Posted on Apr 10, 2025
Comments (0)
Mae People Speak Up Llanelli wedi ennill Gwobr Effaith Diwylliannol am ei dull blaengar o helpu pobl hŷn yn lleol, gwella iechyd a llesiant yn arbennig i’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac yn unig drwy eu Prosiect Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref.
Cynhaliwyd y Gwobrau Effaith Diwylliannol cyntaf erioed, wedi eu trefnu gan Get The Chance a Tempo Time Credits, yn Porter’s Bar, Caerdydd dros y penwythnos. Roedd PSU ar y rhestr fer yn y categori Diwylliant ac Iechyd am ei Wasanaeth Creadigol yn y Cartref, rhaglen sy’n cael ei chyflwyno trwy Sir Gâr.
Cynlluniwyd y rhaglen sydd wedi ei chreu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cysylltu Sir Gâr, i helpu pobl hŷn, yn arbennig y rhai sy’n unig ac yn byw ar eu pennau eu hunain, i ymgysylltu a helpu i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant gan ddefnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd. Mae’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref yn gweld meddygon teulu, hwyluswyr a Cysylltu Sir Gâr yn cyfeirio achosion a’u cyfateb â hwylusydd proffesiynol ac artist llawrydd o PSU. Mae’r artist a’r hwyluswyr yn mynd i gartref y person hŷn a chyflwyno sesiwn un i un.
Deilliodd y rhaglen Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref allan o’r angen i gadw cysylltiad gyda chymuned PSU o bobl hŷn yn ystod COVID, ond amlygwyd yr angen i barhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn pan wnaethant redeg prosiect treialu, Kreative Kinship on Prescription yn 2023, a gweld pa mor bwysig oedd y gwasanaeth un i un hwn mewn ardaloedd gwledig gyda mynediad cyfyngedig.
“Rydym wedi bod yn gweithio ar wella’r gwasanaeth i’r diben hwn yn y cartref ers dechrau’r Pandemig Covid, pan oedd y gymuned mewn cyfnod clo, pan wnaethom sylweddoli bod ar ein pobl hŷn angen y gwasanaethau cymunedol yma yn y lle maen nhw’n byw, yn eu cartrefi. Nid oedd Zoom yn hygyrch i bawb!”
Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU, Eleanor Shaw.
“Rydym am ddiolch i’n holl artistiaid llawrydd - chwedleuwyr, beirdd, awduron, cantorion, dawnswyr, rapwyr ac artistiaid gweledol sy’n mynd i gartrefi pobl a’u helpu i oresgyn rhwystrau a chefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Rydym am ddiolch i’r cannoedd sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn. Diolch i chi am ymddiried yn ein tîm, ein hartistiaid a’n croesawu i’ch cartrefi i’ch helpu ar eich taith.
Mae wedi bod yn daith wirioneddol hudolus, nid dim ond i’r rhai a gymerodd ran ond i’r tîm creadigol hefyd. Datblygodd perthnasau, crëwyd swyddi newydd, rydym wedi gweld gwelliant mewn iechyd meddwl, llesiant, mae symudedd wedi cynyddu ac mae’r bobl hŷn oedd ddim yn gadael eu cartrefi am fisoedd, wedi dechrau ymweld â’n canolfan. Mae’r effaith wedi lledaenu i fod yn wytnwch cymunedol a grymuso personol, y cyfan yn deillio o syniad syml iawn.”
Mae People Speak Up (PSU) Llanelli yn sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl a llesiant sy’n gweithio o’r Ganolfan Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ac mae’n gweithio ar draws Sir Gâr.
Mae PSU yn cysylltu pobl er mwyn eu helpu i ddod o hyd i’w llais, a chreu cymunedau iachach a mwy gwydn trwy chwedleua, gair ar lafar, ysgrifennu creadigol, gweithgareddau ar sail sgwrsio, celfyddydau cyfranogol, gwirfoddoli a hyfforddiant.
“Mae gweld mam wedi cyffroi ac yn hapus am ymdrech greadigol wedi bod yn wych. Mae’n beth cadarnhaol y gallwn ni sôn amdano a hithau wedi colli cymaint i’w salwch. Mae gweld yr effaith gadarnhaol arni hi yn gwneud i mi deimlo’n hapusach a dan lai o straen.” Gofalwr
“Roeddwn yn arfer bod yn y tŷ o hyd ond nawr rwyf allan bob dydd...yn dysgu sut i gymdeithasu oherwydd nid oeddwn yn gwneud llawer o hynny.” Cyfranogwr
“Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r gwasanaeth hwn: Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiried ynom ni gan gyfeirio’r bobl hŷn fwyaf bregus at y gwasanaeth a’n comisiynu fel rhan o’r Prosiect Cysylltu Sir Gâr. Diolch yn fawr i Gyngor Celfyddydau Cymru am ein hariannu a pharhau i gefnogi ein gwasanaethau celfyddyd ac iechyd.” Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU, Eleanor Shaw.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref ar wefan a chyfryngau cymdeithasol People Speak Up
Comments (0)
Add a Comment