Newyddion a Blogiau Diweddaraf

Cyfweliad Gyda Juliet Fay

Mae Juliet Fay yn hwylusydd gwadd gyda PSU a dechreuodd fod yn rhan o PSU yn ei ddyddiau cynnar, pan cafodd wahoddiad i fod yn hyfforddwraig i gynorthwyo Eleanor Shaw wrth iddi hi ddechrau Stori Rhannu Gofalu – prosiect sy’n dod â pobl sy’n wynebu anhawsterau iechyd corfforol neu chymdeithasol at ei gilydd. Roedd cael cefnogaeth Juliet yn werthfawr iawn i Eleanor â’i thîm.Read more...


Pobl People Speak Up

Mae People Speak Up yn cynnig nifer o brosiectau celfyddydol yn Llanelli i bobl o bob cefndir ac oedran. Ma nhw’n cynnig cyfle i bobl ymwneud â’i gilydd yn y gymuned, ar sawl platfform, gan gynnwys Stori, Rhannu Gofalu, Sadwrn Siarad y Gair a llawer mwy. I ddysgu mwy am y bobl sy’n cymryd rhan ac yn gwirfoddoli ym mhrosiectau PSU, dw i wedi bod yn siarad gyda rhai sy’n rhan o grwpiau amrywiol.Read more...


Iechyd Meddwl Dynion: Chwalu’r stigma a siarad lan!

Gan Peter Wyn Mosey
Mae Peter Wyn Mosey yn cyfrannu i brosiectau People Speak Up, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu a Sadwrn Siarad y Gair.

Yn ôl ymchwil yn 2014, mae gan un dyn o bob wyth broblemau iechyd meddwl ond dyw dynion ddim yn barod iawn i siarad am eu problemau.

Mae mwy a mwy o ddynion…

Read more...


Beth mae People Speak Up yn ei olygu i’w gyfranogwyr.

Mae People Speak Up yn achubiaeth i nifer o’r bobl sy’n ymwneud â’r grŵp. Mae’n le i gyfarfod â phobl sy’n meddwl yr un ffordd a chi ac i rannu straeon neu farddoniaeth - a cherddoriaeth nawr ac yn y man hefyd. Mae gan People Speak Up sawl platfform lle ma modd i bobl gymryd rhan, gan gynnwys Stori, rhannu, gofalu, Sadwrn Gair a Siarad, Ieuenctid People Speak Up a chymaint mwy. Mae hen ddigon o gyfle i chi gymryd rhan gan fod prosiectau newydd yn dechrau’n gyson a digon o gyfle felly i ddod yn rhan o gymuned sy’n tyfu.Read more...


Dod a pobl at ei gilydd: Taith Cyfnod Clo People Speak Up

Ar 23 Mawrth, caeodd PSU y drysau yn Ffwrnes Fach ac ymuno a phawb arall wrth weithredu cyfyngiadau’r cyfnod clo. Roedd yr hwb cymundol hanfodol yma wedi bod yn cynnal sawl prosiect, gan gynnwys Stori, Rhannu, Gofalu, Sadwrn Siarad y Gair, Caffi Canser yn ogystal a phrosiect yng Nghlwb Ieuenctid Bwlch. Yn anffodus, roedd cyfyngiadau a achoswyd gan COVID-19 wedi gorfod dod a rhain i ben, dros dro o leia.Read more...