirfoddoli gydag un o'i rhaglenni sy'n cael ei rhedeg yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Katy Hocking o Gaerfyrddin wedi bod yn wirfoddolwr gyda People Speak Up ac wedi bod yn helpu rhaglen Amser Dishgled Caerfyrddin, sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw yn y gymuned leol sy'n byw gyda Dementia. Mae Katy wedi bod yn helpu yn y sesiynau wythnosol ar ddydd Mercher yn y Ganolfan Meithrin yng Nghaerfyrddin am dri mis a roedd hi eisiau codi arian ar gyfer Dementia UK.

Mae Amser Dishgled Caerfyrddin yn sesiwn a lle diogel i'r rhai sydd ar daith dementia ddod at ei gilydd a chysylltu trwy rannu straeon, celf, cerddoriaeth, symud, sgwrsio a chymdeithasu ar yr un pryd.
Mae Amser Dishgled yn sesiwn ar gyfer y rhai sy'n byw gyda Dementia yn ogystal â gofalwyr / aelodau'r teulu i ddod draw os ydyn nhw'n dymuno.


"Rydw i wedi gweld sut y gall y sesiynau fod yn wirioneddol wobrwyol a faint rydyn ni angen cefnogi'r rhai a'u teuluoedd ar daith Dementia. Rydw i wedi bod eisiau codi arian ar gyfer Dementia UK, a hefyd rhywbeth i'm hysgogi i symud. Gwelais fod Dementia UK yn rhedeg her gerdded 30 milltir a meddyliais fod hynny'n rhywbeth a allai fy helpu i ddechrau bod yn actif a helpu codi arian ar gyfer yr achos teilwng hwn," meddai Katy.


"Dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi cael trafferth go iawn i gael fy ysgogi, ac mae hyn wirkedi fy ysgogi. Rydw i'n byw mewn rhan brydferth o Gymru, ac wedi mwynhau mynd allan a gwerthfawrogi'r hyn sydd ar garreg ein drws. Mae'n fy helpu i'n fawr, ond rydw i'n gwybod pa mor bwysig yw hi i godi arian ar gyfer Dementia UK hefyd."

Mae Katy wedi gosod her iddi hi ei hun i godi £250 ar gyfer Dementia UK erbyn diwedd mis Medi trwy gerdded 30 milltir. Dim ond ychydig o filltiroedd sydd ganddi i gwblhau'r her hon. Os hoffech chi gefnogi Katy a rhoi rhodd, ewch i
https://www.facebook.com/donate/356061607560045/356061634226709


Mae Katy wedi bod yn gwirfoddoli gyda People Speak, sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl a lles sydd wedi'i leoli yn Llanelli ond yn gweithio ar draws Sir Gaerfyrddin.

"Rydyn ni mor ddiolchgar i Katy am roi ei hamser i gefnogi ein grŵp, mae ei hangerdd dros bobl a'r celfyddydau yn disgleirio trwy ei gwên bob wythnos*." Eleanor Shaw, Sylfaenydd a Prif Swyddog Gweithredol, People Speak Up.
Mae PSU yn cysylltu pobl i'w helpu i ddod o hyd i'w llais, a chreu cymunedau iachach a mwy gwydn trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, gweithgareddau sy'n seiliedig ar sgwrs, celfyddydau cyfranogol, gwirfoddoli a hyfforddiant.
Os hoffech chi wybod mwy am Amser Dishgled Caerfyrddin neu Amser Dishgled yn Llanelli neu am gyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â:
info@peoplespeakup.co.uk 01554 292393


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: