Astudiaethau Achos o Chwarae Stryd

 

 

Astudiaethau Achos o Chwarae Stryd

Fran, Maddie and Nansi

 

A allech chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?

 

Fy enw i yw Fran. Rydw i'n 28 oed, rydw i'n byw yng Nghaerfyrddin, ym Mharc Hall. Rydw i'n fyfyriwr yn y Brifysgol ar hyn o bryd, yn astudio Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol y byddaf yn ei orffen ym mis Mai. Rydw i hefyd yn gweithio'n llawn amser.

 

Maddie, a allech chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?

 

Rydw i'n 6 oed. Rydw i'n hoffi chwarae gyda fy ffrindiau, ac rydw i'n hoffi chwarae cuddio a chwilio a tag. Rydw i'n dwlu treulio amser a chwarae gyda nhw.

 

Sut clywsoch chi am People Speak Up?

 

Clywais amdano gan ffrind, a gwelais hefyd hysbyseb amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Pryd dechreuoch chi ddod i Chwarae Stryd?

 

Yr haf diwethaf pan ddechreuoch chi (PSU) ddod gyntaf (i Stryd Ann) oedd y tro cyntaf i ni ddechrau dod i'r sesiynau.

 

Beth yw eich hoff beth am ddod i Chwarae Stryd?

 

Y lliwio a chwarae gydag Ivy a Nansi.

 

Pa newidiadau cadarnhaol ydych chi wedi'u sylwi yn eich plant ers dod i Chwarae Stryd?

 

Yn fwy felly gyda Nansi, mae hi'n cymysgu'n well gyda phlant eraill. Ac yn bersonol, gyda fi, gan nad ydw i'n eu gweld yn aml yn ystod y dydd, rydw i'n cael treulio amser gyda nhw fan hyn, felly fi'n cael rhyngweithio ‘da nhw yn ogystal â nhw'n cael cyfle i ryngweithio â phlant eraill.

 

Sut mae Chwarae Stryd yn gwneud i chi deimlo?

 

Hapus.

 

Beth ydych chi'n meddwl yw effeithiau hirdymor Chwarae Stryd ar eich plentyn a phlant eraill sy'n mynychu?

 

Eu bod yn hapus, mae'n rhywbeth y maen nhw'n edrych ymlaen ato. Cyn gynted a ma’ nhw'n gweld y pebyll yn cael eu codi, maen nhw'n dod yn gyffrous ar unwaith, ac ma’ nhw hefyd yn mwynhau eich gweld chi (Kris a Ffi). Mae'n braf eu gweld yn hapus.

 

Ydych chi'n meddwl bod Chwarae Stryd wedi cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned?

 

Ydw, mae'n dod â phawb at ei gilydd. Mae'n braf ac mae wedi dod â phlant at ei gilydd. Byddan nhw ddim fel arfer yn cymysgu â'r plant eraill sy'n byw o gwmpas yma, felly dw i'n meddwl ei fod wedi gwneud hynny.

 

 

 

 

 Sam, Ruben and Eboni

A allech chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?
Fy enw i yw Sam, mae gen i 4 o blant. 2 o dan 10 oed. Dw i ddim yn gwybod beth arall rydych chi eisiau ei wybod mewn gwirionedd! Ha ha.

Ruben, a allech chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?
Dw i'n hoffi chwarae pêl-droed. Rydw i'n byw mewn tŷ gyda fy nghymdogion. Rydw i'n naw oed.

Sut clywsoch chi am People Speak Up? Pryd dechreuoch chi ddod i Chwarae Stryd?
Dechreuon ni ddod yn ystod yr haf y llynedd, 22.

Beth yw eich hoff beth am Chwarae Stryd?
Dw i'n cael chwarae pêl-droed. Ac maen nhw'n rhoi afalau ac orennau i mi.

Pa newidiadau cadarnhaol ydych chi wedi'u sylwi yn eich plant ers dod i Chwarae Stryd?
Ma’ nhw'n mwynhau'r awyr agored llawer mwy, ma’ nhw'n rhyngweithio â phlant eraill llawer mwy. Ma’ nhw'n eishe bod allan yn chwarae drwy'r amser, beth bynnag fo'r tywydd.

Sut mae Chwarae Stryd yn gwneud i chi deimlo?
Hapus. Cyffrous! Dw i ddim yn gwybod.

Beth ydych chi'n meddwl yw effeithiau hirdymor Chwarae Stryd ar eich plentyn a phlant eraill sy'n mynychu?
Cael y gallu i gymysgu ag eraill. Yr hyder i wneud pethau gydag eraill.

Ydych chi'n meddwl bod Chwarae Stryd wedi cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned?
Ydw, yn bendant. Yn bendant. Rydych chi'n gweld llawer mwy o blant allan yn chwarae ac yn ymuno.

 

 

 

 Harri and Meg

 

A allech chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?
Mabwysiadais i Harri fel babi newydd-anedig. Mae e'n 13 oed nawr. Rydyn ni'n byw yn Llanelli, symudon ni i Lanelli yn ddiweddar ac doedd ‘da ni ddim lle i fynd. Ac yna clywsom ni am People Speak Up.

Harri, a alli di ddweud ychydig wrthym amdanat ti dy hun?
Fi yw mab mabwysiedig fy mam. Rydw i'n 13 oed. Rydw i'n mynd i ysgol Heol Goffa. Dw i'n hoffi mynd ar Wyliau ac dw i'n hoffi tryciau a lorïau a threnau.

