Posted on Dec 02, 2024
Comments (0)
Wedi ei drefnu gan Planed, mae datblygiad y Ganolfan Byw’n Dda wedi codi o ymateb i alw gan y cyhoedd am well cydlynu ar wasanaethau a pharodrwydd gan lawer o bartneriaid i rannu adnoddau a bod ar yr un lleoliad yng Nghaerfyrddin.
Cynhelir diwrnod agored i nodi lansiad swyddogol y Ganolfan Byw’n Dda ar 5 Rhagfyr, a bydd yn arddangos y gwasanaethau a’r gefnogaeth gan bartneriaid presennol gan gynnwys Age Cymru Dyfed, Crossroads Carers Trust, Prosiect Lluosi Coleg Sir Gâr, People Speak Up, The Cae, Shadows, a Foothold Cymru, ymhlith eraill.
Rydym eisoes wedi dechrau rhaglen o weithgareddau yn y Ganolfan Byw’n Dda:
Yn dechrau 28 Tachwedd
Amser Dishgled Caerfyrddin
Dydd Iau - 1pm-2.30pm
Yn dechrau 4 Rhagfyr
P’nawn Arty Caerfyrddin
Dydd Mercher 1pm-2.30pm
Comments (0)
Add a Comment