Gwasanaeth celfyddyd ac iechyd i bobl hŷn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yw’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref, i’r bobl hynny sy’n derbyn neu mewn perygl o fod angen gofal yn y cartref. Arweinir y prosiect gan People Speak Up (PSU) ac fe’i cefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cysylltu Sir Gâr, Pobl a Nacro a’i nod yw gwella iechyd meddwl, llesiant ac iechyd corfforol a lleihau unigrwydd trwy ddarparu gweithgareddau creadigol yn y cartref.
Dyma rai o’r canlyniadau allweddol:
Effaith y prosiect ar unigrwydd cymdeithasol a llesiant y cyfranogwyr
Cofnodwyd buddiannau o ran iechyd meddwl a llesiant gan y rhai a gymerodd ran, gofalwyr ac artistiaid, ac roedd rheolaeth effeithiol, cysylltiad creadigol a rhyngweithio cymdeithasol yn gymorth neilltuol. Gwelodd rhai a gymerodd ran welliannau yn eu hiechyd corfforol o ganlyniad i gynnwys gweithgareddau ar sail symud. Cyfrannodd anogaeth a her ofalus yr artistiaid, ynghyd â chyfleoedd i ddathlu cynnyrch creadigol i gyd at wella llesiant.
Datblygiad a’r hyn a ddysgwyd gan yr artistiaid a’r hwyluswyr
Daw artistiaid ag amrywiaeth eang o sgiliau i’r gwaith, o ran perthnasau ac yn greadigol. Roedd eu profiad personol o heriau iechyd meddwl ac effaith gadarnhaol gweithgaredd creadigol yn sail i lunio perthnasau dwfn ac empathetig. O ganlyniad, roedd y prosiect yn agor lle ar gyfer myfyrio am atgofion, teimladau, gobeithion ac ofnau. Disgrifiwyd hyn fel ‘meddyginiaeth i’r enaid’ ac fe’i cyferbynnwyd â dulliau mwy clinigol a ddefnyddir mewn lleoliadau gofal traddodiadol. I rai artistiaid trawsnewidiwyd y ffordd y maen nhw’n amgyffred eu swyddogaeth fel artistiaid, gan weld y swyddogaeth hwyluso yn broses greadigol ynddi ei hun. Mae cefnogaeth effeithiol i artistiaid wedi bod yn allweddol.
Partneriaethau a chyd-gynhyrchu
Yn ganolog i’r prosiect mae tîm o gyfranogwr, artist a hwylusydd. Ond mae’r rhain yn eistedd mewn set ehangach o berthnasau sy’n cynnwys teulu a gofalwyr y rhai sy’n cymryd rhan, a phartneriaid y prosiect. Gyda’i gilydd cydweithiodd y rhanddeiliaid yma i gyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant cadarnhaol gyda’r un oedd yn cymryd rhan, gyda phob un yn dod â’i wybodaeth a’i sgiliau ei hun. Gwnaed nifer o argymhellion i gryfhau’r dull cyd-gynhyrchiol hwn, gan gynnwys trwy rannu gwybodaeth am yr artist a’r un sy’n cymryd rhan cyn y sesiwn gyntaf a thrwy gysylltu’r rhai sy’n cymryd rhan â’i gilydd, ac artistiaid â’i gilydd, yn fwy effeithiol. Trwy gynyddu swyddogaeth partneriaid y prosiect mae cyfleoedd newydd i atgyfeirio yn codi.
Effaith ar ‘bobl bwysig eraill’
Yn ychwanegol at yr effaith ar y rhai oedd yn cymryd rhan, mae’r prosiect hefyd wedi gwella llesiant ymysg gofalwyr y rhai gymerodd ran yn sylweddol. Fe wnaethant ddisgrifio cynnydd yn eu tawelwch meddwl yn gysylltiedig â’r ymwybyddiaeth bod eu hanwyliaid mewn ‘dwylo diogel’ ac yn cael cyfle i lunio perthynas newydd a phrofiadau newydd. Fe wnaethant ddisgrifio lleihad yn eu teimlad o euogrwydd a phwysau i ddarparu ar gyfer holl anghenion emosiynol, corfforol a deallusol yr un oedd yn cymryd rhan.
Diwylliant sefydliadol
Datblygodd PSU ddiwylliant sefydliadol unigryw sy’n rhoi blaenoriaeth i berthnasau a’i nodweddu gan gydraddoldeb, cyfeillgarwch ac ysbryd o gefnogaeth. Mae’r artistiaid yn cael eu cefnogi a’u cynnwys fel cyd-grewyr ar eu taith o newid eu hunain sy’n cael ei chefnogi. Mae presenoldeb ffisegol y sefydliad mewn cymuned, ynghyd â’i bortffolio o brosiectau, yn galluogi cysondeb a sefydlogrwydd ynghyd â’r cyfle i gefnogi cyfranogwyr i brofiadau newydd. Fodd bynnag, mae’r cysondeb hwn yn heriol mewn cyd-destun lle gwelir cyllido tymor byr.
Effaith a’r hyn a ddysgwyd o’r dull Newid Mwyaf Arwyddocaol
Roedd y dull Newid Mwyaf Arwyddocaol yn galluogi amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys cyfranogwyr, staff a phartneriaid i fod yn rhan o werthuso a dysgu oddi wrth y prosiect. Trwy ddefnyddio storïau roedd y tîm yn gallu archwilio agweddau o ran perthynas, emosiynol ac ysbrydol newid yn gysylltiedig â’r prosiect. Roedd y fersiwn hon o’r prosiect yn cynnwys lleisiau gofalwyr a phartneriaid yn ychwanegol at y cyfranogwyr a’r staff. Roedd y panel Newid Mwyaf Arwyddocaol yn cytuno y dylid defnyddio dulliau naratif o werthuso ynghyd â dulliau meintiol ym mhob agwedd o waith PSU.