Yn cysylltu pobl i greu cymunedau iach a chryf trwy adrodd stori, y gair llafar, sgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfrannogol. Ry’ ni’n cynnig gweithdau creadigol, hyfforddiant, digwyddiadau, cyfle i wirfoddoli a digon o sgwrsio.
Yn People Speak Up rydym yn adnabod ein hunain fel cymuned – mae hyn yn cynnwys y bobl rydyn ni’n gwasanaethu, staff, gweithwyr llawrydd, gwirfoddolwyr, rheolwyr a bwrdd yr ymddiriedolwyr.
Ein gwerthoedd yw:
Gwrando: Gwrando'n weithredol heb feirniadu ar bawb rydym yn dod i gysylltiad â nhw.
Cynhwysiant: Ymdrechu am degwch, ymladd yn weithredol yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol a buddsoddi mewn bod yn gymuned wrth-hiliol go iawn.
Cydweithredu: Ymgysylltu mewn perthnasoedd gwaith ystyrlon gyda phartneriaid a rennir eu gwerth ac unigolion i gryfhau ein heffaith gyda'n gilydd.
Dysgu: Dydyn ni ddim yn ofni gofyn y cwestiynau anodd, yn agored i dderbyn a dysgu o'n methiannau, ac yn rhannu ein canfyddiadau gyda'n cymuned, partneriaid a rhwydweithiau ehangach.
Arweinir gan Bobl: Bod yn dryloyw gyda'n cymuned a phartneriaid fel y gallwn barhau i dyfu a chael ein harwain gan bobl bob amser ac nid gan agenda.
Story Care & Share Participant |
"...I found out how to laugh again"