Dwyn cymunedau a phobl at ei gilydd trwy chwedleua ar draws Sir Benfro.


Gyda chefnogaeth Gwella Sir Penfro – Cyngor Sir Penfro, bydd y prosiect 12 mis, ‘Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol Sir Benfro,’ yn defnyddio chwedleua llafar i gysylltu preswylwyr Sir Benfro a chyflwyno digwyddiadau chwedleua cymunedol cyfeillgar, cynhwysol, gweithdai dysgu gweithredol a chwedleua un i un i’r rhai unig/sy’n methu teithio.


Mae Fishguard Storytelling/Straeon Sir Benfro a People Speak Up wedi gweithio mewn partneriaeth o’r blaen i gyflawni prosiectau cymunedol yng ngogledd a de Sir Benfro, fel prosiect Celfyddydau Gwirfoddol Cymru (Bywydau Creadigol nawr) ‘Stori Gofal a Rhannu’, yn dosbarthu Straeon at y Drws a dros y ffôn i bobl hŷn unig, a chartrefi pobl, gan gynnwys y rhai yng nghyfnod cynnar dementia.


Mae’r ddau sefydliad am i Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol roi cyfleoedd i bobl o bob oed, gallu a chefndir i fwynhau’r manteision iechyd meddwl a llesiant y mae rhannu straeon llafar yn eu cynnig.


Amlygodd y cyfrifiad diwethaf bod cyfran uwch o bobl hŷn yng ngorllewin Cymru na’r cyfartaledd ar draws Cymru, yn arbennig felly yn Sir Benfro. Disgwylir i’r ganran o’r boblogaeth...65 a hŷn godi i...33.4% yn Sir Benfro erbyn 2043. (Adroddiad Bwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru) ac mae ail Asesiad Llesiant Sir Benfro a gynhyrchwyd gan PSB (2022) yn cadarnhau bod Covid-19 wedi gwaethygu problemau fel iechyd meddwl, unigrwydd ac annhegwch iechyd. Nododd yr adroddiad hefyd bod ‘Pobl sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn gyson yn cofnodi lefelau uwch o ran llesiant’. Er bod Straeon Sir Benfro yn croesawu pob oed ac yn denu rhai yn eu 40au/50au, mae’r galw mwyaf gan gyfranogwyr hŷn, 60-80 yn fras, sy’n byw ar eu pennau eu hunain yn aml.


“Rydym wedi cyffroi o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Pembrokeshire Storytelling / Straeon Sir Benfro eto a defnyddio eu gwybodaeth leol a’u talent chwedleua, gyda’n model o weithio yn Sir Gâr. Fe wnaethom ddysgu cymaint o’n prosiectau blaenorol yng nghymuned Sir Benfro a gweld sut y gall grym chwedleua ddod â phobl at ei gilydd o bob rhan o’r sir, gan helpu gydag iechyd, llesiant ac unigrwydd.” Eleanor Shaw, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU.


Arweinir Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol Sir Benfro gan y chwedleuwraig leol o Sir Benfro, Deb Winter, gan adeiladu ar ei gwaith llwyddiannus yn datblygu gweithgareddau chwedleua ac yn gwahodd artistiaid a chydweithwyr eraill i gymryd rhan.

Bydd y digwyddiad chwedleua nesaf yn cynnwys y chwedleuwyr o Ddinbych y Pysgod, Phil Okwedy a Bill Taylor-Beales yng nghaffi Peppers yn Abergwaun ar ddydd Iau 27 Chwefror, 7pm. Bydd ‘Call of the Blues’ yn archwilio themâu pobl wedi eu caethiwo; tlodi a phrotestio’r dosbarth gweithiol, a brwydrau’r 19eg a’r 20fed ganrif rhwng pobl â pheiriannu sy’n arwain at bryderon presennol y ganrif hon am Ddeallusrwydd Artiffisial. Cynhelir y digwyddiad chwedleua nesaf ar ddydd Mercher 26 Mawrth, 7pm yng Nghaffi Peppers eto, gyda Deb Winter, y ffidlwr Barney Griffiths ac artistiaid eraill.


Cyn y ddwy sioe mae cyfle i’r gynulleidfa rannu stori fer/cyfraniad cerddorol.


“Rydym mor falch o fod wedi derbyn cynnig gan Gyngor Sir Penfro a chefnogaeth gan People Speak Up i ddwyn y digwyddiadau hyn i’n cymuned leol. Ein huchelgais yw dwyn manteision chwedleua llafar i fwy o bobl yn Sir Benfro, datblygu talentau chwedleua lleol a rhoi’r cyfle i bobl leol greu cysylltiadau ystyrlon gyda’i gilydd trwy weithgaredd sy’n rhoi mwynhad ac yn ysbrydoli.” Deb Winter.


Comments (0)


Add a Comment





Allowed tags: <b><i><br>Add a new comment: