Posted on Mar 27, 2025
Comments (0)
Mae Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr yn dod â nifer o sefydliadau partner at ei gilydd, gan gynnwys People Speak Up, mewn un gofod ar y cyd ym Mharc Dewi Sant, safle hen Ysbyty Seiciatrig Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
PLANED sy’n cydlynu’r ganolfan ac mae’r cydweithio eisoes yn gwella mynediad at ystod ehangach o wasanaethau llesiant yng Nghaerfyrddin a’r cyffiniau.
Ar hyn o bryd mae People Speak Up yn cynnig P’nawniau Arty a sesiynau Amser Dishgled yn y ganolfan, sy’n golygu bod mwy o bobl yn gallu eu mwynhau a chael budd ohonynt.
Dywedodd Sylfaenydd a Phrif Weithredwr People Speak Up, Eleanor Shaw, “Roeddwn wrth fy modd bod PSU wedi eu gwahodd gan Lucy Cummings, hi oedd yr un wnaeth yrru’r weledigaeth ar gyfer y ganolfan. Mae bod yr unig fenter gymdeithasol gelfyddydol ac iechyd yn dyst i ansawdd ein darpariaeth i’r gymuned. Fe wnaethom dorchi’n llewys o’r dechrau, fe gychwynnodd y gwaith i ni ym mis Rhagfyr ac rydym wedi cydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar sesiynau misol i ofalwyr a’u hanwyliaid.”
“Rydym yn atgyfeirio pobl yn wythnosol at wasanaethau eraill fel The Cae, Physical Empowerment, Age Cymru Dyfed, Delta, Heddlu Dyfed Powys a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae’r Ganolfan hon yn dangos beth all ddigwydd pan fydd gwasanaethau’n dod at ei gilydd; dyma’r ffordd ymlaen ar gyfer atal yn y gymuned a llesiant. Diolch yn fawr i Lucy ac Iwan yn Planed am arwain y Ganolfan flaengar hon.”
Bûm yn siarad ag Iwan Thomas a Lucy Cummings o PLANED, yn ogystal â’r gwirfoddolwyr a’r cyfranogwyr oedd yn dod i sesiynau People Speak Up yn y Ganolfan Byw’n Dda.
Gadewch i ni ddysgu rhagor am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl o’r Ganolfan Byw’n Dda.
Beth yw PLANED?
Elusen ddatblygu cymunedol yw PLANED a gychwynnodd yn Sir Benfro dros 37 mlynedd yn ôl. Mae’r elusen yn defnyddio dull cydweithredol, dan arweiniad pobl i gyflawni deilliannau cynaliadwy i gymunedau.
Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED, “Yn y pum mlynedd diwethaf, mae wedi ail ffocysu gyda gweledigaeth sefydliadol newydd ar sail gwybodaeth gan gymunedau. Mae PLANED yn awr wedi ehangu i weithio ar ôl troed rhanbarthol, yn cynnwys Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Mae PLANED yn elusen brofiadol, sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn cael ei harwain gan y gymuned sy’n flaengar yn ei dull, ag agwedd greadigol ac yn canolbwyntio ar bartneriaeth wrth gyflawni.”
Beth yw nodau Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr?
Yn ôl Iwan, mae nod Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr yn cyd-fynd â gweledigaeth PLANED o “Rymuso Cymunedau”.
“Trwy ddarparu gofod cadarnhaol, cynhwysol a thryloyw lle mae cyd-gynhyrchu yn cael ei gyflawni – ac nid yn cael ei drafod yn syml mewn egwyddor – mae’n ganolfan unigryw sy’n esblygu lle gall sefydliadau a phrosiectau sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl mewn cymunedau rannu gofod gyda’i gilydd er budd pobl a chymunedau.”
“Mae’r Ganolfan Byw’n Dda yn lle ar y cyd sy’n hyrwyddo llesiant, gwytnwch a hyrwyddo hygyrchedd sy’n galluogi’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth i gael y rhain mewn ffordd nad yw’n cael ei hyrwyddo na’i galluogi yn unman arall.”
Beth allwch chi ei ddisgwyl wrth ymweld â’r Ganolfan?
Mae’n siŵr y bydd ymwelwyr â Chanolfan Byw’n Dda Sir Gâr sy’n ymweld am y tro cyntaf am wybod beth i’w ddisgwyl a pha wasanaethau sydd ar gael. Dywedodd Iwan wrthyf:
“Gall ymwelwyr ddisgwyl canolfan groesawus a hygyrch sydd ar agor 5 diwrnod yr wythnos o 9am hyd 5pm. Gyda dros 20 o sefydliadau yn gweithio o’r ganolfan ar seiliau amrywiol - rhai yn amser llawn a rhai’n rhan-amser - y cyfan yn cael eu hyrwyddo ar-lein trwy Facebook, trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol sefydliadau partner a phosteri yn ein derbynfa yn hyrwyddo gweithgareddau yn y dyfodol a’r gwasanaethau presennol.”
“Mae ymwelwyr yn gallu dod i’r ganolfan a gwneud ymholiadau cychwynnol neu archebu ymlaen llaw i gael y gefnogaeth a’r rhyngweithio sy’n cael eu hysbysebu. Ar ôl cyrraedd y ganolfan, gall y rhyngweithio amrywio o sesiynau wyneb yn wyneb i sesiynau a gweithgareddau i grwpiau mwy. Mae’r cyfan yn canolbwyntio ar gyflawni a hyrwyddo llesiant, sy’n galluogi gwytnwch, eglurder a ffocws trwy gyd-gynhyrchu, rhannu adnoddau a thraws-hyrwyddo i sicrhau bod y person yn ganolog i’r ddarpariaeth bob amser.”
Pwy sy’n ymwneud â Chanolfan Byw’n Dda Sir Gâr ac a ddisgwylir i fwy o sefydliadau ymuno?
Ar hyn o bryd mae dros 20 o sefydliadau yn ymwneud â’r ganolfan gan gynnig gwasanaethau a rhyngweithio dyddiol, wythnosol, bob pythefnos a misol.
Dywedodd Iwan wrthyf, “Mae gennym gyfres wych o bartneriaid sydd ar hyn o bryd yn gweithredu ac yn gweithio gyda’i gilydd, ac mae hyn yn cynyddu’n barhaus wrth i effaith gadarnhaol y Ganolfan Byw’n Dda edrych ar gynyddu ymhellach, gyda PLANED yn derbyn mwy a mwy o ymholiadau a cheisiadau.
Dyma rai o’r sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â’r Ganolfan ac yn ei defnyddio: People Speak Up, Age Cymru Dyfed, ANGOR, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Papyrus, The Cae, LINKS, Heddlu Dyfed Powys, Coleg Sir Gâr, Delta Wellbeing, Tîm Gofal Sylfaenol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Shadows, Foothold, a Gweithio Sir Gâr, ymhlith llawer mwy.
Mae Iwan yn gweld y Ganolfan fel “adnodd sy’n esblygu a fydd yn cael ei yrru gan y bobl o’n cymunedau sy’n defnyddio’r ganolfan a’i gwasanaethau, ynghyd â’r sefydliadau sy’n bartneriaid, sy’n gobeithio defnyddio’r ganolfan a’i hyrwyddo.”
“Rydym am iddi fod yn ganolfan werthfawr a gwerth chweil sy’n dwyn sefydliadau at ei gilydd i ddynodi cyfleoedd pellach i gydweithio ar wytnwch a chefnogi pobl yn ein cymunedau - sydd yn awr yn gallu defnyddio nifer o wasanaethau a sefydliadau mewn un lleoliad canolog, yn hytrach na gorfod mynd i leoliadau gwahanol ar amseroedd gwahanol. Yr her, fodd bynnag, yw cyllid a chael adnoddau i ganolfan o’r fath ac mae PLANED wedi arwain hyn er mwyn galluogi’r partneriaid a’r cyhoedd i gael y lle hwn am ddim. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau a bydd yn dibynnu ar gefnogaeth a’r rhyngweithio â darparwyr eraill, yr ydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth a’u cyfraniad hyd yn hyn.”
People Speak Up yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr
Roeddwn wedi cyffroi o gael y cyfle i alw heibio ac ymuno â sesiwn P’nawn Arty yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar. Hwylusydd People Speak Up, Steffan, oedd yn rhedeg y sesiwn gyda chymorth gan Katie, gwirfoddolwraig sy’n cynorthwyo yn y sesiynau P’nawn Arty ac Amser Dishgled yn y Ganolfan.
Os nad ydych erioed wedi bod mewn sesiwn P’nawn Arty yn People Speak UP, mae bob amser yn gyfle tawel i greu, cyfarfod a sgwrsio gydag eraill. Bob wythnos, mae cyfle i ddatblygu eich sgiliau celf a chrefft neu greu rhywbeth er eich pleser eich hun yn unig. Roedd sesiwn Steffan ar y diwrnod y gwnes i ymweld yn cynnwys creu cylchgronau bach personol o gyfryngau cymysg â llaw.
Ers dechrau cynnig sesiynau yn hwyr y llynedd, mae’r nifer sy’n cymryd rhan wedi cynyddu.
Disgrifiodd rhai o’r cyfranogwyr sesiynau P’nawn Arty yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr fel rhai “sy’n ysbrydoli,” “therapiwtig”, ac yn “ffordd wych o newid meddwl.”
Wrth sgwrsio gyda Katie, fe ddywedodd ei bod wedi ei magu yn yr ardal ac am arwyddocâd Ysbyty Dewi Sant fel adeilad amlwg lleol trwy ei hoes. Mae ganddi brofiadau personol o weithio yn yr ysbyty, ymweld a byw ac astudio yn agos at yr hen ysbyty.
Fe wnaethom sôn am yr hyn yr oedd hi’n ei gofio am yr ysbyty a pha mor hawdd yw bod â theimladau cymysg am yr adeilad hardd rhestredig hwn sydd â chymaint o hanes.
Soniodd Katie am gymaint yr oedd yn ei olygu i gael y Ganolfan Byw’n Dda a People Speak Up ar y safle hwn a pha mor gyffrous oedd hi iddi weld yr adeilad yn cael bywyd eto gyda diben mor gadarnhaol.
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr
Stori, Gofalu, Rhannu - Dydd Mawrth 1pm-2.30pm
Cynhelir y P’nawn Arty bob dydd Mercher rhwng 1pm a 2.30pm,
Cynhelir Amser Dishgled bob dydd Iau rhwng 1pm a 2.30pm.
Gallwch ddysgu rhagor am ddigwyddiadau People Speak Up yn y Ganolfan Byw’n Dda yma, neu trwy anfon e-bost at info@peoplespeakup.co.uk Er mwyn dysgu rhagor am y Ganolfan Byw’n Dda ewch i wefan PLANED.
Comments (0)
Add a Comment