Sut clywsoch chi am People Speak Up?
Cwrddais i â Ffion mewn diwrnod agored ym Mharc Howard yng ngwanwyn 2022 a dywedodd hi wrtha’i am Young People Speak Up.

Pryd dechreuoch chi ddod i Chwarae Stryd?
Dechreuon ni ddod i chwarae stryd yn ystod haf 2022.

Beth yw eich hoff beth am Chwarae Stryd?
Gweld ffrindiau.

Pa newidiadau cadarnhaol ydych chi wedi'u sylwi yn eich plant ers dod i Chwarae Stryd?
Dw i wedi sylwi ei fod wedi tyfu i fyny, mae wedi dod yn fwy annibynnol oherwydd bod yna gymysgedd o oedrannau y gall gymdeithasu â nhw.

Beth yw eich hoff beth am Chwarae Stryd?
Cwrdd â ffrindiau.

Sut mae Chwarae Stryd yn gwneud i chi deimlo?
Hapus.

Beth ydych chi'n meddwl yw effeithiau hirdymor Chwarae Stryd ar eich plentyn a phlant eraill sy'n mynychu?
Dw i'n meddwl y bydd yn eu dysgu nhw sut i gymdeithasu a chwrdd â phlant eraill a gwneud ffrindiau parhaol.

Ydych chi'n meddwl bod Chwarae Stryd wedi cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned?
Ydw, yn bendant. Mae'n hyfryd bod gan y plant hyn i ddod iddo.

 

 

Donna Lee, Marla and Elaina

   

 

A allech chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?
Fy enw i yw Donna Lee, ac dw i'n gweithio i People Speak Up.

Elaina, a alli di ddweud ychydig wrthym amdanat ti dy hun?
Dw i'n 7 mlwydd oed, bron yn 8 mlwydd oed. Dw i'n hoffi chwarae gyda fy chwaer a'r tŷ doliau ac dw i'n hoffi ymlacio a bod yn gyfforddus.

Sut clywsoch chi am People Speak Up?
Nees i ymuno â'r adran weinyddol yn People Speak Up yn ystod y cyfnod clo fel gweithiwr llawrydd, ac rydw i wedi bod yn gweithio yno ers hynny. Roeddwn i wir yn hoffi ein bod ni wedi dechrau gwneud y prosiect Chwarae Stryd a siaradais â Eleanor amdano gan fy mod i'n awyddus i fod yn rhan o'r tîm hwyluso. Trwy'r prosiect hwn dw i nawr wedi gallu cael Hyfforddiant Chwarae, a dechrau gweithio ar y prosiect Chwarae Stryd, sy'n gyffrous ac yn werth chweil iawn i fi yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae gen i nawr gontract rhan-amser gyda People Speak Up ac dw i'n dwlu bod yn aelod o staff.

Pryd dechreuoch chi ddod i Chwarae Stryd?
Dechreuodd fy mhlant ddod i Chwarae Stryd yn ôl pan ddechreuodd y prosiect, ond ma’ nhw wedi bod yn dod yn amlach yn ddiweddar.

Beth yw eich hoff beth am ddod i Chwarae Stryd?
Rydyn ni'n cael chwarae llawer o gemau hwyl dw i'n meddwl! Fy ffefryn mae'n debyg yw ping pong a badminton. Dw i ddim yn gwybod yn siŵr.

Pa newidiadau cadarnhaol ydych chi wedi'u sylwi yn eich plant ers dod i Chwarae Stryd?
Dw i wedi sylwi ar newid enfawr yn eu lefel hyder yn sicr, yn y ffordd ma’ nhw'n rhyngweithio â phlant eraill, yn enwedig plant hŷn. Hefyd ma’ nhw'n fwy hyderus o gwmpas oedolion nawr, ac ma’ nhw'n ei chael hi'n haws ymuno â gweithgareddau grŵp a rhoi cynnig ar bethau newydd. Dysgodd Elaina sut i chwarae badminton a chwaraeon eraill yn Chwarae Stryd, ac mae hi'n dwlu chwarae'r rheiny nawr.

Sut mae Chwarae Stryd yn gwneud i chi deimlo?
Cyffrous

Beth ydych chi'n meddwl yw effeithiau hirdymor Chwarae Stryd ar eich plentyn a phlant eraill sy'n mynychu?
Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio mewn rhai o'r sesiynau Chwarae Stryd, a gwirfoddoli yn y rhai mwy diweddar a dw i wedi sylwi ar newid enfawr yn y rhyddid y mae'r plant yn ei dangos gyda'u chwarae. Maen nhw hefyd yn dod yn fwy annibynnol wrth i amser fynd heibio, ac yn fwy hyderus.

Ydych chi'n meddwl bod Chwarae Stryd wedi cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned?
Dw i'n meddwl bod ganddo effaith anhygoel ar y gymuned, mae'n rhoi lle diogel i blant chwarae a bod yn blant, sy'n iach iawn ar gyfer eu datblygiad ac mae'n bendant yn caniatáu i blant gymysgu â phlant na fyddan nhw wedi cwrdd â nhw yn unman arall o bosibl, a theimlo eu bod yn fwy integredig yn eu cymunedau. Dw i'n meddwl ei fod hefyd yn helpu cael y pethau hyn yn digwydd mewn ardaloedd mwy difreintiedig na fyddai fel arfer yn cael gwasanaethau.