Bydd y Ganolfan Glyd Greadigol yn lle diogel anfeirniadol i bobl sydd angen teimlo’n ddiogel, yn gynnes ac i gymryd rhan mewn gweithgaredd llesiant creadigol gydag ymarferwyr llesiant wedi eu hyfforddi.
Diodydd poeth a lluniaeth am ddim.
Bydd ein hystafelloedd ochr ar agor a bydd y gweithgareddau canlynol ar gael gydag ymarferwr llesiant:
Setiau Pen Rhithwir
Cyfrifiadur Gemau
Gemau Bwrdd
Celf a Chrefft
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Bydd y cyfranogwyr hefyd yn gallu cymryd rhan yn y prif weithgareddau yn y prif ofod, sy’n cynnwys sesiynau celf ac ysgrifennu creadigol.
Byddwn hefyd yn gallu eich cyfeirio at ein partneriaid i gael cefnogaeth ychwanegol os bydd arnoch ei hangen.
01554 292393
Bydd Dominic Williams yn rhedeg gweithdai creadigol yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr fel rhan o’n Canolfan Glyd Greadigol
Dydd Mawrth 18 a 25 Mawrth, 1.30pm-3.30pm