Posted on Dec 02, 2024
Comments (0)
Yn ystod y 6 mis diwethaf rydym wedi bod yn un o bartneriaid y prosiect ‘Camu i Mewn’ - rhaglen hyfforddi a mentora newydd a chyffrous sy’n cael ei threialu i bedwar o ymarferwyr mentora dan hyfforddiant o gymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
Dyma’r gyntaf o’i math i Dde a De Orllewin Cymru.
Cynlluniwyd Camu i Mewn gan Rwydwaith Celfyddydau Iechyd Llesiant Cymru (WAHWN), trwy ymgynghori â’r sector i ymateb i’r diffyg amrywiaeth yn y gweithlu celfyddydau a chreadigol iechyd. Bydd y rhaglen hon yn helpu i gynyddu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy’n ofynnol i gyflwyno prosiectau mewn lleoliadau celfyddydol ac iechyd, trwy hyfforddiant, cysgodi a phrosiect byw, mentora a chymorth gan gymheiriaid.
“Roeddem yn falch iawn o fod yn bartner celfyddydol ar Camu i Mewn, rhaglen fentora newydd sbon sy’n cael ei threialu dan arweiniad WAHWN. Fe wnaethom wirioneddol fwynhau gweithio gyda’r holl bartneriaid, rhoddodd ddealltwriaeth dda iawn a chymaint o wersi i ni i gyd. Roeddem am fod yn rhan o’r prosiect hwn oherwydd y diffyg amrywiaeth yn y gweithlu celfyddydau ac iechyd ac roeddem yn meddwl y byddai hyn yn gyfle gwych i gefnogi ymarferwr creadigol yn PSU.
Mae’r broses gyfan o gynllunio ar gyfer wythnos breswyl, cyfweld ymgeiswyr, yr wythnos breswyl, y lleoliad, mentora a gwerthuso wedi bod yn llawn o wersi, ac rydym mor ddiolchgar i’n mentorai, Pete Mosey.
Bu Pete yn gweithio ar draws ein rhaglen o’n canolfan yn PSU yn Llanelli i’n gwasanaeth cartref creadigol ar draws Sir Gaerfyrddin. Gallem weld ei hyder yn cynyddu ac roedd ganddo gymaint i’w roi fel ymarferwr creadigol, mae Pete yn awr yn rhan o’n tîm llawrydd yn PSU.” Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU, Eleanor Shaw.
"“Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i dyfu a datblygu fy sgiliau gyda chefnogaeth Eleanor a’r tîm cyfan yn PSU, ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn cymryd rhan mewn prosiectau fel P’nawn Arty, Stori Gofalu a Rhannu, a’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref. Mae’r cyfnod mentora cyfan wedi rhoi’r hyder i mi gyflwyno sesiynau celfyddyd greadigol a llesiant i unigolion ac i grwpiau. Mae wedi fy nghyfoethogi’n fawr yn bersonol a phroffesiynol.” Pete Mosey" Pete Mosey
Roeddem yn un o’r sefydliadau celfyddydol oedd yn bartneriaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Datblygu Celfyddydau Caerffili, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac Ysgol Gelfyddydau Caerdydd.
Dros y blynyddoedd diweddar, gwelwyd dealltwriaeth gynyddol o’r effaith y mae gweithgaredd creadigol neu ddiwylliannol yn gallu ei gael ar iechyd a llesiant. Mae’n cynnwys unrhyw brosiect, ymyrraeth neu gomisiwn celfyddydol lle mai’r bwriad yw gwella iechyd a llesiant. Mae prosiectau celfyddydau ac iechyd yn digwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, lleoliadau cymunedol a chelfyddydol a’u nod yw cefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Darllenwch ragor am y celfyddydau ac iechyd.
Gwyliwch y fideo i ddysgu rhagor am y prosiect a’i effaith.
Comments (0)
Add a Comment