Arts Boost

Hwb celfyddydol

Person swinging on a swing

Yn 2022, fe wnaethom lansio prosiect newydd o’r enw hwb celfyddydol, a gynlluniwyd i wella iechyd meddwl, a lleihau teimladau o drallod drwy ymgysylltu â’r celfyddydau.

Mae’r prosiect ar gyfer plant a phobl ifanc gorllewin Cymru sy’n hysbys i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS).

Mae’n brosiect ar y cyd rhwng ein gwasanaeth S-CAMHS, tîm y celfyddydau ac iechyd, a thri phartner celfyddydol. Ewch i'w gwefannau isod i ddarganfod mwy:

 

 
 

 

Mae Hwb Celfyddydau yn rhan o raglen genedlaethol ar gyfer y celfyddydau a’r meddwl, sy’n cefnogi byrddau iechyd ledled Cymru i wella iechyd meddwl. Fe’i hariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Datblygwyd hwb celfyddydol oherwydd y cynnydd mewn anawsterau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, a niferoedd cynyddol yn ceisio cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl.

Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod gan y celfyddydau rôl bwerus i’w chwarae wrth wella lles a lleihau teimladau o drallod. Mae hefyd yn rhoi mynediad i fwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymdopi creadigol am oes.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid celfyddydol i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cyfryngau cymysg creadigol a arweinir gan artistiaid o’r enw ‘Creative Freestyling’.

Mae adborth gwerthfawr gan bobl ifanc sydd eisoes wedi elwa o'r prosiect wedi cael ei ddefnyddio i'n helpu ni wrth symud ymlaen.

Gwyddom fod ymgysylltu â gweithgareddau creadigol a arweinir gan artistiaid wedi helpu plant a phobl ifanc i:

  • gwella lles a lleihau teimladau o drallod;
  • datblygu sgiliau ymdopi creadigol am oes;
  • creu man diogel i ganiatáu i adferiad ddechrau;
  • hybu gwydnwch a sgiliau ymdopi a chynyddu ymdeimlad o rymuso.

Mae’r bobl ifanc wedi dweud wrthym:

  • “Dysgais ryddhau tensiwn.”
  • “Dyma sut rydw i'n dangos fy meddyliau a theimladau.”
  • “Celf yw’r unig ffordd rydw i’n mynegi rhai o’m hanawsterau.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am hwb celfyddydol neu'r broses atgyfeirio, anfonwch e-bost at:
Hwb celfyddydol: ArtsandHealth.HDD@wales.nhs.uk

Atgyfeiriadau ar gyfer hwb celfyddydol: PsychologicalTherapies-SCAMHS.HDD@wales.nhs.uk